Cyfarfodydd
Diwygio Cyfansoddiadol
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 03/11/2025 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Pontio Etholiadol – cynllunio ar gyfer Croesawu i’r Seithfed Senedd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
Ystyriodd y Comisiynwyr y trefniadau croeso
arfaethedig ar gyfer Aelodau a'u staff yn dilyn etholiad y Senedd yn 2026.
Roedd y
Comisiynwyr yn cefnogi’r amlinelliad arfaethedig o’r gwaith ar y Croesawu, y
Tyngu Llw a gwybodaeth gynnar a chanllawiau i Aelodau newydd.
Byddai'r Croesawu yn cynnwys digwyddiadau ar ystad y Senedd ac yn
blaenoriaethu cyswllt wyneb yn wyneb, gyda'r nod o greu digwyddiad
proffesiynol, caboledig a hamddenol sy'n sicrhau y caiff Aelodau newydd a'u
teuluoedd argraff gyntaf gadarnhaol.
Y nod fydd dechrau meithrin perthnasoedd proffesiynol adeiladol drwy
sicrhau bod yr Aelodau’n ymgyfarwyddo â’r ystad a’r bobl allweddol sy’n
darparu’r gwasanaethau, ynghyd â’r fframweithiau y mae angen i Aelodau o’r
Senedd weithio o’u mewn.
Cytunodd y Comisiynwyr hefyd ar yr egwyddorion
a'r blaenoriaethau wedi'u diweddaru, sy'n fframwaith ar gyfer darparu
hyfforddiant i Aelodau a staff.
Yng
nghyfarfod nesaf y Comisiwn, byddai papur pellach yn cael ei ddarparu a fydd yn
nodi fframwaith ar gyfer y briffiau cyflwyniadol a'r rhaglen hyfforddi i
Aelodau a’u Staff Cymorth yn y cyfnod ar ôl yr etholiad, wedi'i flaenoriaethu i
sicrhau bod yr Aelodau'n cael y wybodaeth a'r hyfforddiant sydd eu hangen
arnynt ar yr amser iawn.
Cyfarfod: 22/09/2025 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Defnyddio staff y Comisiwn yn ystod y Diddymiad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 5
Cofnodion:
Nododd y Comisiynwyr
ailgyflwyno Cynllun Benthyg Staff y Comisiwn ar gyfer defnyddio cyflogeion ar
sail dros dro yn ystod cyfnod diddymu’r Senedd ac ar ôl yr etholiad.
Cyfarfod: 14/07/2025 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Materion y Seithfed Senedd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 8
- Cyfyngedig 9
- Cyfyngedig 10
- Cyfyngedig 11
- Cyfyngedig 12
Cofnodion:
Trafododd y Comisiynwyr gyfres o bapurau ar
gynllunio ar gyfer diddymu'r Chweched Senedd a'r pontio trwy gyfnod yr etholiad
yn 2026.
Trafododd y Comisiynwyr y cyd-destun y mae gwybodaeth i
Aelodau yn cael ei pharatoi ynddo ynghyd â nodyn ar y sefyllfa gyfreithiol sy'n
ymwneud â Diddymu.
Gwnaethant drafod i ba raddau y dylai Aelodau’r Chweched
Senedd allu cael mynediad at wasanaethau ac adnoddau’r Senedd a’u defnyddio
drwy gydol y cyfnod pan fyddant yn ymgyrchu, gan gynnwys yn ystod y diddymiad
a’r trefniadau cymorth ar gyfer Aelodau sy’n gadael.
Nododd y Comisiynwyr y manylion a ddarparwyd a
chadarnhawyd eu bod yn parhau i gefnogi’r egwyddorion a'r dull y cytunwyd
arnynt yn flaenorol sy'n sail i baratoadau ar gyfer dros gyfnod yr etholiad.
