Cyfarfodydd

Adolygiad o'r Cod Ymddygiad, y Rheolau Sefydlog a'r Weithdrefn Gwyno

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 23/02/2016 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Adolygu'r Cod Ymddygiad, y Rheolau Sefydlog a'r Weithdrefn Gwynion: Torri Rheol Sefydlog 2 (Buddiannau Ariannol a Buddiannau Eraill yr Aelodau)

SOC(4)-03-16 Papur 1 – Protocol ar gyfer hysbysu am dorri’r rheolau o dan Reol Sefydlog 2

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd yr Aelodau y protocol a chytunwyd y dylai ddod i rym o ddechrau'r y Pumed Cynulliad ym mis Mai 2015.

 


Cyfarfod: 23/02/2016 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 Adolygu'r Cod Ymddygiad, y Rheolau Sefydlog a'r Weithdrefn Gwynion: Cael gwared ar gofrestriad deuol

SOC(4)-03-16 Papur 5 – Cael gwared ar gofrestriad deuol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau'r papur a chytunwyd i gynnwys argymhelliad yn adroddiad etifeddiaeth y Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 23/02/2016 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Adolygu'r Cod Ymddygiad, y Rheolau Sefydlog a'r Weithdrefn Gwynion: Casgliad o ddogfennau safonau

SOC(4)-03-16 Papur 2 – Papur eglurhaol – Cod Ymddygiad Drafft ar gyfer Aelodau’r Cynulliad a Dogfennau Cysylltiedig

SOC(4)-03-16 Papur 3 – Cod Ymddygiad Drafft ar gyfer Aelodau’r Cynulliad a Dogfennau Cysylltiedig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd yr Aelodau gynnwys y casgliad a'r ffaith y caiff ei gyhoeddi ar gyfer dechrau'r Pumed Cynulliad.

 


Cyfarfod: 02/02/2016 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Adolygu’r Cod Ymddygiad, Rheolau Sefydlog a’r Weithdrefn Gwynion:

SOC(4)-02-16 Papur 3

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Ystyriodd yr Aelodau’r newidiadau i’r Cod Ymddygiad a chytunwyd arnynt.

 

 


Cyfarfod: 02/02/2016 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Adolygu’r Cod Ymddygiad, Rheolau Sefydlog a’r Weithdrefn Gwynion: Ystyried canllawiau cyfryngau cymdeithasol ar gyfer Aelodau

SOC(4)-02-16 Papur 2

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Ystyriodd yr Aelodau’r canllawiau a chytunwyd i gynnwys cyfeiriad atynt yn adroddiad etifeddiaeth y Pwyllgor.

 

 


Cyfarfod: 23/09/2014 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

Adolygiad o'r Cod Ymddygiad, y Rheolau Sefydlog a'r Weithdrefn Gwyno: Adroddiad drafft y Pwyllgor Safonau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd a derbyniodd yr Aelodau yr adroddiad drafft. Caiff yr adroddiad ei gyhoeddi maes o law.

 


Cyfarfod: 01/07/2014 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

Adolygu’r Cod Ymddygiad a Chanllawiau Cysylltiedig: Cofrestru Buddiannau Ariannol Aelodau - trafod adroddiad drafft y Comisiynydd Safonau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod yr adroddiad drafft a chytunodd arno.

 


Cyfarfod: 11/03/2014 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3.)

3. Adolygu'r Cod Ymddygiad a Chanllawiau Cysylltiedig: Cofrestr o Fuddiannau Ariannol yr Aelodau – Ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad

SOC(4)-01-14 Papur 1

 

·         Gerard Elias QC, Y Comisiynydd Safonau

 

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 22/10/2013 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Adolygu'r Cod Ymddygiad a Chanllawiau Cysylltiedig: Cofrestr Buddiannau Ariannol yr Aelodau (09.35 - 10.50)

SOC(4)-06-13 – Papur 1

 

  • Gerard Elias QC, Y Comisiynydd Safonau
  • Gareth Rogers, Pennaeth y Swyddfa Gyflwyno

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Trafododd aelodau'r Pwyllgor bapur y Comisiynydd Safonau a mynegi barn ar yr adrannau y tynnwyd sylw atynt er mwyn cynorthwyo'r ymarfer ymgynghori sydd i ddod.

