Cyfarfodydd

Adroddiad Llywodraeth Cymru ar Reoli Grantiau

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 09/10/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Adroddiad Rheoli Grantiau Llywodraeth Cymru: Adroddiad Blynyddol Interim 2016-17

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 08/05/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar Reoli Grantiau 2016: Gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru (28 Ebrill 2017)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 03/04/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar Reoli Grantiau 2015-16: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

5.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

5.2 Cytunodd y Pwyllgor ar gynnig Llywodraeth Cymru i alinio adroddiadau yn y dyfodol gyda chyhoeddi'r adroddiad a'r cyfrifon blynyddol.

 


Cyfarfod: 03/04/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar Reoli Grantiau 2015-16

Briff Ymchwil

PAC(5)-12-17 Papur 1 – Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar Reoli Grantiau 2015-16

 

Shan Morgan - Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru

David Richards - Cyfarwyddwr Llywodraethu, Llywodraeth Cymru

Gawain Evans - Cyfarwyddwr Cyllid, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Craffodd y Pwyllgor ar Shan Morgan, yr Ysgrifennydd Parhaol; David Richards, Cyfarwyddwr Llywodraethu; a Gawain Evans, Cyfarwyddwr Cyllid, Llywodraeth Cymru ynghylch Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar Reoli Grantiau 2015-16.

3.2 Cytunodd yr Ysgrifennydd Parhaol y byddai'n:

·       Ystyried a yw'r trothwy o £25k ar gyfer tendro a chaffael yn dal i fod yn drothwy priodol, ac ysgrifennu at y Pwyllgor gyda'i chasgliadau;

·       Darparu nodyn ar y safle de minimus o ran graddfa'r cysylltiadau sydd wedi'u gosod i'w tendro, a nodi a yw Llywodraeth Cymru yn ystyried bod y safle hon yn cynnig gwerth am arian;

·       Darparu nodyn gyda'r gwerth a'r modd y mae'r grantiau a ddyfarnwyd wedi cael eu rhannu ar gyfer iechyd, awdurdodau lleol a'r trydydd sector yn 2015-16;

·       Darparu dadansoddiad, gan gynnwys unrhyw arbedion, a wnaed o ran costau gweinyddol yn y Ganolfan Ragoriaeth yn 2015-16; a

·       Darparu'r telerau ar gyfer diswyddo i staff a effeithir o ganlyniad i'r ffaith bod Cymunedau yn Gyntaf yn dod i ben yn raddol.