Gwnaethant gytuno:
·
y bydd y deiliaid
swyddi sy'n parhau yn eu swydd yn ystod y diddymiad yn cael mynediad at
adnoddau'r Senedd at ddibenion eu swyddogaethau fel deiliaid swyddi;
·
y bydd mynediad i
Ystad y Senedd i Aelodau a'u staff yn ystod y diddymiad yn gyfyngedig i'r
mannau cyhoeddus, ac eithrio lle y ceir cytundeb ymlaen llaw at ddibenion
penodol;
·
y bydd yr Aelodau a'u
staff yn cadw mynediad cyfyngedig at adnoddau'r Senedd, gan gynnwys cyfrifon
TGCh, caledwedd a swyddfeydd etholaethol/rhanbarthol presennol, ar gyfer gwaith
achos brys gweddilliol a thasgau gweinyddol arferol yn unig, ac i’r Aelodau na
fydd yn ymgeisio allu cwblhau unrhyw gamau dirwyn i ben sy'n weddill;
·
na fydd Aelodau sy'n
ymgeisio yn yr etholiad yn gallu llogi eu swyddfeydd at ddefnydd personol, gan
gynnwys unrhyw ymgyrchu; ac
·
na fydd Aelodau sy'n
ymgeisio yn yr etholiad yn gallu llogi eu ffonau symudol at ddefnydd personol,
gan gynnwys unrhyw ymgyrchu.
Cytunodd y Comisiynwyr hefyd y dylai Rhaglen Cymorth i
Weithwyr (EAP) y Comisiwn barhau i fod ar gael i Aelodau a'u staff am chwe mis
ar ôl y diddymiad/diwrnod pleidleisio (yn amodol ar ba ddyddiad yw diwedd
cyfnod yr Aelodau yn eu swyddi), yn amodol ar 'optio i mewn' gan yr unigolyn
dan sylw ymlaen llaw (er mwyn galluogi prosesu PAYE).
Cytunodd y Comisiynwyr
i roi arweiniad i Aelodau sy'n rhoi’r gorau i’w seddau y dylent anelu at
gwblhau'r camau sy'n ofynnol ar gyfer cau eu swyddfeydd erbyn diwedd mis Ebrill
2026.
Yna trafododd y
Comisiynwyr argymhellion ar gyfer dyrannu Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
(TGCh) i Aelodau a'u staff cymorth yn y Seithfed Senedd.
Cytunodd y Comisiynwyr ar Opsiwn 1,
sef darparu'r un dyraniad caledwedd TGCh â'r hyn a ddarparwyd ar gyfer y
Chweched Senedd, ac eithrio na fydd dewis rhwng gliniadur neu Surface, gan mai
gliniadur Surface yn unig fydd yn cael ei gynnig i’r Aelodau.
O ran opsiynau meddalwedd, cytunodd y
Comisiynwyr i ymgynghori â'u Grwpiau. Gofynnwyd i swyddogion ddarparu nodyn i
lywio'r trafodaethau.
Bydd y penderfyniadau ar ddefnydd
Aelodau o adnoddau yn y cyfnod cyn yr etholiad a'r camau i gau swyddfa
gyhoeddus Aelod o'r Senedd yn cael eu rhannu â'r Aelodau a'u defnyddio i
lywio'r canllawiau ynghylch y Diddymiad ar gyfer Aelodau a'u staff.
Bydd y penderfyniadau ar ddyrannu TGCh yn cael ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3
Cyfarfod: 02/06/2025 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Materion y Seithfed Senedd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 15
- Cyfyngedig 16
Cofnodion:
Rhoddwyd crynodeb i’r Comisiynwyr o'r materion sy'n
debygol o godi ar gyfer Comisiwn y Senedd o adroddiad Pwyllgor Senedd y Dyfodol
ar Fusnes Seneddol yn y Seithfed Senedd.
Yng ngoleuni'r cais gan Bwyllgor Senedd y Dyfodol, nododd y
Comisiynwyr fod y Bwrdd Gweithredol wedi cytuno mewn egwyddor i sefydlu
astudiaeth ddichonoldeb ar ailgyflwyno gwasanaeth crèche, a byddai manylion hyn
yn destun cymeradwyaethau pellach maes o law. Gofynnodd Janet Finch Saunders AS
am nodi ei gwrthwynebiad i crèche a ddarperir gan y Comisiwn.
Cafodd y crynodeb ei nodi gan y Comisiynwyr, a bydd papurau i lywio trafodaeth ar sut y gallai'r Comisiwn fod am ymateb yn cael eu darparu mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.
Cyfarfod: 28/04/2025 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Materion y Seithfed Senedd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 19
Cofnodion:
Cafodd y Comisiynwyr y
wybodaeth ddiweddaraf am baratoadau’r Seithfed Senedd, gan gwmpasu materion
llywodraethu, cynllunio corfforaethol, cyfathrebu ac ymgysylltu a goblygiadau
Penderfyniad y Bwrdd Taliadau Annibynnol.
