Cyfarfodydd

Iechyd Meddwl Amenedigol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 31/01/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar Iechyd Meddwl Amenedigol yng Nghymru

NDM6642 Lynne Neagle (Torfaen)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar Iechyd Meddwl Amenedigol yng Nghymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Hydref 2017.

Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru ar 28 Tachwedd 2017.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.28

NDM6642 Lynne Neagle (Torfaen)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar Iechyd Meddwl Amenedigol yng Nghymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Hydref 2017.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 06/12/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

8 Ymchwiliad i iechyd meddwl amenedigol - ystyried yr ymateb gan Lywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Cytunodd y Pwyllgor i ofyn am ddadl yn y cyfarfod llawn a threfnu sesiwn graffu ddilynol ymhen y flwyddyn ym mis Tachwedd 2018.

 


Cyfarfod: 30/11/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 9)

9 Llythyr gan Goleg Brenhinol Meddygon Teulu Cymru - adroddiad iechyd meddwl amenedigol

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 16/11/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Llythyr gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru - Adroddiad ar Iechyd Meddwl Amenedigol

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 16/11/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Llythyr gan Fwrdd Prifysgol Cwm Taf - Adroddiad ar Iechyd Meddwl Amenedigol

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 04/10/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Ymchwiliad i Iechyd Meddwl Amenedigol – Llythyr gan Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 20/09/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Llythyr gan Uwch Grwner EM ar gyfer Gogledd Cymru (Dwyrain a Chanolog) - Ymchwiliad i Iechyd Meddwl Amenedigol

Mae'r Crwner wedi ymateb i gais y Pwyllgor am wybodaeth yn ymwneud â chwest y tynnwyd sylw'r Pwyllgor ato yn ystod ei ddigwyddiad i randdeiliaid ar iechyd meddwl amenedigol.

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 20/09/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

Ymchwiliad i Iechyd Meddwl Amenedigol - Ystyried yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft. Derbyniwyd yr adroddiad drafft, yn amodol ar rai mân newidiadau.

 

 


Cyfarfod: 20/09/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Gohebiaeth gan Fyrddau Iechyd Lleol - Ymchwiliad i Iechyd Meddwl Amenedigol

Ysgrifennodd y Pwyllgor at yr holl Fyrddau Iechyd Lleol yn gofyn am wybodaeth ychwanegol ynglŷn â chefnogaeth seicolegol ar gyfer yr ymchwiliad. Mae'r llythyrau'n rhoi manylion y wybodaeth a ddaeth i law. 

 

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 20/09/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Llythyr gan y Cadeirydd at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Ymchwiliad i Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc

Mae'r Cadeirydd wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet yn gofyn am wybodaeth ychwanegol ar gyfer yr ymchwiliad

 

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 20/09/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon - Ymchwiliad i Iechyd Meddwl Amenedigol

Ymateb Ysgrifennydd y Cabinet i'r camau a godwyd yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar 12 Gorffennaf. 

 

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 12/07/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i iechyd meddwl amenedigol – sesiwn dystiolaeth 11

Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Joanna Jordan - Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl, Llywodraethu’r GIG & Gwasanaethau Corfforaethol

Karen Jewell - Swyddog Nyrsio Mamolaeth a Blynyddoedd Cynnar

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon. Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i ddarparu nodyn ar y canlynol:

 

·         Amserlenni ynghylch pryd y bydd darlun data llawn y Bwrdd Iechyd ar gael, sy'n cynnwys nifer y menywod sydd wedi cael eu cyfeirio a'u gweld gan seicolegwyr a'r rhai a atgyfeiriwyd ond nad ydynt yn gallu cael mynediad at seicolegydd.

·         Y diweddaraf am argaeledd mynediad i driniaeth siarad wyneb yn wyneb.

·         Nodyn ar y dystiolaeth a roddwyd gan Gymdeithas Seicolegol Prydain bod y rhai sy’n cyflwyno gwasanaethau seicoleg amenedigol yng Nghymru yn gorfod ceisio goruchwyliaeth y tu allan i Gymru, o ganlyniad i ddiffyg seicolegydd amenedigol ymgynghorol yng Nghymru.  

·         Diweddariad yn dilyn cyfarfod y cyd Bwyllgor ar 25 Gorffennaf i drafod yr adolygiad o'r galw am wasanaethau haen 4.

·         Nodyn ar unrhyw ymchwil sydd ar gael ar effaith methu bwydo ar y fron, ac a yw hyn yn sbardun i iselder ôl-enedigol a pha gamau sy'n cael eu cymryd gan staff rheng flaen i gefnogi mamau sy'n bwydo ar y fron.

 

 


Cyfarfod: 12/07/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Nodyn ar Grŵp Llywio Iechyd Meddwl Amenedigol Cymru Gyfan

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 12/07/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Ymchwiliad i iechyd meddwl amenedigol – Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd mewn perthynas â'r ymchwiliad. Caiff adroddiad drafft ei drafod ar ddechrau tymor yr hydref.

