Cyfarfodydd

Cynllun Ieithoedd Swyddogol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 19/06/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)

Adroddiad Blynyddol y Cynllun Ieithoedd Swyddogol 2022-23

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 2
  • Cyfyngedig 3

Cofnodion:

Cyflwynodd y Comisiynydd gyda'r portffolio Ieithoedd Swyddogol yr adroddiad ar y gwaith a wnaed ar draws y sefydliad i alluogi'r Comisiwn i gynnal ei ymrwymiad i ddarparu gwasanaethau dwyieithog rhagorol, gan gynnwys cymeradwyo a gweithredu'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer y Chweched Senedd.

Cytunodd y Comisiynwyr ar yr adroddiad gan nodi y byddai dadl yn y Cyfarfod Llawn yn cael ei threfnu cyn diwedd y tymor.


Cyfarfod: 28/09/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 5)

Cynnig i gymeradwyo'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer y Chweched Senedd a nodi'r adroddiad blynyddol ar y Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer 2021-22

NDM8078 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cymeradwyo Cynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd, yn unol â pharagraff 8(11)(d) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a osodwyd gerbron Senedd Cymru ar 21 Medi 2022; a

2. Yn nodi'r Adroddiad Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer y cyfnod 2021-22, yn unol â pharagraff 8(8) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a osodwyd gerbron y Senedd ar 30 Mehefin 2022.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.20

NDM8078 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cymeradwyo Cynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd, yn unol â pharagraff 8(11)(d) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a osodwyd gerbron Senedd Cymru ar 21 Medi 2022; a

2. Yn nodi'r Adroddiad Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer y cyfnod 2021-22, yn unol â pharagraff 8(8) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a osodwyd gerbron y Senedd ar 30 Mehefin 2022.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 21/09/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 9)

Cynnig i gymeradwyo'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer y Chweched Senedd a nodi'r adroddiad blynyddol ar y Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer2021-22 - Gohiriwyd tan 28 Medi

Cofnodion:

Gohiriwyd yr eitem hon


Cyfarfod: 20/06/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)

Adroddiad Blynyddol y Cynllun Ieithoedd Swyddogol 2021-22

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 10
  • Cyfyngedig 11

Cofnodion:

Cytunodd y Comisiynwyr ar yr adroddiad ar y gwaith a wnaed ar draws y sefydliad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i alluogi'r Comisiwn i gynnal ei ymrwymiad i ddarparu gwasanaethau dwyieithog rhagorol.

Trafododd y Comisiynwyr daith dysgwyr a phwysigrwydd bod yn gynhwysol wrth alluogi staff i ddysgu, gan gadw mewn cof y drafodaeth flaenorol ar amrywiaeth a chynhwysiant. Gwnaeth y Comisiynwyr sylwadau ar y berthynas â recriwtio, gan gydnabod gwerth data a gwaith allgymorth wrth gael gwared ar rwystrau.


Cyfarfod: 31/01/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)

Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer y Chweched Senedd

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 14
  • Cyfyngedig 15

Cyfarfod: 04/11/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

Cynnig i nodi'r adroddiad blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer 2019-20

NDM7447 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â pharagraff 8 (8) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006:

Yn nodi'r Adroddiad Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd, a osodwyd gerbron y Senedd ar 18 Mehefin 2020.

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.41

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7447 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â pharagraff 8 (8) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006:

Yn nodi'r Adroddiad Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd, a osodwyd gerbron y Senedd ar 18 Mehefin 2020.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

3

0

55

Derbyniwyd y cynnig.


Cyfarfod: 15/06/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 7)

Adroddiad Blynyddol ar Gydymffurfio â'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 20

Cofnodion:

Yn unol â Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012, bu'r Comisiynwyr yn ystyried adroddiad o'r gwaith a wnaed ar draws y sefydliad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, i alluogi'r Comisiwn i gynnal ei ymrwymiad i ddarparu gwasanaethau dwyieithog rhagorol.

Cymeradwyodd y Comisiynwyr yr Adroddiad.   


Cyfarfod: 17/07/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Cynnig i nodi'r adroddiad blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2018 - 19

NDM7126 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â pharagraff 8 (8) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006:

Yn nodi'r Adroddiad Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 10 Gorffennaf 2019.

