Cyfarfodydd

P-05-732 Amseroedd Aros Annerbyniol ar gyfer Cleifion y GIG yn Adran Damweiniau ac Achosion Brys Wrecsam/Ysbyty Wrecsam Maelor.

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 15/10/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-732 Amseroedd Aros Annerbyniol ar gyfer Cleifion y GIG yn Adran Damweiniau ac Achosion Brys Wrecsam/Ysbyty Wrecsam Maelor.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb a chytunodd i'w chau’n awr o ystyried y  mesurau sy'n cael eu rhoi ar waith yn Ysbyty Wrecsam Maelor a'r ffaith bod y Bwrdd Iechyd yn darparu adroddiadau’n rheolaidd ar ei berfformiad i'r Cyngor Iechyd Cymunedol.

 


Cyfarfod: 02/04/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-05-732 Amseroedd Aros Annerbyniol ar gyfer Cleifion y GIG yn Adran Damweiniau ac Achosion Brys WrecsamYsbyty Wrecsam Maelor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a chytunodd i dderbyn eu cynnig i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau ymhen chwe mis.


Cyfarfod: 25/09/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-732 Amseroedd Aros Annerbyniol ar gyfer Cleifion y GIG yn Adran Damweiniau ac Achosion Brys Wrecsam/Ysbyty Wrecsam Maelor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Gyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru a chytunodd i ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am bwnc y ddeiseb ers gohebiaeth flaenorol, ac am fanylion ei ymateb i ganfyddiadau ac argymhellion Adolygiad Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru i brofiad cleifion mewn Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys a ffigurau diweddar sy'n ymwneud ag amseroedd aros yn Ysbyty Wrecsam Maelor.

 

 


Cyfarfod: 05/06/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-732 Amseroedd Aros Annerbyniol i Gleifion y GIG yn Adran Damweiniau ac Achosion Brys Wrecsam/Ysbyty Maelor Wrecsam

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a chytunodd i:

 

·         aros am farn y deisebydd ar y wybodaeth ddiweddaraf a gafwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; ac

·         ysgrifennu at Gyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru i ofyn a ydynt ymwybodol o bryderon ynghylch amseroedd aros yn adran damweiniau ac achosion brys Ysbyty Wrecsam Maelor, ac a ydynt wedi gwneud unrhyw waith ar y mater hwn.

 

 


Cyfarfod: 19/09/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-732 Amseroedd Aros Annerbyniol i Gleifion y GIG yn Adran Damweiniau ac Achosion Brys Wrecsam/Ysbyty Maelor Wrecsam

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor pan fydd canlyniad yr ymyrraeth chwe mis wedi'i thargedu bresennol, a'i heffaith ar amseroedd aros brys, yn hysbys.

 


Cyfarfod: 13/06/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-732 Amseroedd Aros Annerbyniol i Gleifion y GIG yn Adran Damweiniau ac Achosion Brys Wrecsam/Ysbyty Maelor Wrecsam

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i ofyn a yw amseroedd aros mewn Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys wedi parhau i wella yn Ysbyty Maelor Wrecsam a pha gamau sy'n cael eu cymryd yn genedlaethol i wella amseroedd aros mewn achosion brys.

 

 


Cyfarfod: 21/03/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-732 Amseroedd Aros Annerbyniol ar gyfer Cleifion y GIG yn Adran Damweiniau ac Achosion Brys Wrecsam / Ysbyty Maelor Wrecsam

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am sylwadau'r deisebydd i ymateb i'r ohebiaeth a gafwyd gan Lywodraeth Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr cyn ystyried sut fyddai orau i symud y ddeiseb yn ei blaen.

 


Cyfarfod: 17/01/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-732 Amseroedd Aros Annerbyniol ar gyfer Cleifion y GIG yn Adran Damweiniau ac Achosion Brys Wrecsam/Ysbyty Wrecsam Maelor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am ymateb gan y deisebydd, ac i ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ofyn pa gamau sy'n cael eu cymryd i wella amseroedd aros yr adran Damweiniau ac Achosion Brys Ysbyty Maelor Wrecsam.