 

2.1 Cytunodd yr Ymgynghorydd Cyfreithiol i gysylltu â'r Comisiynydd Safonau ynghylch cofrestru deuol mewn perthynas â nawdd ariannol.

 


Cyfarfod: 09/07/2013 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5c)

5c SOC(4)-05-13 - Papur 5 - Llythyr gan y Llywydd ar Sancsiynau

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 09/07/2013 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5d)

5d SOC(4)-05-13 - Papur 6 - Ymateb gan Gadeirydd y Pwyllgor i’r Llywydd ar Sancsiynau

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 09/07/2013 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)

4. Y Diweddaraf gan y Comisiynydd Safonau ar yr Adolygiad o’r Cod Ymddygiad a chanllawiau cysylltiedig

SOC(4)-05-13 – Papur 2

 

Gareth Rogers – Pennaeth y Swyddfa Gyflwyno

 

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 09/07/2013 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3.)

3. Ystyried Argymhellion Adroddiad GRECO

SOC(4)-05-13 – Papur 1

 

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 07/05/2013 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Newidiadau canlyniadol i'r cod ymddygiad ar gyfer Aelodau'r Cynulliad

SOC(4)-04-13 – Papur (i’w nodi) 2

Dogfennau ategol:

  • Paper 2 - Code of Conduct for Members January 2008-e (SO revisions April 2013)

Cyfarfod: 07/05/2013 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

Papur i'w nodi

Cofnodion:

4.1 Nodwyd y papur.


Cyfarfod: 07/05/2013 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

Ystyried adroddiad drafft y Pwyllgor ar sancsiynau

SOC(4)-04-13 – Papur preifat 1

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 58

Cofnodion:

2.1 Yn amodol ar fân newidiadau, cytunodd y Pwyllgor ar ei adroddiad drafft ar sancsiynau. Caiff yr adroddiad ei gyhoeddi ar 15 Mai, a chaiff ei gyfeirio at y Pwyllgor Busnes i’w drafod cyn toriad yr haf.


Cyfarfod: 23/04/2013 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

Ystyried adroddiad y Comisiynydd ar Sancsiynau

SOC(4)-03-13 – Papur preifat 2

 

·         Gerard Elias QC – Y Comisiynydd Safonau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 61

Cofnodion:

3.1 Cyflwynodd y Comisiynydd ei adroddiad ar welliannau i weithdrefn Sancsiynau’r Cynulliad.

 

3.2 Nododd y Comisiynydd ei fod wedi ymgynghori â phob Aelod Cynulliad, y Llywydd ac Arweinwyr Pleidiau wrth baratoi ei adroddiad.

 

3.3 Trafododd Aelodau’r adroddiad ac yn benodol y materion yn ymwneud â ‘hawliau a breintiau’, unrhyw uchafswm cyfnod o waharddiad a phwysigrwydd gwneud yn glir na fyddai sancsiynau yn erbyn Aelod Cynulliad yn effeithio ar staff cymorth yr Aelod hwnnw. 

 

3.4 Nododd y Cadeirydd y byddai adroddiad y Pwyllgor ar Sancsiynau, i’w gyflwyno i’r Pwyllgor Busnes, yn cael ei ddrafftio er mwyn ei drafod yn y cyfarfod nesaf ar 7 Mai. 


