Cyfarfodydd

Cynulliad Cenedlaethol Cymru - Y Cynllun Ieithoedd Swyddogol drafft

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 29/01/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

Cynulliad Cenedlaethol Cymru – y Cynllun Ieithoedd Swyddogol


Cyfarfod: 29/01/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

Adroddiad Blynyddol Comisiwn y Cynulliad ar ei Gynllun Ieithoedd Swyddogol

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 4

Cofnodion:

Cynulliad Cenedlaethol Cymru – y Cynllun Ieithoedd Swyddogol

 

Adroddiad Blynyddol Comisiwn y Cynulliad ar ei Gynllun Ieithoedd Swyddogol

 

Trafododd y Rheolwyr Busnes y papur a chytunwyd gyda chynnig y Trefnydd bod swyddogion y Llywodraeth a’r Cynulliad yn cwrdd yn y lle cyntaf i edrych sut y gallwn wella’r ystadegau a’r materion a nodwyd yn y papur.

 

Cododd Rheolwyr Busnes eu pryder ynghylch cyrff cyhoeddus eraill sy’n cyflwyno dogfennau uniaith Saesneg yn unig, a nodwyd efallai y byddent am ystyried (i) pa gyrff cyhoeddus, os o gwbl, sy’n gwneud hynny yn rheolaidd a (ii) y ffordd y mae pwyllgorau’n cyflwyno galwadau am dystiolaeth ac yn pwysleisio’r ddyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gyflwyno dogfennau dwyieithog.

 

Cododd Rheolwyr Busnes y mater hefyd nad yw’r Memoranda Esboniadol y cyfeirir atynt yn y llythyr yn cael eu cyfieithu ar ôl y cyflwyno neu ar ôl i’r terfynau amser gofynnol ar gyfer eu gosod fynd heibio. Dylid ystyried hyn hefyd mewn trafodaethau gyda swyddogion Llywodraeth Cymru.

 

 

 

 


Cyfarfod: 12/07/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Cynnig i gymeradwyo'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer y Pumed Cynulliad a nodi'r adroddiad cydymffurfio ar gyfer y cyfnod 2015-2017

NDM6365 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cymeradwyo Cynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad, yn unol â pharagraff 8(11)(d) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 5 Gorffennaf 2017; a

2. Yn nodi'r Adroddiad Cydymffurfio ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad ar gyfer y cyfnod 2015-2017, yn unol â pharagraff 8(8) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 5 Gorffennaf 2017.

Dogfennau ategol:

Deddf Llywodraeth Cymru 2006

Cynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad

Adroddiad Cydymffurfio ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad 2015-2017

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu at Adam Price (31 Mai 2017)

Llythyr gan Adam Price at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu (6 Mehefin 2017)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.23

NDM6365 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cymeradwyo Cynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad, yn unol â pharagraff 8(11)(d) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 5 Gorffennaf 2017; a

2. Yn nodi'r Adroddiad Cydymffurfio ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad ar gyfer y cyfnod 2015-2017, yn unol â pharagraff 8(8) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 5 Gorffennaf 2017.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 10/05/2017 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Craffu ar y Cynllun Ieithoedd Swyddogol Drafft: Sesiwn dystiolaeth

Adam Price AC, Comisiynydd y Cynulliad

Craig Stephenson, Cyfarwyddwr Gwasanaethau’r Comisiwn

Sarah Dafydd, Rheolwr y Cynllun Ieithoedd Swyddogol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.