Cytunodd y Comisiynwyr
y byddai'n fuddiol rhoi rhagor o fanylion i'r Aelodau am y gwaith ar Siambr y
Senedd drwy’r Grŵp Cyfeirio Aelodau.
Nododd y Comisiwn ei
bod yn ofynnol ar bawb a benodwyd i’r Bwrdd Taliadau Annibynnol i weithio’n
annibynnol ac yn ddiduedd.
Cyfarfod: 17/02/2025 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Cynllun ymgyrch Cyfathrebu ac Ymgysylltu - Etholiad 2026
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 22
Cofnodion:
Trafododd y Comisiynwyr gynigion ar gyfer trydydd cam y
cynlluniau ar gyfer cyfathrebu ac ymgysylltu â’r cyhoedd ynghylch newidiadau
sy’n deillio o Fil Diwygio’r Senedd, a fydd yn dechrau ym mis Mai 2025, gyda
blwyddyn i fynd, hyd at etholiad 2026.
Nododd y Comisiynwyr amcanion cyffredinol trydydd cam yr
ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o’r newidiadau i’r Senedd, cynyddu dealltwriaeth o
rôl y Senedd a’i Haelodau, ac annog cyfranogiad o etholiad y Senedd. Cytunwyd
ar y dull cyffredinol o ymdrin â thrydydd cam yr ymgyrch a'r dull o dargedu
cynulleidfaoedd; gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys gwaith i ddatblygu
partneriaethau corfforaethol gyda nifer o gyflogwyr yng Nghymru, ymestyn yr
awgrymiadau a wnaed i gwmpasu Ochr yr Undebau Llafur a Ffederasiwn y Busnesau
Bach; a rheoli sesiynau addysg mewnol i dimau er mwyn caniatáu amser i ysgolion
â phobl ifanc 16-18 oed archebu slot ac yna rhyddhau'r slotiau sy'n weddill i
bob grŵp oedran arall er mwyn parhau i ateb brwdfrydedd grwpiau ysgolion
cynradd.
Cytunodd y
Comisiynwyr hefyd fod gwaith yn parhau i bwyso a mesur cynnig ITV Cymru ac S4C
am gyfres ddogfennol ar y Senedd gyda ffocws ar staff ac Aelodau, gyda gwaith
ymgysylltu i ddigwydd gyda grwpiau’r pleidiau a gwybodaeth bellach i gael ei
chyflwyno i gyfarfod y Comisiwn yn y dyfodol.
Cyfarfod: 17/02/2025 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Diweddariad ar Raglen y Seithfed Senedd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 25
Cofnodion:
Cafodd y Comisiwn y wybodaeth ddiweddaraf am raglen y
Seithfed Senedd a’i gwaith wrth baratoi ar gyfer pontio i’r Seithfed Senedd.
Gwnaethant drafod defnyddioldeb cael diweddariadau ac
ystyriwyd y potensial i wella rheoleidd-dra'r wybodaeth a ddarperir, yn
ffurfiol neu'n anffurfiol. Holodd y Comisiynwyr am gwmpas y rhaglen a gofynnwyd
am gadarnhad y byddai’n ddigon hyblyg i ymgorffori materion pellach sy’n dod yn
berthnasol, er enghraifft datblygiad y Cynllun Ieithoedd Swyddogol nesaf neu
ddeddfwriaeth ychwanegol.
Nododd y Comisiynwyr y
papur.
Cyfarfod: 17/02/2025 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Materion y Seithfed Senedd
Cofnodion:
Trafododd y
Comisiynwyr dri mater yn ymwneud â phontio i’r Seithfed Senedd: diweddariad ar
raglen y Seithfed Senedd; cynllun yr ymgyrch Cyfathrebu ac Ymgysylltu ar gyfer
yr etholiad; a chymorth all-leoli.
Cyfarfod: 17/02/2025 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Cymorth All-leoli
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 30
Cofnodion:
Trafododd y Comisiynwyr gwmpas y cymorth
all-leoli (newid gyrfa) sydd i’w ddarparu i Aelodau a’u staff a fydd yn gadael
yn sgil etholiad y Senedd yn 2026.
