Cyfarfodydd
NDM6274 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 29/03/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)
- Gweddarllediad ar gyfer 29/03/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 29/03/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig
NDM6274
David
Rowlands (Dwyrain De Cymru)
Neil Hamilton
(Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cymeradwyo nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o
siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac yn cydnabod y rôl allweddol sydd gan ysgolion o
ran ei gyflawni.
2. Yn credu y bydd herio barn gyhoeddus leol yn cyfyngu
ar y gobaith o lwyddo ac y dylai newidiadau i sefydliadau addysgol sy'n cwmpasu
Cyfnodau Allweddol 1 i 5 gael eu gwneud mewn ffordd a gaiff ei chefnogi gan y
mwyafrif o rieni, gwarcheidwaid neu drigolion lleol, sydd yn y sefyllfa orau i
wneud penderfyniadau addysgol ar ran eu plant.
3. Yn credu bod angen i gynigion i newid ysgolion cyfrwng
Saesneg, ysgolion dwy-ffrwd neu ysgolion pontio yn ysgolion cyfrwng Cymraeg neu
eu cau gynnwys ymgynghoriad lleol gwirioneddol:
a) gyda'r holl ymatebwyr yn darparu eu henwau,
cyfeiriadau a chodau post;
b) gyda'r holl unigolion a enwir mewn deiseb a gyflwynir
yn cael eu cofnodi fel sylwadau ar wahân; ac
c) nad yw'n rhoi blaenoriaeth i drydydd parti, nad yw'n
gysylltiedig â'r mater, dros ddymuniadau rhieni neu drigolion lleol.
4. Yn credu bod yr ymgynghoriad a gynhaliwyd gan Gyngor
Sir Caerfyrddin cyn penderfynu cau ysgol babanod ac ysgol iau ffederal
dwy-ffrwd Llangennech a'u troi'n un ysgol cyfrwng Cymraeg yn un gwallus.
5. Yn credu y dylai'r cyngor ddiddymu ei benderfyniad tra
cynhelir ymgynghoriad pellach ar sail yr egwyddorion a nodir ym mharagraff 3
uchod.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Dileu popeth
ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu
bwriad Llywodraeth Cymru i gyhoeddi Papur Gwyn eleni er mwyn ymgynghori ar
ddarpariaethau ar gyfer Bil newydd y Gymraeg fel rhan o gynlluniau i gynyddu'r
defnydd o'r Gymraeg.
Yn cydnabod
y buddsoddiad ychwanegol yn 2017-18 i wella a chynyddu'r ddarpariaeth Cymraeg
yn y gweithle a hyrwyddo'r Gymraeg.
Yn nodi
ymrwymiad Llywodraeth Cymru i adolygu proses y Cynlluniau Strategol Cymraeg
mewn Addysg.
Yn cydnabod
bod yn rhaid i awdurdodau lleol a chynigwyr eraill gydymffurfio â Deddf Safonau
a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a'r Cod Trefniadaeth Ysgolion, a rhaid
iddynt ystyried amrywiaeth o ffactorau wrth gynnig newidiadau sylweddol i
ysgolion yn eu hawdurdodaeth.
'Deddf
Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013'
[Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol]
2. Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Dileu'r cyfan ar ôl pwynt 1.
[Os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol]
3. Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn)
Dileu'r cyfan ar ôl pwynt 1.
4. Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod cwymp wedi bod yn nifer yr athrawon
Cymraeg eu hiaith sy'n dechrau yn y proffesiwn.
5. Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod y broses o gau ysgolion wedi cael effaith
anghymesur ar ysgolion cyfrwng Cymraeg.
6. Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi holl fanteision gwybyddol, addysgol, economaidd a
chymdeithasol dwyieithrwydd.
7. Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod canran y dysgwyr saith oed sy'n cael eu
haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg neb newid yn y blynyddoedd diwethaf.
8. Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig.
Yn nodi bod Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg Cyngor
Sir Caerfyrddin 2014-2017, a oedd yn cynnwys y penderfyniad i sefydlu ysgol
cyfrwng Cymraeg yn Llangennech, wedi'i gymeradwyo'n unfrydol gan y Cabinet o
dan arweiniad Llafur ym mis Gorffennaf 2014, a bod yr holl benderfyniadau
dilynol wedi'u cymeradwyo gan yr awdurdodau priodol.
'Cynllun
Strategol y Gymraeg mewn Addysg Sir Gaerfyrddin 2014-2017'
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 17.48
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6274
David
Rowlands (Dwyrain De Cymru)
Neil
Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cymeradwyo nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg
erbyn 2050 ac yn cydnabod y rôl allweddol sydd gan ysgolion o ran ei gyflawni.
2. Yn credu y bydd herio barn gyhoeddus leol yn cyfyngu ar y gobaith o
lwyddo ac y dylai newidiadau i sefydliadau addysgol sy'n cwmpasu Cyfnodau
Allweddol 1 i 5 gael eu gwneud mewn ffordd a gaiff ei chefnogi gan y mwyafrif o
rieni, gwarcheidwaid neu drigolion lleol, sydd yn y sefyllfa orau i wneud
penderfyniadau addysgol ar ran eu plant.
