Cyfarfodydd
NDM6259 - Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 22/03/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
- Gweddarllediad ar gyfer 22/03/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 22/03/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
NDM6259
Jeremy Miles (Castell-nedd)
Lee Waters (Llanelli)
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir
Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod Cymru yn elwa ar arfordir hir a'r ail
gyrhaeddiad llanw uchaf yn y byd.
2. Yn nodi ymhellach fod gweithgarwch economaidd yn
gysylltiedig â'r môr eisoes yn werth tua £2.1 biliwn yng Nghymru, ac yn cynnal
degau o filoedd o swyddi.
3. Yn credu y bydd ymrwymiad strategol i'r economi las yn
galluogi Cymru i droi ein moroedd yn un o'n hasedion economaidd mwyaf.
4. Yn credu ymhellach y gall Cymru fod yn arweinydd ym
maes ynni adnewyddadwy morol, twristiaeth a chwaraeon, pysgota, bwyd a
dyframaethu, a gweithgynhyrchu a pheirianneg morol.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Cynllun Morol
uchelgeisiol i gefnogi datblygiad cynaliadwy yr economi las, a'i gwneud yn
elfen ganolog o'i strategaeth economaidd newydd.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 15.07
NDM6259
Jeremy Miles (Castell-nedd)
Lee Waters (Llanelli)
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn
nodi bod Cymru yn elwa ar arfordir hir a'r ail gyrhaeddiad llanw uchaf yn y
byd.
2. Yn
nodi ymhellach fod gweithgarwch economaidd yn gysylltiedig â'r môr eisoes yn
werth tua £2.1 biliwn yng Nghymru, ac yn cynnal degau o filoedd o swyddi.
3. Yn
credu y bydd ymrwymiad strategol i'r economi las yn galluogi Cymru i droi ein
moroedd yn un o'n hasedion economaidd mwyaf.
4. Yn
credu ymhellach y gall Cymru fod yn arweinydd ym maes ynni adnewyddadwy morol,
twristiaeth a chwaraeon, pysgota, bwyd a dyframaethu, a gweithgynhyrchu a
pheirianneg morol.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Cynllun Morol
uchelgeisiol i gefnogi datblygiad cynaliadwy yr economi las, a'i gwneud yn
elfen ganolog o'i strategaeth economaidd newydd.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Datganiad y Llywydd
Am 15.57, gwnaeth y Llywydd ddatganiad yn sgil y
digwyddiadau a oedd yn mynd rhagddynt yn San Steffan. Cymerwyd y camau
diogelwch priodol yn y Cynulliad, ac roedd y mater yn cael ei adolygu’n rheolaidd.
Dywedodd y Llywydd bod ein meddyliau gyda’n cydweithwyr a phawb yn San Steffan
yn y cyfnod anodd hwn.