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.02

NDM7126 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â pharagraff 8 (8) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006:

Yn nodi'r Adroddiad Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 10 Gorffennaf 2019.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


Cyfarfod: 10/06/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)

Adroddiad Blynyddol ar Gydymffurfio â’r Cynllun Ieithoedd Swyddogol

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 25
  • Cyfyngedig 26

Cofnodion:

Mae’n ofynnol i Gomisiwn y Cynulliad “osod adroddiad gerbron y Cynulliad yn nodi sut y mae’r Comisiwn, yn ystod y flwyddyn dan sylw, wedi rhoi effaith i’r Cynllun” - Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012.

 

Adolygodd y Comisiynwyr adroddiad yn trafod y gwaith a wnaed ar draws y sefydliad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Gwnaethant geisio sicrwydd ynghylch y ffordd y mae’r cynllun yn gweithredu mewn perthynas â recriwtio, a thrafodwyd cyfleoedd i gymryd rhan yn rhaglen Common Voice Mozilla i gasglu recordiadau o bobl yn siarad i helpu i ddysgu peiriannau sut mae pobl yn siarad yn Gymraeg.

 

Cymeradwyodd y Comisiynwyr yr adroddiad drafft, yn amodol ar fân newidiadau, cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn.

 


Cyfarfod: 18/07/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 9)

Cynnig i nodi'r adroddiad blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2017 - 18

NDM6774 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â pharagraff 8(8) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006:

Yn nodi'r Adroddiad Cydymffurfio Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 11 Gorffennaf 2018.

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.10

NDM6774 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â pharagraff 8(8) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006:

Yn nodi'r Adroddiad Cydymffurfio Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 11 Gorffennaf 2018

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 04/06/2018 - Comisiwn y Senedd (Eitem 7)

Yr Adroddiad Blynyddol drafft ar Gydymffurfio â’r Cynllun Ieithoedd Swyddogol

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 31
  • Cyfyngedig 32

Cyfarfod: 02/03/2017 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Llythyr at y Cadeirydd gan Adam Price AC, Comisiwn y Cynulliad: Y Cynllun Ieithoedd Swyddogol Drafft

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 26/01/2017 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)

Y Cynllun Ieithoedd Swyddogol newydd a'r gofynion o ran cyflwyno adroddiad blynyddol

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 39
  • Cyfyngedig 40
  • Cyfyngedig 41

Cofnodion:

Cyflwynodd Adam Price, sef deiliad y portffolio, gynigion ar gyfer Cynllun Ieithoedd Swyddogol newydd Comisiwn y Cynulliad ar gyfer y Pumed Cynulliad. 

Rhoddodd y Comisiynwyr sylw arbennig i'r ymgynghoriad a gynhaliwyd a'r ffyrdd y mae barn y rhai yr ymgynghorwyd â hwy wedi cynorthwyo i lunio'r Cynllun drafft. 

Roedd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn gefnogol ar y cyfan ac ystyriodd y Comisiynwyr rai o'r meysydd lle y gwnaed awgrymiadau a'r addasiadau a wnaed i'r drafft o ganlyniad. Trafodwyd hefyd sut y byddai staff yn cael eu cefnogi a'r berthynas rhwng cyfrifoldebau'r Comisiwn i ddarparu gwasanaethau yn y ddwy iaith swyddogol, a chyfrifoldebau eraill, er enghraifft cydraddoldebau.

Nododd y Comisiynwyr y camau cadarnhaol a gymerwyd ers cyflwyno'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol, ac roeddent yn cytuno bod y fersiwn a ystyriwyd gan y Comisiwn yn gam i fyny o ran darpariaeth gwasanaeth a dull gweithredu cytbwys er mwyn ein symud tuag at gyflawni ein huchelgais. 

Derbyniodd y Comisiynwyr y Cynllun Ieithoedd Swyddogol drafft, cynigion ar gyfer rhagor o waith craffu ar y Cynllun cyn ei gymeradwyo yn ffurfiol yn y Cyfarfod Llawn, ac y dylai Adam Price AC gymeradwyo'r fersiwn derfynol ar ran Comisiwn y Cynulliad.

 

Hefyd, derbyniodd y Comisiwn yr adroddiad blynyddol drafft, a fydd yn cael ei osod i'w ystyried gan y Cyfarfod Llawn maes o law, gan ddod â'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol presennol i ben.