Cyfarfodydd

P-05-734 Gwahardd Codi Ffioedd Asiant Gosod ar Denantiaid

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 03/10/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-734 Gwahardd Codi Ffioedd Asiant Gosod ar Denantiaid

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i gau’r ddeiseb o gofio bwriad Llywodraeth Cymru i ddeddfu ar y mater hwn a llongyfarch y deisebwyr ar lwyddiant eu hymgyrch.

 


Cyfarfod: 19/09/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-734 Gwahardd Codi Ffioedd Asiantau Gosod ar Denantiaid

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant a chytunodd i aros am safbwyntiau'r deisebydd cyn penderfynu pa gamau pellach i'w cymryd o ran y ddeiseb.

 


Cyfarfod: 11/07/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-734 Gwahardd Codi Ffioedd Asiantau Gosod ar Denantiaid

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Oherwydd bod amser yn brin, gohiriwyd y ddeiseb tan y cyfarfod ar 19 Medi.

 


Cyfarfod: 21/03/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-734 Gwahardd Codi Ffioedd Asiantau Gosod ar Denantiaid.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

·         aros am ymateb gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn nodi a ydynt yn bwriadu cynnal unrhyw waith pellach ar y mater hwn, cyn penderfynu sut i symud y ddeiseb yn ei blaen; a

·         gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant pryd y mae'n bwriadu gwneud datganiad ar y mater.

 


Cyfarfod: 01/03/2017 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau mewn perthynas â deiseb i Wahardd Codi Ffioedd Asiantau Gosod ar Denantiaid

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.3 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau mewn perthynas â deiseb i Wahardd Codi Ffioedd Asiantau Gosod ar Denantiaid a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ynghylch ei amserlen ar gyfer penderfynu a oes angen deddfu ar y mater.

 


Cyfarfod: 14/02/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-734 Gwahardd Codi Ffioedd Asiantau Gosod ar Denantiaid

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Mike Hedges y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Cyflwynodd Fil arfaethedig i falot yr Aelodau ar yr un pwnc â’r ddeiseb.

 

Datganodd Gareth Bennett y budd perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Cyflwynodd Fil arfaethedig i falot yr Aelodau ar yr un pwnc â’r ddeiseb.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y canlynol:

 

  • y Pwyllgor Cymunedau Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol i ofyn a ydynt yn bwriadu ymgymryd â gwaith ar y mater hwn; ac

·         Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i ofyn am ragor o wybodaeth am yr amserlen ar gyfer penderfynu a oes angen deddfu ar y mater.