Cytunodd y Comisiynwyr y dylai darpariaeth all-leoli gael ei gwneud fel yr amlinellwyd yn y papur ar gyfer Aelodau sy’n gadael
a’r rhai a fydd yn colli eu seddi, a’r holl staff cymorth a fydd yn colli eu
swyddi. Teimlai’r Comisiynwyr y gallai rhai Aelodau elwa ar gael cymorth tebyg
i’r hyn a gynigir wrth nesáu at ymddeol.
Byddai
ymarfer caffael yn cael ei gynnal ar gyfer y cyfryw wasanaethau yn ystod 2025.
Cyfarfod: 25/10/2024 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Materion y Seithfed Senedd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 33
Cofnodion:
Trafododd y Comisiynwyr y ddau argymhelliad a wnaed i’r Comisiwn yn
Adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Biliau Diwygio ar Fil Senedd Cymru (Rhestrau
Ymgeiswyr Etholiadol).
Er bod y Bil wedi'i dynnu'n ôl gan y Llywodraeth, nid oedd y materion yn y
ddau argymhelliad a wnaed i'r Comisiwn yn dibynnu ar gynnydd y Bil.
Trafododd y Comisiynwyr eu hymateb, a chytunwyd i dderbyn argymhelliad 21,
a darparu rhagor o wybodaeth am sut y byddai hyn yn cael ei wneud.
Cytunwyd hefyd i dderbyn argymhelliad 20 i gynnal archwiliad sy’n sensitif
i rywedd. Cytunodd y Comisiynwyr i amlinellu i’r Pwyllgor y rhoddir ystyriaeth,
yn awr, i benderfynu ar gwmpas yr archwiliad, a’r dull gorau posibl o’i
gyflawni, ynghyd ag adnoddau cysylltiedig, er mwyn sicrhau y byddai
canlyniadau’r archwiliad ar gael mewn da bryd i lywio penderfyniadau ar
brosiect Bae Caerdydd 2032, a phenderfyniadau i’w gwneud gan y Seithfed Senedd
am ei ffyrdd o weithio.
Cytunodd y Comisiynwyr
y byddai Joyce Watson yn arwain ar y gwaith hwn, gan gynnwys y gwaith cwmpasu
cychwynnol, ac y byddai'n dychwelyd at y Comisiwn gyda chynigion ar gyfer
cwmpas a’r dull gorau posibl o gyflawni.
Cyfarfod: 23/09/2024 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Y wybodaeth ddiweddaraf am Ddiwygio'r Senedd
I'w nodi: Gohebiaeth - y ddeialog rhwng y Comisiwn a'r
Bwrdd Taliadau Annibynnol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 36
- Cyfyngedig 37
Cofnodion:
Cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am ddwy agwedd ar waith yn
ymwneud â Diwygio’r Senedd.
1)
Canlyniad digwyddiad
“Cwrdd i Ffwrdd” y Pwyllgor Busnes / Comisiwn y Senedd
Croesawyd y Dirprwy Lywydd i’r cyfarfod a rhoddodd ddiweddariad ar gynnydd
y cynigion ar gyfer bwrw ymlaen ag elfennau o’r gwaith paratoi ar gyfer y
Seithfed Senedd. Dywedodd mai’r bwriad oedd gofyn am gael sefydlu pwyllgor
ffurfiol i symud y gwaith yn ei flaen. Byddai'n cyflwyno cynigion i'r Pwyllgor
Busnes yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf.
2)
Deialog y Comisiwn a’r
Bwrdd Taliadau Annibynnol
Cafodd y Comisiynwyr
ddwy eitem o ohebiaeth yn ymwneud â’r cymorth uniongyrchol a ddarperir i
gynorthwyo Aelodau i wneud eu gwaith seneddol, yn dilyn ymlaen o gyfarfod y
Comisiwn a’r Bwrdd Taliadau Annibynnol ym mis Gorffennaf. Trafododd y
Comisiynwyr pa mor bwysig oedd hi i Aelodau ymgysylltu â'r Bwrdd, a nodwyd y
diweddariadau a ddarparwyd.
Cyfarfod: 17/06/2024 - Comisiwn y Senedd (Eitem 9)
Diwygio'r Senedd (diweddariad ar lafar)
Cofnodion:
Cafodd y Comisiynwyr ddiweddariad ar y cynlluniau presennol ar gyfer diwrnod
cwrdd i ffwrdd y Comisiwn, y cytunwyd ar ei gynnal ar 15 Gorffennaf.
