Cyfarfodydd
Adolygiad i nodi rhwystrau a chymhellion o ran ymgeisio mewn etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 24/05/2018 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 2)
Eitem i'w thrafod: Yr adroddiad gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru ar y rhwystrau a'r cymhellion dros sefyll mewn etholiad i'r Cynulliad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
- Cyfyngedig 3
- Cyfyngedig 4
Cofnodion:
2.1.
Croesawodd
y Cadeirydd yr Athro Roger Awan-Scully a Dr Huw Pritchard, a oedd yn
cynrychioli tîm ymchwil Canolfan Llywodraethiant Cymru ar gyfer yr adolygiad,
i'r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Dr Diana Stirbu a oedd i fod i drafod
yr adroddiad dros fideogynadledda, ond nad oedd yn gallu cymryd rhan oherwydd
problemau technegol annisgwyl.
2.2.
Trafododd
y Bwrdd yr adroddiad gyda'r tîm ymchwil.
2.3.
Yn
ystod y trafodaethau preifat ar yr adroddiad, trafododd y Bwrdd y camau nesaf
ar gyfer yr adolygiad.
Camau
gweithredu
Yr
ysgrifenyddiaeth i ofyn am farn y tîm ymchwil o ran camau nesaf arfaethedig y
Bwrdd.
Cyfarfod: 15/03/2018 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 3)
Eitem i'w thrafod: Yr adroddiad gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru ar y rhwystrau a'r cymhellion dros sefyll mewn etholiad i'r Cynulliad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 7
- Cyfyngedig 8
Cofnodion:
3.1.
Nododd
y Bwrdd, yn sgil gweithredu diwydiannol diweddar a'r tywydd gwael, nid oedd
cynrychiolwyr o Ganolfan Llywodraethiant Cymru wedi gallu dod i'r cyfarfod i
drafod yr adroddiad.
3.2.
Trafododd
y Bwrdd yr adroddiad a chytunodd i wahodd cynrychiolwyr o Ganolfan
Llywodraethiant Cymru yn ei gyfarfod ym mis Mai i drafod camau nesaf yr
adolygiad.
Cam
gweithredu:
Yr
ysgrifenyddiaeth i wahodd cynrychiolwyr o Ganolfan Llywodraethiant Cymru i'w
gyfarfod ym mis Mai.
Cyfarfod: 25/01/2018 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 3)
Eitem i'w thrafod: Adroddiad gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru ar y rhwystrau a’r cymhellion ar gyfer sefyll i fod yn Aelod Cynulliad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 11
- Cyfyngedig 12
Cofnodion:
3.1
Croesawodd
y Cadeirydd y Dr Huw Pritchard, a oedd yn cynrychioli Canolfan Llywodraethiant
Cymru, i'r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan y Dr Diana Stribu.
3.2
Estynnodd
y Cadeirydd wahoddiad i’r Dr Pritchard i roi trosolwg o'r adroddiad drafft i'r Bwrdd
ac i ymateb i'r pwyntiau o eglurhad a godwyd gan y Bwrdd. Cytunodd y Dr
Pritchard i ymateb i bwyntiau pellach o eglurhad trwy’r e-bost.
3.3
Cytunodd
y Bwrdd i ystyried sut y byddai'n ymateb i'r argymhelliad yn yr adroddiad yn ei
gyfarfod ym mis Mawrth.
3.4
Cytunodd
y Dr Pritchard a'r Bwrdd i drafod y strategaeth gyhoeddi a dosbarthu yn nes
ymlaen.
Cam gweithredu:
Yr ysgrifenyddiaeth i fod yn bwynt cyswllt rhwng y
Bwrdd a Chanolfan Llywodraethiant Cymru mewn perthynas ag unrhyw bwyntiau o
eglurhad a godwyd.
Cyfarfod: 12/07/2017 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 1)
Eitem i'w drafod: Trafod y dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg yn yr adolygiad i nodi rhwystrau a chymhellion o ran ymgeisio mewn etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 15
- Cyfyngedig 16
- Cyfyngedig 17
Cofnodion:
1.1
Croesawodd y Cadeirydd Dr Huw Pritchard, Dr Diana Stribu a Naomi White i'r
cyfarfod. Atgoffodd y Cadeirydd y Bwrdd fod y tri yn cynrychioli Canolfan
Llywodraethiant Cymru y dyfarnwyd y tendr iddi i gynnal yr adolygiad ar ran y
Bwrdd.
