Cyfarfodydd
Senedd Ieuenctid
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 26/06/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 26/06/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 26/06/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd
3 Llythyr gan Senedd Ieuenctid Cymru - gwahoddiad i ddigwyddiad ymgysylltu
Dogfennau ategol:
Cyfarfod: 04/03/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Y wybodaeth ddiweddaraf am y Senedd Ieuenctid a'r Dathliadau Ugain Mlynedd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 6
Cofnodion:
Y wybodaeth ddiweddaraf
am y Senedd Ieuenctid
Clywodd y
Comisiynwyr am ddigwyddiad llawn cyntaf y Senedd Ieuenctid, a gynhaliwyd yr
wythnos flaenorol.
Dywedodd y
Llywydd y bu’n brofiad cynhyrfus ac roedd yn canmol pawb a fu ynghlwm wrth y
digwyddiad a’r holl waith paratoi.
Gellir
gweld cyfarfod y Senedd Ieuenctid yma:http://www.senedd.tv/Meeting/Archive/79aa22a2-0253-4a7e-badb-3baf239e5ff3?autostart=True
Trefniadau i nodi’r
ffaith bod ugain mlynedd wedi mynd heibio ers sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol
Cafodd y
Comisiynwyr wybod am y trefniadau i nodi’r ffaith bod ugain mlynedd wedi mynd
heibio ers sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol. Bydd y dathliadau’n dechrau ar
ddyddiad yr etholiad cyntaf, sef 6 Mai.
Cytunodd y
Comisiynwyr fod hyn yn gyfle unigryw i feithrin cysylltiadau â phobl Cymru.
Trafodwyd cyfleoedd i gynnwys Aelodau’r
Cynulliad yn y gweithgareddau ac i roi cyfle iddynt arwain digwyddiadau yn eu
hetholaethau a'u rhanbarthau eu hunain, gan danlinellu ei bod yn arbennig o
bwysig estyn allan i gymunedau difreintiedig nad ydynt yn ymwneud fawr ddim â’r
broses wleidyddol.
Trafododd
y Comisiynwyr ei bod yn bwysig i Aelodau'r Cynulliad ymrwymo i gymryd rhan yn y mathau hyn o
weithgareddau, naill ei fel unigolion neu fel rhan o bwyllgorau, gan ddysgu o
brofiadau Senedd@.
Cafwyd trafodaeth fanwl
ynghylch y posibilrwydd o gynnal Cynulliad Dinasyddion a'r posibilrwydd y
gallai hyn ysgogi pobl i feddwl sut y byddent yn gallu cyfrannu at waith y
Cynulliad yn y dyfodol. Roedd gwahanol
fodelau ar gael, ac roedd y cynnig yn ffafrio gofyn i gwmni arbenigol recriwtio
cyfranogwyr ar sail demograffeg gytbwys.
Cyfarfod: 11/07/2018 - Fforwm y Cadeiryddion - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
Senedd Ieuenctid
Cyfarfod: 30/04/2018 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Y wybodaeth ddiweddaraf am y Senedd Ieuenctid
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 11
Cyfarfod: 30/11/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 9)
- Gweddarllediad ar gyfer 30/11/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 30/11/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd
9 Llythyr gan y Llywydd - Y diweddaraf am y Senedd Ieuenctid
Dogfennau ategol:
Cyfarfod: 25/09/2017 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Sefydlu Senedd Ieuenctid newydd i Gymru
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 18
Cyfarfod: 20/09/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
5 Llythyr gan y Llywydd - Senedd Ieuenctid
Mae'r llythyr hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am
brosiect y Senedd Ieuenctid.
Dogfennau ategol:
Cyfarfod: 15/08/2017 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 5)
Senedd Ieuenctid
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 25
Cofnodion:
Cyflwynodd Non Gwilym bapur drafft, i’w drafod yng nghyfarfod y Comisiwn ym
mis Medi, yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus ar brif egwyddorion y senedd
ieuenctid. Roedd y papur yn crynhoi canlyniadau'r ymgynghoriad, yr opsiynau ar
gyfer y camau nesaf a'r materion i'w hystyried o ran y sefyllfa ariannol,
dulliau gweithredu ac enw da'r sefydliad.
Roedd y tîm Amrywiaeth a Chynhwysiant wrthi'n paratoi Asesiad Effaith
Cydraddoldeb, a chyfranogion allanol yn cyfrannu ato, er mwyn sicrhau bod
grwpiau anodd eu cyrraedd yn cael eu cynnwys.
Trafododd y Bwrdd Rheoli yr opsiynau a amlinellwyd o ran cynnal etholiad a
gweithredu'r senedd ieuenctid am y ddwy flynedd gyntaf, naill ai: drwy
ddefnyddio adnoddau presennol y sefydliad a dad-flaenoriaethu, gohirio neu atal
gweithgareddau eraill er mwyn cyflawni'r nod hwn; drwy ddarparu cymorth amgen,
fel adnoddau addysg ar-lein i ryddhau staff; neu drwy sicrhau adnoddau
ychwanegol (cydnabuwyd y byddai'n parhau i effeithio ar staff presennol ar
adegau allweddol yn ystod blwyddyn y senedd ieuenctid ac ar y rhai sydd â
sgiliau penodol o ran cefnogi, er enghraifft, y tîm Ymchwil a'r tîm
Cyfreithiol).
Camau i’w cymryd:
·
Non Gwilym i gynnwys yr opsiynau o
ran cyflawni'r senedd ieuenctid yn y papur terfynol a disgrifio beth fyddai
natur unrhyw adnoddau ychwanegol; y costau parhaus a ymrwymir er mwyn parhau
â'r senedd ar ôl iddi gael ei sefydlu a'r effaith ar dimau eraill yn y
sefydliad.
·
Aelodau'r Bwrdd Rheoli i gynorthwyo
Non wrth lenwi'r adran ynglŷn â’r effaith ar dimau eraill.
Cyfarfod: 27/02/2017 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Y wybodaeth ddiweddaraf am y Senedd Ieuenctid
Cofnodion:
Cynhaliwyd
cyfarfod cyntaf grŵp
llywio'r Senedd Ieuenctid ddydd Llun 13 Chwefror.
Y camau
nesaf fydd ystyried sut y dylai'r Senedd Ieuenctid weithio gyda'r Cynulliad - o
ran ei pherthynas ag Aelodau a phwyllgorau, ac o ran trefniadau llywodraethu.
Y bwriad
yw gallu ymgynghori ar fodel o gyfansoddiad drafft ar gyfer Senedd Ieuenctid ar
ôl toriad y Pasg.