Cyfarfod: 17/06/2024 - Comisiwn y Senedd (Eitem 10)
Llythyr gan y Pwyllgor Biliau Diwygio, 7 Mehefin 2024 – Argymhellion yr adroddiad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 42
Cofnodion:
Nododd y Comisiynwyr y
llythyr a ddaeth i law yn dilyn y gwaith craffu ar Fil Senedd Cymru (Rhestrau
Ymgeiswyr Etholiadol) yng Nghyfnod 1. Roedd y Pwyllgor yn nodi dau argymhelliad
i Gomisiwn y Senedd. Cytunodd y Comisiynwyr i drafod y materion sy’n codi yn
sgil yr argymhellion mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Cyfarfod: 29/04/2024 - Comisiwn y Senedd (Eitem 9)
Ymateb y Llywydd i’r Pwyllgor Cyllid ynghylch goblygiadau ariannol Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol).
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 45
Cofnodion:
Nododd y Comisiynwyr
yr ymateb i lythyr a ddaeth i law gan y Pwyllgor Cyllid.
Cyfarfod: 29/04/2024 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Materion sy’n gysylltiedig â diwygio'r Senedd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 48
- Cyfyngedig 49
Cofnodion:
Yn dilyn trafodaeth
flaenorol gan y Comisiwn ynghylch sefydlu deialog strwythuredig gyda’r Bwrdd
Taliadau Annibynnol (“y Bwrdd Taliadau”), cytunodd y Comisiynwyr ar fformat y ddeialog hon, gan nodi y
byddai’r maes cyntaf i'w drafod â’r Bwrdd Taliadau yn canolbwyntio ar ffyrdd
Aelodau o weithio a chefnogaeth mewn perthynas â Swyddfeydd Etholaeth Aelodau a
Cholli Swydd.
Nododd y Comisiynwyr gamau nesaf y
ddeialog rhwng y Comisiwn a’r Bwrdd Taliadau mewn perthynas â symleiddio a
llywodraethu, gan gynnwys y gwaith sydd ar y gweill o fewn y tîm Cymorth Busnes
i'r Aelodau i wella a symleiddio’r broses o weinyddu prosesau hawliadau
Aelodau.
Cytunwyd na fydd y Comisiwn yn ceisio
unrhyw newidiadau deddfwriaethol i’r fframwaith llywodraethu ar gyfer gwneud
penderfyniadau ar gyflogau a lwfansau Aelodau cyn y Seithfed Senedd, ond y bydd
yn myfyrio ar hyn a chysylltiadau rhwng y Comisiwn a’r Bwrdd Taliadau fel rhan
o adroddiad gwaddol y Chweched Senedd i helpu i lywio unrhyw drafodaethau
ychwanegol yn ystod y Seithfed Senedd.
Hefyd, cytunodd y Comisiynwyr ar y dull
o ymgysylltu ag Aelodau mewn perthynas â diwygio’r Senedd, fel yr amlinellwyd
yn y papur, ac i gyfleu ei benderfyniadau ar y materion hyn i’r Aelodau.
Nododd y Comisiynwyr
fod y ddeialog rhwng y Comisiwn a’r Bwrdd Taliadau yn cynnig cyfle defnyddiol i
drafod y gwaith o ddiwygio’r Senedd yn ei gyfanrwydd, gan ei bod yn debygol y
bydd gofyn i’r Comisiwn baratoi ar gyfer Senedd wahanol yn 2026. Cydnabuwyd bod
yna gyfle yma, ond o fewn cyd-destun o fod yn realistig ynglŷn â'r hyn
sy’n bosibl yn yr amser sydd ar gael ac o fewn cyd-destun ehangach o ran cyllid
cyhoeddus. Cytunodd y Comisiynwyr y dylid trefnu sesiwn ‘diwrnod cwrdd i
ffwrdd’ i feddwl am y darlun ehangach o ran sut y bydd y Comisiynwyr yn
cefnogi’r Senedd yn y sefyllfa newydd hon.
Cyfarfod: 29/01/2024 - Comisiwn y Senedd (Eitem 9)
Diwygio'r Senedd
Cofnodion:
Cafodd y Comisiynwyr y
wybodaeth ddiweddaraf am y tri Adroddiad Cyfnod 1 ar Ddiwygio’r Senedd a
gyhoeddwyd ar 19 Ionawr gan y Pwyllgor Biliau Diwygio, y Pwyllgor Cyllid a’r Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, yn ogystal â’r argymhellion a wnaed
ynddynt y gallai fod angen i’r Comisiwn ymateb iddynt.
