Cyfarfodydd

Archwilydd Cyffredinol Cymru - materion llywodraethu (hyd at 31 Mawrth 2014)

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 16/10/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.)

Cynnig i gytuno ar daliadau aelodau a Chadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru

 

NDM5333 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Pharagraffau 7(1) a 7(4) o Atodlen 1 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013:

 

1. Yn penderfynu ar gydnabyddiaeth ariannol o £25,000 y flwyddyn i Gadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru; a

 

2. Yn penderfynu ar gydnabyddiaeth ariannol o £12,500 y flwyddyn i aelodau anweithredol eraill Swyddfa Archwilio Cymru.

 

Sylwer: Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar benodi aelodau anweithredol i Swyddfa Archwilio Cymru yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Hydref 2013.

 

Dogfennau ategol:

Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.18

NDM5333 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Pharagraffau 7(1) a 7(4) o Atodlen 1 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013:

1. Yn penderfynu ar gydnabyddiaeth ariannol o £25,000 y flwyddyn i Gadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru; a

2. Yn penderfynu ar gydnabyddiaeth ariannol o £12,500 y flwyddyn i aelodau anweithredol eraill Swyddfa Archwilio Cymru.

Sylwer: Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar benodi aelodau anweithredol i Swyddfa Archwilio Cymru yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Hydref 2013.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 16/10/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)

Cynnig o dan Reol Sefydlog 10.5 i benodi aelodau a Chadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru

 

NDM5332 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Pharagraffau 4(1) a 5(1) o Atodlen 1 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013, ac o dan Reol Sefydlog 10.5:

 

1. Yn penodi Isobel Garner, Peter Price, David Corner, Christine Hayes a Steven Burnett yn aelodau anweithredol i Swyddfa Archwilio Cymru; a

 

2. Yn penodi Isobel Garner yn Gadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru.

 

Sylwer: Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar benodi aelodau anweithredol i Swyddfa Archwilio Cymru yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Hydref 2013.

 

Dogfennau ategol:

Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.18

NDM5332 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Pharagraffau 4(1) a 5(1) o Atodlen 1 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013, ac o dan Reol Sefydlog 10.5:

1. Yn penodi Isobel Garner, Peter Price, David Corner, Christine Hayes a Steven Burnett yn aelodau anweithredol i Swyddfa Archwilio Cymru; a

2. Yn penodi Isobel Garner yn Gadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 08/10/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Penodi Aelodau a Chadeirydd anweithredol Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru

PAC(4)-26-13 (papur 3)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Nododd y Pwyllgor yr adroddiad a chytunodd ag argymhellion y panel.

 

5.2 Cyhoeddir yr Adroddiad ar 9 Hydref 2013.

 


Cyfarfod: 18/06/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

Penodi Cadeirydd ac Aelodau anweithredol Swyddfa Archwilio Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Ystyriodd y Pwyllgor ei gyfrifoldebau o dan y Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) a thrafododd y trefniadau ar gyfer taliadau a thelerau eraill o ran penodi Cadeirydd ac aelodau anweithredol, a phenodi i swyddi Cadeirydd ac aelodau anweithredol Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru.

 


Cyfarfod: 15/01/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

Trafodaeth ar ohebiaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar raddfeydd ffioedd archwilio ac arolygu llywodraeth leol 2013-14

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru ar raddfeydd ffioedd archwilio ac arolygu llywodraeth leol 2013-14. 


Cyfarfod: 31/01/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

Penodi archwilwyr i archwilio cyfrifon Archwilydd Cyffredinol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cymeradwyodd y Pwyllgor yr argymhelliad i benodi archwilwyr ar gyfer cyfrifon Archwilydd Cyffredinol Cymru. Bydd cynnig yn cael ei gyflwyno er mwyn i’r Cynulliad benodi’r archwilwyr.