3. Yn credu bod angen i gynigion i newid ysgolion cyfrwng Saesneg, ysgolion
dwy-ffrwd neu ysgolion pontio yn ysgolion cyfrwng Cymraeg neu eu cau gynnwys
ymgynghoriad lleol gwirioneddol:
a) gyda'r holl ymatebwyr yn darparu eu henwau, cyfeiriadau a chodau post;
b) gyda'r holl unigolion a enwir mewn deiseb a gyflwynir yn cael eu cofnodi
fel sylwadau ar wahân; ac
c) nad yw'n rhoi blaenoriaeth i drydydd parti, nad yw'n gysylltiedig â'r
mater, dros ddymuniadau rhieni neu drigolion lleol.
4. Yn credu bod yr ymgynghoriad a gynhaliwyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin cyn
penderfynu cau ysgol babanod ac ysgol iau ffederal dwy-ffrwd Llangennech a'u
troi'n un ysgol cyfrwng Cymraeg yn un gwallus.
5. Yn credu y dylai'r cyngor ddiddymu ei benderfyniad tra cynhelir
ymgynghoriad pellach ar sail yr egwyddorion a nodir ym mharagraff 3 uchod.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
7 |
0 |
45 |
52 |
Gwrthodwyd y cynnig heb
ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y Gwelliannau a ganlyn:
Dileu popeth
ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu
bwriad Llywodraeth Cymru i gyhoeddi Papur Gwyn eleni er mwyn ymgynghori ar
ddarpariaethau ar gyfer Bil newydd y Gymraeg fel rhan o gynlluniau i gynyddu'r
defnydd o'r Gymraeg.
Yn cydnabod
y buddsoddiad ychwanegol yn 2017-18 i wella a chynyddu'r ddarpariaeth Cymraeg
yn y gweithle a hyrwyddo'r Gymraeg.
Yn nodi
ymrwymiad Llywodraeth Cymru i adolygu proses y Cynlluniau Strategol Cymraeg
mewn Addysg.
Yn cydnabod
bod yn rhaid i awdurdodau lleol a chynigwyr eraill gydymffurfio â Deddf Safonau
a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a'r Cod Trefniadaeth Ysgolion, a rhaid
iddynt ystyried amrywiaeth o ffactorau wrth gynnig newidiadau sylweddol i
ysgolion yn eu hawdurdodaeth.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
35 |
0 |
17 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Derbyniwyd gwelliant 1, felly cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol.
Ni chynigiwyd gwelliant 2.
4. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod cwymp wedi bod yn nifer yr athrawon Cymraeg eu hiaith
sy'n dechrau yn y proffesiwn.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
27 |
53 |
Fel sy’n
ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy
bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
5. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod y broses o gau ysgolion wedi cael effaith anghymesur ar
ysgolion cyfrwng Cymraeg.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
17 |
9 |
26 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
6. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi holl fanteision gwybyddol, addysgol, economaidd a chymdeithasol
dwyieithrwydd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 6.
7. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod canran y dysgwyr saith oed sy'n cael eu haddysgu drwy gyfrwng
y Gymraeg neb newid yn y blynyddoedd diwethaf.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
27 |
53 |
Fel sy’n
ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy
bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
8. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig.
Yn nodi bod Cynllun Strategol
Cymraeg mewn Addysg Cyngor Sir Caerfyrddin 2014-2017, a oedd yn cynnwys y
penderfyniad i sefydlu ysgol cyfrwng Cymraeg yn Llangennech, wedi'i
gymeradwyo'n unfrydol gan y Cabinet o dan arweiniad Llafur ym mis Gorffennaf
2014, a bod yr holl benderfyniadau dilynol wedi'u cymeradwyo gan yr awdurdodau
priodol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
10 |
11 |
31 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 8.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM6274
David
Rowlands (Dwyrain De Cymru)
Neil
Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cymeradwyo nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg
erbyn 2050 ac yn cydnabod y rôl allweddol sydd gan ysgolion o ran ei gyflawni.
2. Yn
croesawu bwriad Llywodraeth Cymru i gyhoeddi Papur Gwyn eleni er mwyn
ymgynghori ar ddarpariaethau ar gyfer Bil newydd y Gymraeg fel rhan o
gynlluniau i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg.
3. Yn
cydnabod y buddsoddiad ychwanegol yn 2017-18 i wella a chynyddu'r ddarpariaeth
Cymraeg yn y gweithle a hyrwyddo'r Gymraeg.
4. Yn nodi
ymrwymiad Llywodraeth Cymru i adolygu proses y Cynlluniau Strategol Cymraeg
mewn Addysg.
5. Yn
cydnabod bod yn rhaid i awdurdodau lleol a chynigwyr eraill gydymffurfio â
Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a'r Cod Trefniadaeth
Ysgolion, a rhaid iddynt ystyried amrywiaeth o ffactorau wrth gynnig newidiadau
sylweddol i ysgolion yn eu hawdurdodaeth.
6. Yn nodi holl fanteision gwybyddol, addysgol, economaidd a chymdeithasol
dwyieithrwydd.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
51 |
0 |
1 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig
wedi’i ddiwygio.