Cyfarfodydd

Trosolwg Llywodraeth Cymru o gyllid a darpariaeth colegau addysg bellach

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 19/10/2017 - Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ynglŷn â’r modd y mae Llywodraeth Cymru yn goruchwylio cyllid a chyflawniad colegau addysg bellach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.3.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.


Cyfarfod: 25/09/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Trosolwg Llywodraeth Cymru o gyllid a darpariaeth colegau addysg bellach: gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru (18 Gorffennaf 2017)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 03/07/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Trosolwg Llywodraeth Cymru o gyllid a darpariaeth colegau addysg bellach: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law, a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i amlinellu ei sylwadau.  Anfonir copi o'r llythyr ar y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a Phwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau.

 


Cyfarfod: 03/07/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Trosolwg Llywodraeth Cymru o gyllid a darpariaeth colegau addysg bellach: Sesiwn dystiolaeth 2

PAC(5)-19-17 P2 – Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru (20 Mawrth 2017)

PAC(5)-19-17 P3 – Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru (8 Mehefin 2017)

 

Huw Morris - Cyfarwyddwr Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes, Llywodraeth Cymru

Geoff Hicks - Pennaeth Cyllid Ôl-16, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Huw Morris, Cyfarwyddwr Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes Llywodraeth Cymru a Geoff Hicks, Pennaeth Cyllid Ôl-16 Llywodraeth Cymru, fel rhan o'r ymchwiliad i drosolwg Llywodraeth Cymru o gyllid a darpariaeth colegau addysg bellach.

4.2 Cytunodd Huw Morris i anfon y wybodaeth a ganlyn at y Pwyllgor:

·       Cyfran y gyllideb sy'n cael ei wario ar y Gymraeg a'r Saesneg yn y sector addysg bellach; 

·       Esboniad manwl o'r effaith ar gyllid Ysgolion yr 21ain ganrif o fis Mawrth 2019 ymlaen yn sgil y broses o adael yr UE;

·       Manylion am sut y mae dysgwyr o'r gymuned Teithwyr yn cael eu cefnogi yn y sector addysg bellach;

·       Anfon y dyraniad o ran cyllid cyfalaf o'r gyllideb ddrafft, os yw'n gallu.

 


Cyfarfod: 03/07/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Trosolwg Llywodraeth Cymru o gyllid a darpariaeth colegau addysg bellach: Sesiwn dystiolaeth 1

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-19-17 P1 – Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Trosolwg Llywodraeth Cymru o gyllid a darpariaeth colegau addysg bellach

 

Iestyn Davies – Prif Weithredwr, ColegauCymru

Mark Jones – Pennaeth Coleg Gŵyr

Sharron Lusher - Cadeirydd, ColegauCymru

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Iestyn Davies, Prif Swyddog Gweithredol ColegauCymru, Mark Jones, Pennaeth Coleg Gŵyr a Sharron Lusher, Cadeirydd ColegauCymru, fel rhan o'r ymchwiliad i drosolwg Llywodraeth Cymru o gyllid a darpariaeth colegau addysg bellach.

3.2 Cytunodd Iestyn Davies i anfon y wybodaeth a ganlyn at y Pwyllgor:

·       Cyfran y cyllid sy'n cael ei wario ar y Gymraeg a'r Saesneg yn y sector addysg bellach;

·       Canran y cyllid addysg bellach sy'n cael ei wario ar farchnata.

 


Cyfarfod: 03/04/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Trosolwg Llywodraeth Cymru o gyllid a darpariaeth colegau addysg bellach: Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-12-17 Papur 2 – Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

PAC(5)-12-17 Papur 3 - Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Derbyniodd y Pwyllgor friff ar adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ynghylch ei adroddiad diweddaraf ar drosolwg Llywodraeth Cymru o gyllid a darpariaeth colegau addysg bellach.

6.2 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad byr i'r mater hwn.