Cyfarfodydd

Ymchwiliad i ddylanwadu ar y broses o foderneiddio polisi caffael Ewrop

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 09/07/2015 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Ymateb i'r camau gweithredu a ddeilliodd o gyfarfod 17 Mehefin ar Gaffael Cyhoeddus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1.1 Nodwyd y Papur gan y Pwyllgor.


Cyfarfod: 17/06/2015 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Caffael Cyhoeddus

Christopher Chapman, Rheolwr Rhaglen, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Mark Roscrow, Partneriaeth Cydwasanaethau’r GIG

Howard Allaway, Rheolwr Caffael, Consortiwm Pwrcasu Addysg Uwch, Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Atebodd Christopher Chapman, Mark Roscrow ac Howard Allaway gwestiynau gan Aelodau o’r Pwyllgor.


Cyfarfod: 17/06/2015 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Caffael Cyhoeddus

Dr Rachel Bowen, Rheolwr Polisi, Ffederasiwn y Busnesau Bach

Iestyn Davies, Uwch Bennaeth Materion Allanol (Gwledydd Datganoledig), Ffederasiwn Busnesau Bach

Gareth Coles, Swyddog Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

Rhodri Jones, Cadeirydd, Cynghrair Ffederasiwn Adeiladu Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Atebodd Dr Rachel Bowen, Iestyn Davies, Gareth Coles a Rhodri Jones gwestiynau gan Aelodau o’r Pwyllgor.


Cyfarfod: 17/06/2015 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Caffael Cyhoeddus

Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Kerry Stephens, Dirprwy Gyfarwyddwr - Caffael, Gwerth Cymru

Julie Harrison, Uwch Reolwr Rhanddeiliaid, y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol

Jeff Andrews, Cynghorydd Polisi Arbenigol, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Atebodd Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth, Kerry Stephens, Nick Sullivan a Jeff Andrews gwestiynau gan Aelodau o’r Pwyllgor.

4.2 Cytunodd y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth i ddarparu’r hyn a ganlyn:

·         Nodyn ynghylch goblygiadau y pŵer dynodi cyffredinol newydd ar gyfer caffael cyhoeddus y mae Llywodraeth Cymru wedi ei sicrhau gan Lywodraeth y DU.

·         Cynigiodd y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth ymateb yn ysgrifenedig i gwestiwn Mohammad Asghar ynghylch a allai’r GIG arbed arian drwy uwchraddio offer costus, yn hytrach na newid offer sy’n gymharol newydd, ond sydd wedi dyddio oherwydd datblygiadau technolegol.


Cyfarfod: 18/07/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7.)

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes: Dylanwadu ar y Broses o Foderneiddio Polisi Caffael Ewrop

NDM5042 Nick Ramsay (Mynwy)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi Adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes: Dylanwadu ar y broses o Foderneiddio Polisi Caffael Ewrop, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Mai 2012.

 

Yn nodi: Ymateb y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ i’r adroddiad a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Gorffennaf 2012.

 

Dogfennau ategol:

Adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes

Ymateb y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Cynnig ar gyfer Cyfarwyddeb Senedd Ewrop a’r Cyngor Ewropeaidd ar Gaffael Cyhoeddus

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.20

NDM5042 Nick Ramsay (Mynwy)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi Adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes: Dylanwadu ar y broses o Foderneiddio Polisi Caffael Ewrop, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Mai 2012.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 02/05/2012 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

Dylanwadu ar y broses o foderneiddio polisi caffael yr Undeb Ewropeaidd - Trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad, yn amodol ar wneud rhai gwelliannau.

 


Cyfarfod: 12/03/2012 - Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.1)

5.1 Cynnig ar gyfer Cyfarwyddeb o Senedd Ewrop a'r Cyngor ar Gaffael Cyhoeddus

Papurau:

CLA(4)-06-12(p1) – Llythyr gan y Cadeirydd at Mr William Cash AS, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Ewropeaidd, dyddiedig 23 Chwefror 2012

CLA(4)-06-12(p2) – Ymateb gan Mr William Cash AS, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Ewropeaidd, dyddiedig 29 Chwefror 2012

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 20/02/2012 - Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)

4. Cynnig drafft yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer cyfarwyddeb ar gaffael cyhoeddus - mater posibl i'w drafod yn ymwneud â sybsidiaredd

Papurau:

CLA(4)-04-12(p1) – Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes, dyddiedig 7 Chwefror 2012 (Saesneg yn unig)

 

Dogfennau ategol: