Cyfarfodydd

Sesiwn gychwynnol - Y Bumed Senedd

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 17/09/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 3.)

3. Sesiwn ragarweiniol: Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 26/02/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Sesiwn gychwynnol: Gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru (31 Ionawr 2018)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 15/01/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Sesiwn Ragarweiniol gyda Chyfarwyddwyr Cyffredinol newydd, Llywodraeth Cymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Tracey Burke - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus

Andrew Slade - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cynhaliodd yr aelodau sesiwn ragarweiniol gyda Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus ac Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol yn dilyn eu penodiad diweddar.

4.2 Cytunodd Tracey Burke i anfon rhagor o wybodaeth am y canlynol:

·       Diweddariad ar elfennau codio y rhaglen Hwb (gwefan a chasgliad o adnoddau ar-lein a ddarperir i bob ysgol yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru) a chynnwys gwybodaeth am weithgareddau ar addysgu codio mewn ysgolion yn fwy cyffredinol, nid dim ond yn benodol i’r rhaglen Hwb.

4.3 Cytunodd Andrew Slade i wneud y canlynol:

·       Darparu nodyn ar y gydberthynas sydd gan Lywodraeth Cymru â Gwasanaeth Digidol Llywodraeth y DU;

·       Darparu nodyn dilynol ar y tablau yng nghyd-destun modelu'r economi fel rhan o'r Cynllun Gweithredu Economaidd;

·       Anfon nodyn i ddiweddaru sut y mae'r pwerau arfaethedig i roi mwy o ymreolaeth i Trafnidiaeth Cymru yn mynd rhagddynt; a'r

·       Sylw i Gymru o ganlyniad i'r cyhoeddiad heddiw o fethdaliad Carillion.

 

 


Cyfarfod: 27/11/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Penodi Cyfarwyddwyr Cyffredinol Llywodraeth Cymru: Llythyr gan Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru (21 Tachwedd 2017)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 19/06/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Sesiwn gychwynnol: Gwybodaeth ychwanegol gan Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru ar ddigideiddio (1 Mehefin 2017)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 13/03/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Sesiwn gychwynnol: Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Shan Morgan – Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru

David Richards - Cyfarwyddwr Llywodraethu, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn gychwynnol gyda Shan Morgan, yr Ysgrifennydd Parhaol newydd yn Llywodraeth Cymru.

3.2 Cytunodd yr Ysgrifennydd Parhaol i roi sylw i'r heriau a fydd yn digwydd yn sgil digideiddio a bydd yn cyflwyno ei sylwadau i'r pwyllgor.