1.2
Gwahoddodd y Cadeirydd i'r ddirprwyaeth roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd
am eu gwaith hyd yn hyn ac amlinellu'r camau nesaf yn yr adolygiad i nodi
rhwystrau a chymhellion o ran ymgeisio mewn etholiad Cynulliad Cenedlaethol
Cymru.
Cyfarfod: 23/03/2017 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 3)
Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Camau nesaf yr adroddiad i ganfod rhwystrau a chymhelliant unigolion wrth sefyll i gael eu hethol i fod yn Aelod Cynulliad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 20
- Cyfyngedig 21
Cofnodion:
3.1 Gwnaeth y Fonesig Jane Roberts ailddatgan ei buddiant. Roedd aelodau'r
Bwrdd yn fodlon nad oedd unrhyw wrthdaro buddiannau ac roedd yn fodlon i Jane
gyfrannu at yr eitem.
3.2 Rhoddodd y Cadeirydd y wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd am y broses
dendro. Cytunodd y Bwrdd ar y camau nesaf ar gyfer y darn o waith gan nodi y
cytunir ar y tendr llwyddiannus y tu allan i'r cyfarfod ffurfiol.
3.3 Cymeradwyodd y Bwrdd y crynodeb ymchwil a roddwyd iddynt gan Wasanaeth
Ymchwil y Cynulliad Cenedlaethol.
Camau gweithredu:
·
Yr Ysgrifenyddiaeth i weithio â'r tendr llwyddiannus i sicrhau bod eu
cynigion a'u hamserlenni yn cyd-fynd â blaenraglen waith y Bwrdd.
Cyfarfod: 26/01/2017 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 2)
Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Cylch gorchwyl yr adroddiad i ganfod rhwystrau a chymhelliant unigolion wrth sefyll i gael eu hethol i fod yn Aelod Cynulliad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 24
Cofnodion:
2.1
Trafododd y Bwrdd bapur a oedd yn amlinellu paramedrau'r adolygiad i ganfod
rhwystrau a chymhelliant unigolion wrth sefyll i gael eu hethol i fod yn Aelod
Cynulliad, yn enwedig y broses o dendro ymchwil i'r maes.
2.2
Cytunodd y Bwrdd i ofyn am grynodeb o'r gwaith ymchwil sydd eisoes wedi'i wneud
i nodi rhwystrau a chymhellion i sefyll i fod yn Aelod Cynulliad.
2.3
Cytunodd y Bwrdd i ddechrau proses gaffael i nodi'r cymhellion a'r rhwystrau ar
gyfer unrhyw un sydd am sefyll i fod yn Aelod Cynulliad. Roeddent hefyd yn
cytuno ar y pwyntiau a ganlyn:
·
dylai'r
broses ganolbwyntio ar y pecyn tâl, sydd o fewn cylch gwaith y Bwrdd;
·
dylid anfon tendrau'n uniongyrchol at nifer o ddarpar
ymgeiswyr a'u cyhoeddi ar wefannau'r Cynulliad;
·
y broses
ymgeisio a chyfweld; a
·
byddai
angen i'r ymgeisydd llwyddiannus roi methodoleg fanwl i'r Bwrdd o'i adolygiad
arfaethedig a rhoi trosolwg o'r gwaith y mae wedi'i wneud ar adeg briodol o'r
adolygiad.
Camau i'w cymryd:
·
Yr
Ysgrifenyddiaeth i baratoi crynodeb o waith ymchwil blaenorol a wnaed yn y
maes.
·
Yr
Ysgrifenyddiaeth i ddiwygio'r dogfennau tendro fel y cytunwyd gan y Bwrdd a
chyhoeddi yn unol â hynny.
·
Cytunodd y
Bwrdd y byddai Jane yn arwain ar y mater hwn. Cytunodd y Bwrdd hefyd y byddai'n
ystyried ac yn cytuno ar y canlynol y tu allan i gyfarfodydd y Bwrdd: y ddogfen
dendro derfynol, y rhestr o wahoddedigion i anfon y tendr atynt, y rhestr fer o
bobl i'w gwahodd i gyfweliad, a'r ymgeisydd llwyddiannus.