Cyfarfodydd

P-04-330 Cofnod Cymraeg yn ein Cynulliad ni

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 19/06/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 P-04-330 Cofnod Cymraeg yn ein Cynulliad ni

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon.

O gofio bod y Pwyllgor sy’n craffu ar y Bil Ieithoedd Swyddogol wedi argymell y dylai fod Cofnod dwyieithog o holl drafodion y Cynulliad, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 10/01/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-330 Cofnod Cymraeg yn ein Cynulliad ni

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i:

Gyfeirio’r ddeiseb i’r pwyllgor a fydd yn craffu ar y Bil ieithoedd swyddogol, unwaith i’r Pwyllgor Busnes ddod i benderfyniad am hyn.


Cyfarfod: 27/09/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-330 Cofnod Cymraeg yn ein Cynulliad ni

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb hon am y tro cyntaf.

 

Camau i’w cymryd

 

Cytunodd y Pwyllgor i aros am ateb gan y Llywydd i lythyr y Cadeirydd a oedd yn ceisio ei safbwynt cychwynnol.

 

Hefyd, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Rhodri Glyn Thomas, y Comisiynydd sy’n gyfrifol am swyddogaethau a pholisi Comisiwn y Cynulliad mewn perthynas â’r iaith Gymraeg, i ofyn am ei farn ef ynghylch y ddeiseb.