Cyfarfod: 12/03/2013 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

Ystyried adroddiad ar y Cod Ymddygiad gan y Comisiynydd

SOC(4)-02-13 – Papur Preifat 3

 

·         Gerard Elias QC – Y Comisiynydd Safonau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 64

Cofnodion:

3.1 Cyflwynodd y Comisiynydd ei nodyn briffio.

 

3.2 Ystyriodd y Pwyllgor ffurf y Cod Ymddygiad mewn deddfwrfeydd eraill a chytunodd ar ei hoff ffurf ar gyfer Cod Ymddygiad newydd y Cynulliad. Mae’n cynnwys pedair adran er mwyn cynnwys egwyddorion  Nolan a nodi’r canlynol yn glir:- 1) ystod y methiannau i gydymffurfio sy’n bosibl; 2) y ddeddfwriaeth/Rheolau Sefydlog sy’n berthnasol; 3) unrhyw ganllawiau a gyflwynwyd; a 4) yr ystod o sancsiynau sydd ar gael yn wyneb methiant i gydymffurfio â nhw.

 

3.3 Rhoddodd y Pwyllgor ragor o ystyriaeth i fodel ar gyfer trefn sancsiynau diwygiedig. Cytunwyd y byddai’r sancsiynau yn cael eu diwygio fel mater o flaenoriaeth, ac y byddent yn cael eu cynnwys yn y Cod wrth lunio’r fersiwn derfynol. Cytunodd y Pwyllgor ag awgrym y Comisiynydd y dylai ef ymgynghori â holl Aelodau’r Cynulliad ar y drefn sancsiynau yr hoffai’r Pwyllgor ei gweld.

 

3.4 Caiff adroddiad ar ddiwygio’r drefn sancsiynau ei ddrafftio, yn amodol ar ganlyniad ymgynghoriad y Comisiynydd, i’w ystyried yn y cyfarfod nesaf ar 23 Ebrill.

 

 


Cyfarfod: 24/04/2012 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Adolygu'r cod ymddygiad a'r weithdrefn gwyno: y weithdrefn gwyno ddiwygiedig ddrafft a'r camau nesaf

Gerard Elias QC, Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cymeradwyodd y Pwyllgor y weithdrefn gwyno yn ffurfiol.

 

Nododd y Cadeirydd y bydd llythyr yn cael ei anfon ar y cyd gan y Cadeirydd a’r Comisiynydd at holl Aelodau’r Cynulliad gan roi gwybod iddynt am y weithdrefn ddiwygiedig, cyn iddi gael ei gosod gerbron y Cynulliad.

 

Cytunwyd y bydd amserlen ar gyfer ail gyfnod yr adolygiad yn cael ei thrafod yng nghyfarfod ffurfiol nesaf y Pwyllgor.


Cyfarfod: 21/02/2012 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Adolygu'r côd ymddygiad a'r weithdrefn gwyno: Gweithdrefn gwyno ddiwygiedig ddraft

Gerard Elias QC, Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Aeth y Comisiynydd drwy’r gwelliannau arfaethedig i’r weithdrefn gyda’r Pwyllgor.

 

Cytunodd y Pwyllgor y byddai’r Comisiynydd yn rhoi rhagor o ystyriaeth i’r hyn a ganlyn:

 

-       aileirio adran 8.2;

 

-       adolygu’r geiriad ynghylch cael person cymwys annibynnol i ystyried apelau mewn perthynas â dulliau o warchod yn erbyn gwrthdaro rhwng buddiannau;

 

-       sicrhau bod geiriad 6.1 yn ystyried y pryderon ynghylch y posibilrwydd o dramgwyddo’n droseddol mewn perthynas â chofnodi cyflogaeth aelodau o’r teulu (Rheol Sefydlog 2.5ii).

 

Cytunodd y Pwyllgor ar y gwelliannau mewn egwyddor a nododd y byddai fersiwn derfynol yn cael ei chymeradwyo’n ffurfiol yn y cyfarfod nesaf.

 

Nododd y Cadeirydd y byddai amserlen ar gyfer cyfnod nesaf yr arolwg yn cael ei hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 24 Ebrill.


Cyfarfod: 18/10/2011 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Adolygiad o'r Weithdrefn Gwyno, y Cod Ymddygiad a'r Rheolau Sefydlog

SOC(4)-01-11 (p2)

 

Gerard Elias QC, Y Comisiynydd Safonau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ddull o weithredu’r adolygiad, a nodir ym mhapur y Comisiynwyr.