Cyfarfodydd

Craffu ar Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 09/03/2016 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Sesiwn graffu gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru: dilyniant i ymchwiliad y Pwyllgor i ofal preswyl i bobl hŷn ac adolygiad y Comisiynydd o gartrefi gofal: gohebiaeth gan y Comisiynydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.3a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.

 


Cyfarfod: 11/02/2016 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

Sesiwn graffu gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru: dilyniant i ymchwiliad y Pwyllgor i ofal preswyl i bobl hŷn ac adolygiad y Comisiynydd o gartrefi gofal: trafod y canlyniadau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y llythyr drafft at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Prif Weinidog, i’w gopïo i’r Comisiynydd ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, yn amodol ar fân newidiadau.

 


Cyfarfod: 20/01/2016 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Sesiwn graffu gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law, a chytunodd i ysgrifennu at y Comisiynydd a Llywodraeth Cymru i amlinellu ei farn.

 


Cyfarfod: 20/01/2016 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 1)

1 Sesiwn graffu gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru: paratoi at sesiwn dystiolaeth lafar

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1.1 Trafododd y Pwyllgor ei ffordd o ymdrin â'r sesiwn graffu gyda'r Comisiynydd.

 


Cyfarfod: 20/01/2016 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Sesiwn graffu gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru: dilyniant i ymchwiliad y Pwyllgor i ofal preswyl i bobl hŷn ac adolygiad y Comisiynydd o gartrefi gofal

Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

 

Gwybodaeth ategol:

 

Noder: Mae’r adroddiadau cynnydd gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Llywodraeth Cymru i’r Comisiynydd, y cyfeirir atynt yn llythyr y Gweinidog, wedi’u cyhoeddi yn atodiadau C a D o dystiolaeth ysgrifenedig y Comisiynydd.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Bu’r Comisiynydd yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

3.2 Cytunodd y Comisiynydd i ddarparu'r eitemau a ganlyn i'r Pwyllgor:

·         amserlen yn amlinellu pryd y mae'n disgwyl gallu darparu tystiolaeth o ganlyniadau sy'n deillio o'r 'anghenion gweithredu' yn ei hadolygiad o Gartrefi Gofal;

·         rhestr o gamau gweithredu a gwaith dilynol ym maes gofal preswyl y mae'n bwriadu eu cadarnhau maes o law.

 


Cyfarfod: 25/02/2015 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Craffu ar Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru: gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth. Cytunodd yr Aelodau i ystyried unrhyw waith ychwanegol yr hoffent ei wneud mewn perthynas ag adroddiad  'Lle i'w Alw'n Gartref?' y Comisiynydd Pobl Hŷn - Adolygiad i Ansawdd Bywyd a Gofal Pobl Hŷn sy’n byw mewn Cartrefi Gofal yng Nghymru, yn ystod trafodaethau'r Pwyllgor ar ei flaenraglen waith ar 5 Mawrth 2015.


Cyfarfod: 15/01/2015 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Craffu ar waith Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru: gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.5a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.

 


Cyfarfod: 26/11/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

Sesiwn graffu gyffredinol ar waith Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru: ystyried y dystiolaeth a gafwyd.

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

 


Cyfarfod: 26/11/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Sesiwn graffu gyffredinol ar waith Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Bu’r Comisiynydd yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

3.2 Cytunodd y Comisiynydd i ddarparu nodyn i’r Pwyllgor yn amlinellu’r pwyntiau sydd fwyaf perthnasol i’r Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) sydd ar ddod, sy’n deillio o’i hadolygiad o ansawdd bywyd a gofal i bobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal yng Nghymru.

 

 

 

 


Cyfarfod: 09/10/2013 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 Llythyr gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6a.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru.

 


Cyfarfod: 25/09/2013 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Gwaith craffu ar Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

·       Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

 

Sefyll Dros Hawliau ac Eirioli

Dogfennau ategol:

  • RS132332 HSC Committee briefing 25 September Older People Commissioner Annual Report

Cofnodion:

2.1 Ymatebodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru i gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 25/10/2012 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Craffu ar adroddiad blynyddol Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

HSC(4)-28-12 papur 1

          Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Atebodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru gwestiynau gan aelodaur Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 20/06/2012 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Llythyr gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru - Confensiwn gan y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl hŷn

HSC(4)-18-12 papur 3

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y llythyr a chytunodd i drafod y mater gyda’r Comisiynydd yn nhymor yr hydref, yn ystod y sesiwn ddisgwyliedig ar adroddiad blynyddol Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru.

 

 


Cyfarfod: 06/10/2011 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

Craffu ar Adroddiad Comisiynydd Pobl Hyn Cymru ar gyfer 2010/11

HSC(4)-06-11 papur 1

          Ruth Marks MBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Sarah Stone, Dirprwy Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Alun Thomas, Pennaeth Adolygu, Archwilio a Pholisi

 

Mae Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru 2010-11 ar gael fan hyn:

 

http://www.olderpeoplewales.com/Libraries/Annual_Reports/OPCFW_Annual_Report_Welsh.sflb.ashx

 

Cofnodion:

2.1 Ymatebodd y Comisiynydd a’i chydweithwyr i gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor ar ei hadroddiad blynyddol.

 

2.2 Cytunodd y Comisiynydd i rannu adroddiad â’r Pwyllgor ar ymchwil sy’n cael ei wneud gan Brifysgol Abertawe ar gau cartrefi gofal, gwybodaeth bellach am waith ymgynghori arwyddocaol sy’n cael ei wneud ac adroddiad ar ymweliad a wnaed gan ei swyddfa i’r Alban i ystyried effaith Deddf 2007 ar ddarparu cymorth i oedolion a’u hamddiffyn.