Cyfarfodydd

Craffu ar waith y Comisiynydd Plant Cymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 20/11/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Llythyr gan Gomisiynydd Plant Cymru - gwybodaeth ychwanegol yn dilyn y sesiwn graffu ar 6 Tachwedd ynghylch yr adroddiad blynyddol ar gyfer 2018-19

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 14/11/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Llythyr gan Amddiffyn Addysg Gartref Cymru ynghylch y canllawiau statudol drafft i awdurdodau lleol ar addysg yn y cartref

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 14/11/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Llythyr e-bost gan Ymddiriedolwr a Chyswllt Cymru ar gyfer Education Otherwise ynghylch y canllawiau statudol drafft ar gyfer awdurdodau lleol ar addysg yn y cartref.

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 10/02/2016 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Llythyr gan y Llywydd - Adolygiad o Swydd Comisiynydd Plant Cymru

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 04/11/2015 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Craffu ar Adroddiad Blynyddol y Comisiynydd Plant

CYPE(4)-26-15 - Papur 1 - Ymateb i argymhellion yr Adolygiad Annibynnol o Rôl a Swyddogaethau Comisiynydd Plant Cymru

 

CYPE(4)-26-15 - Papur Preifat 2 - Adroddiad Blynyddol

 

Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru

Eleri Thomas, Prif Weithredwr

Hywel Dafydd, Swyddog Materion Cyhoeddus

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn holi’r Comisiynydd yn fanwl am yr Adroddiad Blynyddol. Nododd y Comisiynydd y byddai hi’n cyflwyno nodyn ar Fil Cymru drafft yn fuan.                

 


Cyfarfod: 04/06/2015 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Llythyr gan Gomisiynydd Plant Cymru

CYPE(4)-16-15 – Papur i’w nodi 5

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 14/05/2015 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3.)

Trafodaethau â Chomisiynydd Plant Cymru

Yr Athro Sally Holland - Comisiynydd Plant Cymru

CYPE(4)-14-15 – Papur preifat 1

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 11/12/2014 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Gwybodaeth ychwanegol gan Gomisiynydd Plant Cymru yn dilyn y cyfarfod ar 13 Tachwedd

CYPE(4)-30-14 – Papur i'w nodi 1

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 03/12/2014 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Gwybodaeth ychwanegol gan Gomisiynydd Plant Cymru yn dilyn y cyfarfod ar 13 Tachwedd

CYPE(4)-29-14 – Papur i'w nodi 8

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 13/11/2014 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru

CYPE(4)-27-14 – Papur 1 – Adroddiad Blynyddol

CYPE(4)-27-14 – Papur 2 – Brîff y Comisiynydd

 

Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru

Eleri Thomas, Prif Weithredwr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Holodd yr Aelodau’r Comisiynydd Plant ynghylch ei Adroddiad Blynyddol.  Cytunodd y Comisiynydd i ddarparu’r canlynol:

 

Y diweddaraf ar ymatebion awdurdodau lleol i lythyr y Comisiynydd ynghylch monitro toriadau cyllideb ar y ddarpariaeth o wasanaethau i blant a phobl ifanc.

 

Nodyn ar Asesiadau Plant a Phobl Ifanc, mewn cysylltiad â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.

 


Cyfarfod: 15/01/2014 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Gwybodaeth ychwanegol gan Gomisiynydd Plant Cymru yn dilyn y cyfarfod ar 6 Tachwedd

CYP(4)-01-14 – Papur i'w nodi 3

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 06/11/2013 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru

CYP(4)-28-13 – Papur 1 – Adroddiad Blynyddol y Comisiynydd

 

Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru

Eleri Thomas, Prif Weithredwr  

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Holodd yr Aelodau'r Comisiynydd Plant ynghylch ei Adroddiad Blynyddol. Cytunodd y Comisiynydd i ddarparu nodyn ar y canlynol:

 

Costau gweinyddol a gweithdrefnau cyfrifyddu y swyddfa dros y ddwy flynedd ddiwethaf;

 

Manylion penodol am y broses Asesiadau o'r Effaith ar Hawliau Plant; a

 

Rhagor o fanylion am waith y Comisiynydd ar fynediad i blant a phobl ifanc anabl mewn addysg prif ffrwd, unedau cyfeirio disgyblion a gwyliau byr.

 

Cytunodd y Comisiynydd i roi papur briffio i'r Pwyllgor ar ddarparu gwasanaethau CAMHS.

 

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Comisiynydd gyda rhagor o gwestiynau.


Cyfarfod: 04/10/2012 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru

Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru

 

Eleri Thomas, Prif Weithredwr

 

 

Cofnodion:

2. 1 Croesawodd y Cadeirydd Keith Towler ac Eleri Thomas. Holodd yr Aelodau’r tystion ynghylch adroddiad blynyddol y comisiynydd plant.

 

Camau i’w cymryd:

 

Cytunodd y comisiynydd plant i ddarparu rhagor o wybodaeth am:

 

·         yr arbedion effeithlonrwydd a wnaed gan ei swyddfa mewn ymateb i’r gostyngiad mewn incwm ar gyfer blwyddyn ariannol 2011-12.

 

·         yr amser a gymerwyd i ddatrys yr astudiaeth achos ar dudalen 26 adroddiad blynyddol y Comisiynydd ynghylch plentyn mewn gofal maeth nad yw mewn addysg.

 

·         statws presennol y fframwaith gwasanaeth cenedlaethol (NSF) ar gyfer gwasanaethau plant, pobl ifanc a mamolaeth, unwaith y daw i law gan Lywodraeth Cymru;

 

·         fesur tlodi plant.

 


Cyfarfod: 05/10/2011 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

Comisiynydd Plant Cymru: Adroddiad Blynyddol

http://www.complantcymru.org.uk/uploads/publications/274.pdf

Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru

Dogfennau ategol:

  • CYP(4)-04-11 Papur 2 - Comisiynydd Plant Cymru: Adroddiad Blynyddol (Embargo)

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru, i’r cyfarfod.  Holodd yr Aelodau y Comisiynydd.

 

3.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y ffaith nad oes canllawiau o hyd ar gyfer asesu anghenion gofal iechyd plant.

 

3.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch cynnydd Llywodraeth Cymru o ran gweithredu argymhellion adroddiad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc blaenorol ar gyllidebu ar gyfer plant; a’r oedi o ran cyflwyno cynllun gweithredu ar gyfer y Strategaeth Tlodi Plant.