Cyfarfodydd
Dadl ar Gynigion Deddfwriaethol Aelodau
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 08/10/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
Dadl ar Gynigion Deddfwriaethol Aelodau.
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
Dewisodd y
Rheolwyr Busnes y cynnig a ganlyn ar gyfer dadl ar 16 Hydref:
NDM7155 Huw Irranca–Davies (Ogwr)
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi
cynnig ar gyfer Bil ar ddefnyddio plastigau untro.
2. Yn nodi
mai diben y Bil hwn fyddai:
a)
lleihau'n sylweddol y defnydd o blastigau untro yn seiliedig ar yr arferion a'r
ymchwil rhyngwladol gorau, a fyddai'n sefydlu Cymru fel arweinydd byd o ran
lleihau gwastraff plastig;
b)
cyflwyno trethi ac ardollau priodol er mwyn lleihau'n sylweddol y gwaith o
gynhyrchu plastigau untro yng Nghymru a'r defnydd ohonynt;
c)
cyflwyno cynllun gweithredu trawslywodraethol gan gynnwys cyfres gynhwysfawr o fesurau
i leihau'n sylweddol y defnydd o blastigau untro; a
d) pennu
targedau a cherrig milltir ar gyfer lleihau plastigau untro penodol.
Cefnogir
gan:
Alun
Davies (Blaenau Gwent)
Andrew RT
Davies (Canol De Cymru)
David Rees
(Aberafan)
Dawn
Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni)
Delyth
Jewell (Dwyrain De Cymru)
Hefin
David (Caerffili)
Jack
Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Jayne
Bryant (Gorllewin Casnewydd)
Rhianon
Passmore (Islwyn)
Vikki
Howells (Cwm Cynon)
Cyfarfod: 25/06/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
Dadl ar Gynigion Deddfwriaethol Aelodau - dethol cynnig ar gyfer dadl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 5
Cofnodion:
·
Dewisodd y Pwyllgor Busnes y cynnig a ganlyn
ar gyfer dadl ar 3 Gorffennaf:
NNDM7102 Helen Mary Jones, (Canolbarth
a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi
cynnig ar gyfer Bil ar reoli'r gwasanaeth iechyd.
2. Yn nodi
mai diben y Bil fyddai:
a) sefydlu
corff proffesiynol i reolwyr y GIG yng Nghymru i bennu cymwyseddau proffesiynol
craidd ar gyfer rheolwyr ar bob lefel, sicrhau bod rhaglenni hyfforddiant
cychwynnol priodol a rhaglenni datblygiad proffesiynol parhaus yn cael eu
datblygu, a gyda'r pŵer i gymryd sancsiynau yn erbyn rheolwyr am
berfformiad gwael neu anniogel;
b) sicrhau
gwir annibyniaeth Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru;
c) sefydlu
dyletswydd gonestrwydd cyfreithiol i fod yn berthnasol i bob gweithiwr iechyd
proffesiynol gan gynnwys rheolwyr; a
d) sefydlu
system gwynion ddilys, gadarn a thryloyw sy'n cefnogi rhieni a theuluoedd.
Cymraeg 2050: Strategaeth ar gyfer y Gymraeg
Cyfarfod: 26/03/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
Dadl ar Gynigion Deddfwriaethol Aelodau - dethol cynnig ar gyfer dadl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 8
Cofnodion:
·
Dewisodd y Pwyllgor Busnes y cynnig a ganlyn
ar gyfer dadl ar 3 Ebrill:
NNDM7021
Bethan Sayed (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi
cynnig am fil i ddiwygio a gwella cefnogaeth ar gyfer plant sydd wedi cael eu
cam-drin yn rhywiol yng Nghymru.
2. Yn nodi
mai diben y Bil hwn fyddai:
a)
cyflwyno'r Model Barnahus o gymorth i ddioddefwyr gyda phwyslais therapiwtig;
b)
gweithio gyda'r heddlu i ddefnyddio'r Model Barnahus o gynnal ymchwiliad i bob
achos o gam-drin plant yn rhywiol; ac
c) yn cyflwyno
newidiadau statudol i wella llety brys a llety dros dro i blant sydd wedi'u
cam-drin, sy'n methu â dychwelyd i'w cartref neu sy'n ddigartref.
·
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i amserlennu'r
Dadleuon nesaf ar Gynigion Deddfwriaethol Aelodau ar 15 Mai a 26 Mehefin, a
dewiswyd y cynnig canlynol i'w drafod ar 15 Mai. Yn unol â phenderfyniadau
blaenorol y Pwyllgor Busnes, bydd y Swyddfa Gyflwyno yn hysbysu Aelodau o
ddyddiadau tymor yr haf.
NNDM7020
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi
cynnig am fil cerbydau cyhoeddus di-allyriad carbon
2. Yn nodi
mai diben y Bil hwn fydd:
(a) hybu'r
defnydd o gerbydau trydan neu gerbydau di-allyriadau yng Nghymru er mwyn helpu
i leihau allyriadau carbon; a
(b) gosod
dyletswydd ar Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill i lunio strategaeth i
symud tuag at ddefnyddio cerbydau trydan neu gerbydau di-allyriadau yn y fflyd
gyhoeddus yng Nghymru.
