Cyfarfodydd
NDM6209 - Dadl Plaid Cymru
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 18/01/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
- Gweddarllediad ar gyfer 18/01/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 18/01/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl Plaid Cymru
NDM6209 Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn credu:
a) y dylai'r Grid Cenedlaethol ddefnyddio ceblau o dan y ddaear neu o dan y
môr neu ddewisiadau amgen eraill i gario trydan drwy Barciau Cenedlaethol ac
Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yng Nghymru lle bo hynny'n ymarferol;
b) y dylai fod rhagdybiaeth o blaid ceblau o dan y ddaear neu ddewisiadau
amgen eraill yn hytrach na pheilonau trydan mewn unrhyw ddatblygiadau newydd
neu gyfredol yng Nghymru gan y Grid Cenedlaethol; ac
c) y dylid gwneud astudiaeth ddichonoldeb o'r posibilrwydd o gael gwared ar
y peilonau presennol a'u disodli gan geblau o dan y ddaear neu ddewisiadau amgen
eraill.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Yn is-bwynt (b) dileu 'y dylai fod rhagdybiaeth o blaid' a
rhoi yn ei le 'y dylid ffafrio'.
Gwelliant 2. Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Yn
is-bwynt (c) dileu 'y dylid gwneud astudiaeth ddichonoldeb o'r posibilrwydd o
gael gwared ar y peilonau presennol a'u disodli' a rhoi yn ei le 'y dylai Ofgem
ymrwymo i gynnal ac estyn y prosiect Darpariaeth Effaith Weledol i Gymru er
mwyn cael gwared ar y peilonau presennol a'u disodli'.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.10
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6209 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
Yn credu:
a) y dylai'r Grid
Cenedlaethol ddefnyddio ceblau o dan y ddaear neu o dan y môr neu ddewisiadau
amgen eraill i gario trydan drwy Barciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch
Naturiol Eithriadol yng Nghymru lle bo hynny'n ymarferol;
b) y dylai fod
rhagdybiaeth o blaid ceblau o dan y ddaear neu ddewisiadau amgen eraill yn
hytrach na pheilonau trydan mewn unrhyw ddatblygiadau newydd neu gyfredol yng
Nghymru gan y Grid Cenedlaethol; ac
c) y dylid gwneud
astudiaeth ddichonoldeb o'r posibilrwydd o gael gwared ar y peilonau presennol
a'u disodli gan geblau o dan y ddaear neu ddewisiadau amgen eraill.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
20 |
5 |
28 |
53 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1. Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Yn is-bwynt (b) dileu 'y
dylai fod rhagdybiaeth o blaid' a rhoi yn ei le 'y dylid ffafrio'.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
44 |
0 |
9 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant
2. Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Yn is-bwynt (c) dileu 'y
dylid gwneud astudiaeth ddichonoldeb o'r posibilrwydd o gael gwared ar y
peilonau presennol a'u disodli' a rhoi yn ei le 'y dylai Ofgem ymrwymo i gynnal
ac estyn y prosiect Darpariaeth Effaith Weledol i Gymru er mwyn cael gwared ar
y peilonau presennol a'u disodli'.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
44 |
0 |
9 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM6209 Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
Yn credu:
a) y dylai'r Grid
Cenedlaethol ddefnyddio ceblau o dan y ddaear neu o dan y môr neu ddewisiadau
amgen eraill i gario trydan drwy Barciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch
Naturiol Eithriadol yng Nghymru lle bo hynny'n ymarferol;
b) y dylid ffafrio ceblau
o dan y ddaear neu ddewisiadau amgen eraill yn hytrach na pheilonau trydan mewn
unrhyw ddatblygiadau newydd neu gyfredol yng Nghymru gan y Grid Cenedlaethol;
ac
c) y dylai Ofgem ymrwymo
i gynnal ac estyn y prosiect Darpariaeth Effaith Weledol i Gymru er mwyn cael
gwared ar y peilonau presennol a'u disodli gan geblau o dan y ddaear neu
ddewisiadau amgen eraill.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
51 |
0 |
0 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig
wedi’i ddiwygio.