Cyfarfodydd

Cofrestr datgan cysylltiadau

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 12/05/2015 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Cofrestru a Datgan Buddiannau

SOC(4)-02-15 Papur 1 - Y diweddaraf am y Canllaw i Aelodau ar gofrestru, datgan a chofnodi buddiannau ariannol a buddiannau eraill

 

SOC(4)-02-15 Papur 2 – Cod Ymddygiad i Aelodau’r Cynulliad

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y canllawiau diwygiedig a’r newidiadau yn y Cod Ymddygiad.

 


Cyfarfod: 24/03/2015 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Cofrestru a Datgan Buddiannau

SOC(4)-01-15 papur 2 - Llythyr gan y Llywydd ar Gofrestru a Datgan Buddiannau’r Aelodau

SOC(4)-01-15 papur 3 - Y canllaw diweddaraf i Aelodau ar gofrestru, datgan a chofnodi buddiannau ariannol a buddiannau eraill

SOC(4)-01-15 papur 4 - Y canllaw diweddaraf i Aelodau ar gofrestru, datgan a chofnodi buddiannau ariannol a buddiannau eraill

 

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Nododd yr Aelodau'r llythyr a'r adroddiad gan y Llywydd ynghylch Cofrestru a Datgan Buddiannau'r Aelodau a chytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn ymateb i'r perwyl hwnnw, yn ogystal â darparu amserlen ar gyfer pryd yr hoffai'r Pwyllgor weld y Rheolau Sefydlog newydd yn dod i rym.

5.2 Trafododd Y Pwyllgor y canllawiau diwygiedig a chytunwyd i gyflwyno'r adroddiad i'w grwpiau ac adrodd yn ôl i'r Pwyllgor ar 12 Mai.

5.3 Nododd y Pwyllgor y newidiadau arfaethedig i'r Cod Ymddygiad.

5.4 Cytunwyd y byddai'r Pwyllgor yn dychwelyd i roi'r penderfyniad terfynol ynghylch yr eitemau hyn yn y cyfarfod ar 12 Mai. Yn dilyn hynny, bydd y clercod yn gofyn am ddadl yn y Cyfarfod Llawn er mwyn i'r materion gael eu trafod a chynnal pleidlais arnynt.

 


Cyfarfod: 18/10/2011 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Adolygiad o'r Canllawiau ar Gofrestru Buddiannau Ariannol a Buddiannau Eraill yr Aelodau

SOC(4)-01-11 (p3)

 

Gareth Rogers, Pennaeth y Swyddfa Gyflwyno

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

 

5.1 Cytunodd y Pwyllgor i adolygu’r rheolau ar gofrestru buddiannau ariannol a buddiannau eraill yr Aelodau. Bydd y gwaith hwn yn rhan o gyfnod 2 o’r broses adolygu a amlinellwyd ym mhapur y Comisiynydd, a drafodwyd yn ystod yr eitem flaenorol.