Cyfarfod: 04/12/2018 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
Dadl ar Gynigion Deddfwriaethol Aelodau: dethol cynnig ar gyfer dadl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 11
Cofnodion:
·
Dewisodd y Pwyllgor Busnes y cynnig a ganlyn
ar gyfer dadl ar 12 Rhagfyr:
NNDM6893
Jenny
Rathbone
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi
cynnig ar gyfer bil ar atal gwastraff ac ailgylchu.
2. Yn nodi
mai diben y Bil hwn fyddai:
a) atal
gwastraff drwy osod gofynion ailgylchu ar gynhyrchwyr bwyd a manwerthwyr mewn
perthynas â deunydd pacio a gwastraff pecynnu; a
b)
chyflwyno cyfrifoldebau estynedig o ran cynhyrchwyr, i sicrhau bod costau ailgylchu a
rheoli gwastraff yn cael eu rhannu’n deg, a bod
cynhyrchwyr
yn cyfrannu at gost ariannol trin eu cynnyrch ar ddiwedd ei oes.
·
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drefnu’r ddadl
nesaf ar Gynnig Deddfwriaethol Aelod ar gyfer y flwyddyn newydd.
·
Gofynnodd Rheolwyr Busnes i’r
Ysgrifenyddiaeth edrych ar sut y gall y broses gyflwyno ar gyfer Cynigion
Deddfwriaethol yr Aelodau gynyddu nifer y cynigion a gyflwynir i’w dewis.
Cododd Rheolwyr Busnes y posibilrwydd o gyhoeddi ymlaen llaw ddau ddyddiad y
Dadleuon y tymor, a dechrau’r broses o gyflwyno ar ddechrau’r tymor, er mwyn
cynyddu’r amser sydd ar gael i Aelodau ystyried a chyflwyno cynigion.
Cyfarfod: 17/05/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod
NDM6301 Dawn Bowden
(Merthyr Tudful a Rhymni)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi cynnig ar gyfer gwelliant i Ddeddf Tai (Cymru) 2014.
2.
Yn nodi mai diben y gwelliant fyddai gwahardd hysbysebu eiddo yn ddi-rent gan landlordiaid sy'n disgwyl cydnabyddiaeth am
hyn ar ffurf manteision rhywiol.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 15.33
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
NDM6301 Dawn
Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer gwelliant i Ddeddf Tai
(Cymru) 2014.
2. Yn nodi mai diben y gwelliant fyddai gwahardd
hysbysebu eiddo yn ddi-rent gan landlordiaid sy'n disgwyl cydnabyddiaeth am hyn
ar ffurf manteision rhywiol.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
36 |
11 |
0 |
47 |
Derbyniwyd y cynnig.
Cyfarfod: 05/04/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod
NDM6227
Simon Thomas
(Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar leihau gwastraff.
2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai lleihau gwastraff drwy
roi gofyniad ar gynhyrchwyr a manwerthwyr bwyd mewn cysylltiad â phecynnu bwyd.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am
15.06
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem
hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM6227 Simon
Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar leihau gwastraff.
2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai lleihau gwastraff drwy roi gofyniad ar
gynhyrchwyr a manwerthwyr bwyd mewn cysylltiad â phecynnu bwyd.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
34 |
12 |
0 |
46 |
Derbyniwyd
y cynnig.
Cyfarfod: 08/02/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Dadl ar Gynigion Deddfwriaethol Aelodau
NDM6222 Suzy Davies
(Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil yn ymwneud â sgiliau achub
bywyd.
2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:
a) creu hawl statudol i bobl gael addysg a hyfforddiant
sgiliau achub bywyd sy'n briodol i'w hoedran ar amrywiol adegau yn eu bywydau
b) llunio cyfrifoldebau statudol i sicrhau:
i) bod hyfforddiant sgiliau achub bywyd yn cael ei
ddarparu;
ii) bod diffibrilwyr yn cael eu darparu mewn lleoliadau
priodol;
iii) bod unigolion sydd wedi cael hyfforddiant achub
bywyd ar gael mewn swyddi allweddol mewn gwasanaethau cyhoeddus (yn hytrach na
pherson cymorth cyntaf penodedig); a
iv) bod deunyddiau cymorth cyntaf sylfaenol ar gael i'r
cyhoedd mewn adeiladau cyhoeddus, ac nid ar gyfer y staff yn unig.
c) creu ffyrdd o wella a gorfodi o ran yr uchod.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 14.38
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan
y cyfnod pleidleisio.
NDM6222 Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil yn ymwneud â sgiliau achub
bywyd.
2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:
a) creu hawl statudol i bobl gael addysg a hyfforddiant
sgiliau achub bywyd sy'n briodol i'w hoedran ar amrywiol adegau yn eu bywydau
b) llunio cyfrifoldebau statudol i sicrhau:
i) bod hyfforddiant sgiliau achub bywyd yn cael ei
ddarparu;
ii) bod diffibrilwyr yn cael eu darparu mewn lleoliadau
priodol;
iii) bod unigolion sydd wedi cael hyfforddiant achub
bywyd ar gael mewn swyddi allweddol mewn gwasanaethau cyhoeddus (yn hytrach na
pherson cymorth cyntaf penodedig); a
iv) bod deunyddiau cymorth cyntaf sylfaenol ar gael i'r
cyhoedd mewn adeiladau cyhoeddus, ac nid ar gyfer y staff yn unig.
c) creu ffyrdd o wella a gorfodi o ran yr
uchod.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
33 |
17 |
3 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig.