Cyfarfodydd

P-05-748 Bysiau Ysgol i Blant Ysgol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 18/09/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Llythyr gan Gomisiynydd Plant Cymru - Deiseb P-05-748 Bysiau Ysgol i Blant Ysgol

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 18/09/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau - Deiseb P-05-748 Bysiau Ysgol i Blant Ysgol

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 09/07/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-748 Bysiau Ysgol i Blant Ysgol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach oddi wrth Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a'r deisebydd a chytunodd i gau'r ddeiseb, gan nad oes llawer o gamau pellach y gall eu cymryd mewn perthynas â'r mater hwn. Wrth wneud hynny, roedd y Pwyllgor am fynegi ei gydymdeimlad diffuant â'r deisebydd a rhannu manylion y ddeiseb â'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

 


Cyfarfod: 07/05/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-748 Bysiau Ysgol i Blant Ysgol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at  Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn am fanylion y camau perthnasol a gymerir gan Lywodraeth Cymru ers argymhelliad y Comisiynydd Plant y dylid adolygu Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i gynnig y dylid ymgorffori diogelwch disgyblion sy'n teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus mewn adolygiad o'r fath.

 

 


Cyfarfod: 05/03/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-748 Bysiau Ysgol i Blant Ysgol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gomisiynydd Plant Cymru i ofyn am ei barn ynghylch y materion a godwyd yn y ddeiseb a gofyn am unrhyw sylwadau sydd ganddi ynghylch priodoldeb a diogelwch plant sy'n defnyddio bysiau cyhoeddus i deithio i ac o'r ysgol.

 


Cyfarfod: 05/06/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-748 Bysiau Ysgol i Blant Ysgol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan yr Adran Drafnidiaeth ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth. Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu eto at yr Adran Drafnidiaeth i ailadrodd eu bod yn gofyn am ymateb penodol i'r cwestiwn a ddylai gwregysau diogelwch fod yn angenrheidiol ar fysiau cyhoeddus ac a ddylai gwiriadau DBS fod yn ofynnol ar gyfer gyrwyr bysiau cyhoeddus, er bod y Pwyllgor yn deall nad yw'r materion hyn wedi'u datganoli.

 

 


Cyfarfod: 27/02/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-748 Bysiau Ysgol i Blant Ysgol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU i ofyn a ydynt wedi cynnal adolygiad i ddarparu gwregysau diogelwch ar bob bws sy'n cludo plant a'r angen i bob gyrrwr bws gael ei wirio gan DBS.

 

 


Cyfarfod: 09/01/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-748 Bysiau ysgol i blant ysgol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn pa waith polisi a wnaed i ymchwilio i'r posibilrwydd o gryfhau'r gofynion presennol fel bod:

 

·         plant sy'n teithio i'r ysgol ac o'r ysgol ar bob bws yn cael sedd a gwregys diogelwch;

·         pob gyrrwr gael gwiriad DBS perthnasol;

·         pob bws fod yn addas i'r diben.

 

Wrth wneud hynny, nododd yr Aelodau eu bod yn cydymdeimlo'n llwyr â'r ddeiseb ac yn rhannu'r uchelgais ar gyfer bysiau ysgol pwrpasol i blant ysgol, ond gan gydnabod nad yw gwireddu'r uchelgais polisi hwn o reidrwydd yn bosibl ar hyn o bryd.

 

 


Cyfarfod: 07/11/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-748 Bysiau Ysgol i Blant Ysgol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y diffyg ymateb gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ohebiaeth y Pwyllgor, a chytunodd i ysgrifennu llythyr pellach at CLlLC yn mynegi ei siom a gofyn am ymateb brys i'r llythyr dyddiedig 24 Gorffennaf.

 

 


Cyfarfod: 27/06/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-748 Bysiau Ysgol i Blant Ysgol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

  • Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunwyd i ysgrifennu at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ofyn am eu barn ar y ddeiseb a'r potensial i awdurdodau lleol ddarparu mynediad i drafnidiaeth dysgwyr pwrpasol i bob plentyn (sy'n mynd tu hwnt i'r gofynion statudol presennol), ac i ystyried yn y cam hwnnw p'un a ddylid gwahodd y deisebydd i ddod i'r Pwyllgor i drafod y ddeiseb.

 

 


Cyfarfod: 09/05/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-748 Bysiau Ysgol i Blant Ysgol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith i ofyn a wnaiff ystyried adolygu'r meini prawf ar gyfer pellter trafnidiaeth rhwng cartref ac ysgol, neu fesurau gwahanol i wella diogelwch myfyrwyr wrth deithio i'r ysgol.

 


Cyfarfod: 04/04/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 -05-748 Bysiau Ysgol i Blant Ysgol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i gysylltu â'r deisebydd er mwyn cael eglurhad am ei deiseb, yng ngoleuni'r wybodaeth a dderbyniwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith.