Cyfarfodydd
Darparu gwasanaethau TGCh a phrosiectau TGCh o dan gontract Merlin
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 31/01/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)
Darparu gwasanaethau TGCh a phrosiectau TGCh o dan gontract Merlin
Ystyried y dull o ymdrin ag adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar gontract TGCh Merlin.
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (4/1)
- Cyfyngedig 3 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (4/2)
Cofnodion:
4.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod ei ystyriaeth o adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, Darparu gwasanaethau TGCh a phrosiectau TGCh o dan gontract Merlin.
Cyfarfod: 18/10/2011 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)
5 Darparu gwasanaethau a phrosiectau TGCh o dan gontract Merlin: Tystiolaeth gan yr Ysgrifennydd Parhaol
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
5.1 Croesawodd y Pwyllgor
y tystion a ganlyn i’r cyfarfod: y Fonesig Gillian Morgan, Ysgrifennydd Parhaol;
Bernard Galton, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Pobl, Lleoedd a Gwasanaethau
Corfforaethol; a Crispin O’Connell, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Lleoedd a
Gwasanaethau.
5.2 Yn ogystal, croesawodd y Pwyllgor y tystion a
ganlyn i’r cyfarfod: Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, a Paul
Dimblebee, Cyfarwyddwr Grŵp – Archwilio Perfformiad, Swyddfa Archwilio Cymru.
5.3 Bu’r Pwyllgor yn holi’r tystion.
Camau i’w cymryd:
Cytunodd Llywodraeth Cymru i ddarparu:
·
Manylion ynghylch y 298 o
gyflenwyr gwahanol a ddefnyddiwyd y tu allan i gontract Merlin, gan gynnwys
manylion ynghylch nifer y cyflenwyr hynny sydd wedi’u lleoli yng Nghymru.
·
Rhagor o wybodaeth am arbedion
a wnaed drwy osgoi cosbau ariannol, gan gynnwys gwybodaeth am y modd y
dangoswyd gwerth am arian ac am unrhyw faterion sy’n ymwneud ag enw da.