Cyfarfodydd

Deddfwriaeth - y Pedwerydd Cynulliad

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 17/11/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)

Rheoliadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Darpariaethau Trosiannol) 2015 - Tynnwyd yn ól


Cyfarfod: 06/10/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 11.)

Cod Ymarfer yr Awdurdod Meinweoedd Dynol

NDM5836 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o God Ymarfer yr Awdurdod Meinweoedd Dynol 2015 ar Ddeddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Medi  2015.

Dogfennau Ategol
Cod Ymarfer yr Awdurdod Meinweoedd Dynol (Saesneg yn unig)
Memorandwm Esboniadol
(Saesneg yn unig)
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Dim pwyntiau adrodd


 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 18.19

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5836 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o God Ymarfer yr Awdurdod Meinweoedd Dynol 2015 ar Ddeddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Medi  2015.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

1

9

49

Derbyniwyd y Cynnig.


Cyfarfod: 03/03/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.)

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol ar Orchymyn Cyrff Cyhoeddus (Diddymu'r Pwyllgorau Cynghori ar Blaladdwyr) 2015

NDM5704 Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru )

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag adran 9(6) o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011, a Rheol Sefydlog 30A.10, yn cytuno i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus (Diddymu'r Pwyllgorau Cynghori ar Blaladdwyr) 2015 yn unol â'r drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Rhagfyr 2014.

Gosodwyd y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Rhagfyr 2014.

Dogfennau Ategol

Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus (Diddymu'r Pwyllgorau Cynghori ar Blaladdwyr) 2015 (Saesneg yn unig)

Memorandwm Esboniadol

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.06

NDM5704 Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru )

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag adran 9(6) o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011, a Rheol Sefydlog 30A.10, yn cytuno i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus (Diddymu'r Pwyllgorau Cynghori ar Blaladdwyr) 2015 yn unol â'r drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Rhagfyr 2014.

Gosodwyd y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Rhagfyr 2014.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 25/05/2011 - Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Deddfwriaeth