 

 


Cyfarfod: 06/07/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Ymchwiliad i iechyd meddwl amenedigol – sesiwn dystiolaeth 10

Charlotte Harding, Sylfaenydd a Chadeirydd – Perinatal Mental Health Cymru

Barbara Cunningham, Ymddiriedolwr - Perinatal Mental Health Cymru

Dr Jess Heron, Cyfarwyddwr - Action on Postpartum Psychosis

Sally Wilson, Gwirfoddolwr - Action on Postpartum Psychosis

Sarah Deardon, Gwirfoddolwr - Action on Postpartum Psychosis

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Perinatal Mental Health Cymru ac Action on Postpartum Psychosis.

 


Cyfarfod: 06/07/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Ymchwiliad i iechyd meddwl amenedigol – sesiwn dystiolaeth 9

Cymdeithas Seicolegol Prydain

 

Dwynwen Myers, Seicolegydd arweiniol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas Seicolegol Prydain.

 


Cyfarfod: 06/07/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i iechyd meddwl amenedigol – sesiwn dystiolaeth 8

Byrddau Iechyd Lleol

 

Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr

Jon Morris, Rheolwr y Gwasanaeth Amenedigol a’r Gwasanaeth Cyswllt Seiciatreg

Dr Annemarie Schmidt, Seiciatrydd Ymgynghorol

Sharn Jones, Pennaeth Gwasanaethau Cleifion Allanol i Fenywod

 

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Carol Shillabeer, Prif Weithredwr

Helen James, Pennaeth Nyrsio Iechyd y Cyhoedd i Blant a Gwasanaethau Pediatrig

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Fyrddau Iechyd Lleol.

 


Cyfarfod: 28/06/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Ymchwiliad i Iechyd Meddwl Amenedigol – sesiwn dystiolaeth 7

Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru

 

Carole Bell, Cyfarwyddwr Nyrsio ac Ansawdd

Carl Shortland, Arweinydd Arbenigol ar gyfer Iechyd Meddwl Arbenigol

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru.


Cyfarfod: 28/06/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i Iechyd Meddwl Amenedigol – sesiwn dystiolaeth 4

Coleg Brenhinol y Seiciatryddion 

 

Dr Sue Smith, Seiciatrydd Ymgynghorol a Chynrychiolydd Cyfadran Amenedigol Coleg Brenhinol y Seiciatryddion ar gyfer Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion.

 


Cyfarfod: 28/06/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Ymchwiliad i Iechyd Meddwl Amenedigol – sesiwn dystiolaeth 6

Ian Wile, Cyafwyddwr Gweithrediadau Bwrdd Clinigol Iechyd Meddwl – Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Dr Sue Smith, Seiciatrydd Ymgynghorol ym maes Iechyd Meddwl Amenedigol– Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro

David Roberts – Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu - Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Anita-Louise Rees - Rheolwr Tîm Gwasanaethau Iechyd Meddwl Amenedigol – Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Fyrddau Iechyd Lleol.


Cyfarfod: 28/06/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Ymchwiliad i Iechyd Meddwl Amenedigol – sesiwn dystiolaeth 5

Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol

 

Dr Jane Fenton-May

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Goleg Brenhinol y Meddygon Teulu.

 


Cyfarfod: 24/05/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

Ymchwiliad i iechyd meddwl amenedigol – sesiwn dystiolaeth 3

Ian Jones, Athro Seiciatreg – Cynghrair Iechyd Meddwl Mamau

 

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gynghrair Iechyd Meddwl Mamau.

 


Cyfarfod: 24/05/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Ymchwiliad i iechyd meddwl amenedigol – sesiwn dystiolaeth 2

Helen Rogers, Cyfarwyddwr – Coleg Brenhinol y Bydwragedd, Cymru

Sarah Fox, Cynghorwr Polisi Proffesiynol – Coleg Brenhinol y Bydwragedd

Jane Hanley, Arbenigwr Iechyd Meddwl Amenedigol – Sefydliad yr Ymwelwyr Iechyd

Sharon Fernandez, Sefydliad yr Ymwelwyr Iechyd

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Goleg Brenhinol y Bydwragedd, Cymru a Sefydliad yr Ymwelwyr Iechyd.

 


Cyfarfod: 24/05/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i iechyd meddwl amenedigol – sesiwn dystiolaeth 1

Rhiannon Hedge, Uwch Swyddog Polisi ac Ymgyrchoedd – Mind Cymru

Josie Anderson, Uwch Swyddog Polisi a Materion Cyhoeddus- Bliss

Dr Sarah Witcombe-Hayes, Uwch Ymchwilydd Polisi – NSPCC

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Mind, Bliss a'r Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant (NSPCC).

 


Cyfarfod: 18/05/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Iechyd Meddwl Amenedigol - Tystiolaeth Ysgrifenedig

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 18/05/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

Ymchwiliad i Iechyd Meddwl Amenedigol - Digwyddiad ymgysylltu (lleoliad allanol)

Bydd Aelodau yn cwrdd â rhieni / gofalwyr a darparwyr gwasanaeth i rannu eu profiadau. 

 

Cofnodion:

Cyfarfu'r Pwyllgor â rhieni a darparwyr gwasanaethau.