Cyfarfod: 11/10/2011 - Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Cylch Gorchwyl y Grŵp Gorchwyl a Gorffen i ystyried materion llywodraethu ac atebolrwydd mewn cysylltiad ag Archwilydd Cyffredinol Cymru

PAC(4)-05-11 – Papur 1

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cytunodd yr Aelodau ar gylch gwaith a chylch gorchwyl y grŵp gorchwyl a gorffen.


Cyfarfod: 04/10/2011 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Materion sy'n ymwneud â Llywodraethiant ac Atebolrwydd Archwilydd Cyffredinol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

 

2.1 Cafodd Grŵp Gorchwyl a Gorffen ei sefydlu gan y Pwyllgor o dan Reol Sefydlog 17.17 i ystyried materion llywodraethiant ac atebolrwydd mewn perthynas ag Archwilydd Cyffredinol Cymru.

 

2.2 Cytunodd y Pwyllgor mai cylch gorchwyl y Grŵp Gorchwyl a Gorffen fydd cynghori’r Cynulliad ynghylch penodi archwilwyr i edrych ar gyfrifon Archwilydd Cyffredinol Cymru; ystyried amcangyfrif a chyfrifon blynyddol Archwilydd Cyffredinol Cymru; ystyried materion ynghylch llywodraethiant ac atebolrwydd Archwilydd Cyffredinol Cymru; ystyried materion ynghylch enwebu Archwilydd Cyffredinol Cymru; ac ystyried materion eraill a drosglwyddir i’r grŵp gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

 

2.3 Cytunodd y Pwyllgor mai cyfnod y Grŵp Gorchwyl a Gorffen fydd y flwyddyn Cynulliad o 2011 i 2012, a daw i ben ar 20 Gorffennaf 2012.

 

2.4 Cytunodd y Pwyllgor y byddai’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn cynnwys yr Aelodau a ganlyn: Darren Millar AC, Mike Hedges AC, Aled Roberts AC a Leanne Wood AC. Cafodd Darren Millar ei ethol yn Gadeirydd gan y Pwyllgor, ond bydd y rôl hon yn cael ei rhannu gan yr Aelodau.

 


Cyfarfod: 27/09/2011 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Materion yn ymwneud â llywodraethiant ac atebolrwydd mewn cysylltiad ag Archwilydd Cyffredinol Cymru

(10.50-11.00)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Cytunodd y Pwyllgor i sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen i ystyried materion yn ymwneud â llywodraethiant ac atebolrwydd mewn cysylltiad ag Archwilydd Cyffredinol Cymru.

 

5.2 Bydd y Pwyllgor yn cytuno ar aelodaeth y grŵp gorchwyl a gorffen yn ffurfiol yn ei gyfarfod ar 4 Hydref 2011.

 

5.3 Cytunodd y Pwyllgor y bydd cyfarfod cyntaf y grŵp gorchwyl a gorffen yn cael ei gynnal ar 11 Hydref 2011.


Cyfarfod: 27/09/2011 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 1)

Adroddiad Audit Scotland ar gyfrifon Archwilydd Cyffredinol Cymru

(9.00-09.15)

 

Cofnodion:

1.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod canfyddiadau adroddiad Audit Scotland ar gyfrifon Archwilydd Cyffredinol Cymru.


Cyfarfod: 20/09/2011 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)

8 Materion sy’n ymwneud â llywodraethu ac atebolrwydd Archwilydd Cyffredinol Cymru (10.50 - 11.00)

PAC(4)-02-11 Papur 1

 

Bydd y Pwyllgor yn trafod dulliau o ystyried materion sy’n ymwneud â llywodraethu ac atebolrwydd Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1Gan nad oedd y Pwyllgor mewn sefyllfa i sefydlu is-bwyllgor, cytunodd i ohirio’r penderfyniad.


Cyfarfod: 20/09/2011 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

Y wybodaeth ddiweddaraf am y broses gaffael (10.30 - 10.40)

Y wybodaeth ddiweddaraf am y broses gaffael sydd ynghlwm â phenodi archwilwyr i archwilio cyfrifon Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Cofnodion:

6.1 Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y broses o benodi archwilwyr i gyfrifon Archwilydd Cyffredinol Cymru.