Cyfarfodydd
P-05-741 Mae angen Cyfyngiadau Llymach ar Gyfoeth Naturiol Cymru
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 09/05/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
3 P-05-741 Mae angen cyfyngiadau llymach ar Cyfoeth Naturiol Cymru.
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 37 KB Gweld fel HTML (3/1) 7 KB
- 22.03.17 Cyfoeth Naturiol Cymru at y Cadeirydd, Eitem 3 PDF 107 KB
- 23.04.17 Gohebiaeth - Deisebydd at y Pwyllgor, Eitem 3 PDF 109 KB Gweld fel HTML (3/3) 10 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i gau'r
ddeiseb ar y sail bod:
·
Adnoddau Naturiol Cymru wedi cadarnhau bod barn tirfeddianwyr a meddianwyr,
yn ogystal ag ystyriaethau economaidd ehangach, yn cael eu hystyried wrth
benderfynu Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig;
·
Nid yw'r Pwyllgor yn gallu ymyrryd yn y sefyllfa benodol
dan sylw gyda'r tir wedi'i feddiannu gan y deisebydd.
Cyfarfod: 14/02/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)
2 P-05-741 Mae angen cyfyngiadau llymach ar Gyfoeth Naturiol Cymru.
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 2 PDF 37 KB Gweld fel HTML (2/1) 7 KB
- Briff Ymchwil, Eitem 2 PDF 98 KB Gweld fel HTML (2/2) 46 KB
- 17.01.17 Gohebiaeth – gan y Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 2 PDF 2 MB
- 07.02.17 Gohebiaeth – gan y deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 2 PDF 30 KB Gweld fel HTML (2/4) 12 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu
at Gyfoeth Naturiol Cymru i ofyn iddynt ymateb i’r pwyntiau a godwyd yn y
ddeiseb ac esbonio sut y maent yn ystyried buddiannau sy’n cystadlu yn erbyn ei
gilydd, a’r defnydd amaethyddol o dir, wrth fynd ati i ddynodi Safleoedd o
Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.