Cyfarfodydd
NDM 6240 (15.02.17) - Dadl Plaid Cymru
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 15/02/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)
- Gweddarllediad ar gyfer 15/02/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 15/02/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl Plaid Cymru
NDM6240 Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pa mor bwysig i unigolion a busnesau pob
cymuned yng Nghymru yw cyngor ariannol a gwasanaethau bancio sy'n hawdd cael
gafael arnynt.
2. Yn gresynu bod canghennau banciau a chymdeithasau
adeiladu yn cau mewn cymunedau ledled Cymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
i) archwilio pob opsiwn ar frys er mwyn diwallu anghenion
ariannol unigolion a busnesau yng Nghymru; a
ii) archwilio'r camau deddfwriaethol a rheoleiddiol
angenrheidiol i sefydlu modelau amgen o ddarparu gwasanaethau bancio, gan
gynnwys Banc Pobl Cymru tebyg i'r banciau cynilo lleol.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro Morgannwg):
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu gwaith Llywodraeth Cymru wrth hyrwyddo
cynhwysiant ariannol, gan gynnwys cymorth ar gyfer gwasanaethau cynghori ac
undebau credyd, a'r uchelgeisiau a ddisgrifir yn Strategaeth Cynhwysiant
Ariannol 2016 ar gyfer system ariannol yng Nghymru sy'n gynhwysfawr ac yn
gweithio'n dda.
Yn cydnabod yr angen i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y
DU gydweithio â phartneriaid er mwyn gwella mynediad at wasanaethau credyd ac
ariannol fforddiadwy a gwybodaeth ar gyfer unigolion, gan gynnwys cyngor ar
ddyledion.
Yn cydnabod yr angen i wella gallu ariannol yng Nghymru
ac yn nodi'r gwaith sy'n mynd rhagddo er mwyn sefydlu Banc Datblygu Cymru a'i
uned wybodaeth a fydd yn targedu'n well wasanaethau a chyngor ariannol ar gyfer
microfusnesau a busnesau bach a chanolig yng Nghymru."
Strategaeth
Cynhwysiant Ariannol 2016
[Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei
ddad-ddethol]
Gwelliant 2. Paul Davies (Preseli Sir
Benfro):
Ym mhwynt 3 b), dileu 'Banc Pobl Cymru tebyg i'r banciau
cynilo lleol' a rhoi yn ei le:
'y model bancio cymuned a ddatblygwyd yng Nghymru gan
Responsible Finance'
Gwelliant 3. Paul Davies (Preseli Sir
Benfro):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:
Yn croesawu'r adolygiad annibynnol, "Access to
Banking Protocol One Year on Review" gan yr Athro Russel Griggs OBE, a
gyhoeddwyd fis Tachwedd 2016
'Access
to Banking Protocol One Year on Review – Professor Russel Griggs OBE' (Saesneg
yn unig)
Gwelliant 4.
Paul Davies (Preseli Sir
Benfro):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:
Yn croesawu cytundeb Partneriaeth newydd y Swyddfa Bost â
Banciau'r DU.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 17.19
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM6240 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pa mor bwysig i unigolion a
busnesau pob cymuned yng Nghymru yw cyngor ariannol a gwasanaethau bancio sy'n
hawdd cael gafael arnynt.
2. Yn gresynu bod canghennau banciau a
chymdeithasau adeiladu yn cau mewn cymunedau ledled Cymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
i) archwilio pob opsiwn ar frys er mwyn
diwallu anghenion ariannol unigolion a busnesau yng Nghymru; a
ii) archwilio'r camau deddfwriaethol a
rheoleiddiol angenrheidiol i sefydlu modelau amgen o ddarparu gwasanaethau
bancio, gan gynnwys Banc Pobl Cymru tebyg i'r banciau cynilo lleol.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
16 |
0 |
35 |
51 |
Gwrthodwyd y cynnig heb
ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro Morgannwg):
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu gwaith Llywodraeth Cymru wrth hyrwyddo cynhwysiant ariannol,
gan gynnwys cymorth ar gyfer gwasanaethau cynghori ac undebau credyd, a'r
uchelgeisiau a ddisgrifir yn Strategaeth Cynhwysiant Ariannol 2016 ar gyfer
system ariannol yng Nghymru sy'n gynhwysfawr ac yn gweithio'n dda.
Yn cydnabod yr angen i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU gydweithio â
phartneriaid er mwyn gwella mynediad at wasanaethau credyd ac ariannol
fforddiadwy a gwybodaeth ar gyfer unigolion, gan gynnwys cyngor ar ddyledion.
Yn cydnabod yr angen i wella gallu ariannol yng Nghymru
ac yn nodi'r gwaith sy'n mynd rhagddo er mwyn sefydlu Banc Datblygu Cymru a'i
uned wybodaeth a fydd yn targedu'n well wasanaethau a chyngor ariannol ar gyfer
microfusnesau a busnesau bach a chanolig yng Nghymru."
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
29 |
4 |
18 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
[Derbyniwyd gwelliant 1, felly cafodd gwelliant 2 ei
ddad-ddethol]
Gwelliant 3. Paul Davies (Preseli Sir
Benfro):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:
Yn croesawu'r adolygiad annibynnol, "Access to
Banking Protocol One Year on Review" gan yr Athro Russel Griggs OBE, a
gyhoeddwyd fis Tachwedd 2016.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
37 |
10 |
4 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4. Paul Davies (Preseli Sir
Benfro):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:
Yn croesawu cytundeb
Partneriaeth newydd y Swyddfa Bost â Banciau'r DU.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
51 |
0 |
0 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM6240
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pa mor bwysig i unigolion a
busnesau pob cymuned yng Nghymru yw cyngor ariannol a gwasanaethau bancio sy'n
hawdd cael gafael arnynt.
2. Yn gresynu bod canghennau banciau a
chymdeithasau adeiladu yn cau mewn cymunedau ledled Cymru.
3. Yn croesawu gwaith Llywodraeth Cymru wrth hyrwyddo cynhwysiant ariannol,
gan gynnwys cymorth ar gyfer gwasanaethau cynghori ac undebau credyd, a'r
uchelgeisiau a ddisgrifir yn Strategaeth Cynhwysiant Ariannol 2016 ar gyfer
system ariannol yng Nghymru sy'n gynhwysfawr ac yn gweithio'n dda.
Yn cydnabod yr angen i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU gydweithio â
phartneriaid er mwyn gwella mynediad at wasanaethau credyd ac ariannol
fforddiadwy a gwybodaeth ar gyfer unigolion, gan gynnwys cyngor ar ddyledion.
Yn cydnabod yr angen i wella gallu ariannol yng Nghymru
ac yn nodi'r gwaith sy'n mynd rhagddo er mwyn sefydlu Banc Datblygu Cymru a'i
uned wybodaeth a fydd yn targedu'n well wasanaethau a chyngor ariannol ar gyfer
microfusnesau a busnesau bach a chanolig yng Nghymru."
4. Yn croesawu'r adolygiad annibynnol, "Access to
Banking Protocol One Year on Review" gan yr Athro Russel Griggs OBE, a
gyhoeddwyd fis Tachwedd 2016.
5. Yn croesawu cytundeb
Partneriaeth newydd y Swyddfa Bost â Banciau'r DU.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
51 |
0 |
0 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig
wedi’i ddiwygio.