Nododd y Comisiynwyr y
wybodaeth ddiweddaraf a ddarparwyd, cyn cytuno i drafod ymatebion drafft y tu
allan i'r cyfarfod lle bo angen.
Roedd yr ymateb i’r
tri argymhelliad i’r Comisiwn gan y Pwyllgor Biliau Diwygio wedi'i ddarparu i'r
Comisiynwyr a'i anfon at y Pwyllgor ar 26 Ionawr oherwydd y dyddiad cau
perthnasol, sef cyn y Ddadl Cyfnod 1.
Cyfarfod: 06/11/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Diweddariad ar Sesiynau Pwyllgor
Cofnodion:
Rhoddwyd diweddariad
llafar byr i’r Comisiynwyr ar sesiynau cychwynnol y Pwyllgor yn ymwneud â Bil
Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau), a
chawsant wybod bod disgwyl y Bil yn ymwneud â chwotâu rhyw ym mis Rhagfyr.
Cyfarfod: 25/09/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Diwygio'r Senedd (diweddariad ar lafar)
Cofnodion:
Rhoddwyd diweddariad
llafar i’r Comisiynwyr yn dilyn cyflwyno Bil Senedd Cymru (Aelodau ac
Etholiadau). Fe'u hysbyswyd bod darpariaethau'r Bil wedi bod yn unol â'r
disgwyl i raddau helaeth, yn cyd-fynd yn fras ag argymhellion y Pwyllgor Diben
Arbennig a/neu'r Pwyllgor Busnes, er bod rhai darpariaethau wedi'u cynnwys nad
oedd Swyddogion wedi bod yn ymwybodol ohonynt o'r blaen (e.e. dyletswydd a
osodwyd. ar y Llywydd mewn perthynas ag adolygiad o rannu swyddi ar ddechrau’r
Seithfed Senedd).
Roedd y
darpariaethau’n cynnwys cynyddu maint y Senedd i 96 Aelod; cynyddu’r terfyn
deddfwriaethol ar Weinidogion Llywodraeth Cymru; cynyddu uchafswm nifer y
Dirprwy Lywyddion y caniateir eu hethol o’r tu mewn i’r Senedd i ddau; newid
system etholiadol y Senedd fel bod pob Aelod yn cael ei ethol drwy system
rhestr gyfrannol gaeedig, gyda phleidleisiau'n cael eu trosi'n seddi drwy
fformiwla D'Hondt; ac ailbwrpasu ac ailenwi Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth
Leol Cymru, gan gynnwys rhoi iddo'r swyddogaethau angenrheidiol i sefydlu
etholaethau newydd yn y Senedd, ac i gynnal adolygiadau parhaus o ffiniau
etholaethau'r Senedd.
Hysbyswyd y
Comisiynwyr bod darpariaethau ychwanegol yn cynnwys y canlynol:
·
Dychwelyd i’r amser
arferol rhwng etholiadau cyffredinol arferol y Senedd, sef pedair blynedd;
·
ei gwneud yn ofynnol i
ymgeiswyr i’r Senedd ac Aelodau o’r Senedd fod yn preswylio yng Nghymru;
·
adolygiad o
weithrediad ac effaith y darpariaethau deddfwriaethol newydd yn dilyn
etholiadau 2026 a 2030; a
·
mecanwaith ar gyfer
ystyriaeth y Senedd o rannu swyddi sy'n ymwneud â'r Senedd, yn y Seithfed
Senedd.
O fewn yr amserlen ar
gyfer ystyried y Bil byddai'r Comisiwn yn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor Cyllid
ar 11 Hydref ac i Bwyllgor y Bil Diwygio ar 26 Hydref.
Cyfarfod: 25/09/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
Llythyr oddi wrth y Prif Weinidog at y Llywydd ynglŷn â: Costau Diwygio'r Senedd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 58
- Cyfyngedig 59
Cofnodion:
Nododd y Comisiynwyr y
llythyr a gafwyd oddi wrth y Prif Weinidog yn ymwneud ag amcangyfrifon costau
ar gyfer Diwygio’r Senedd.
Cyfarfod: 27/03/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Diwygio’r Senedd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 62
- Cyfyngedig 63
- Cyfyngedig 64
Cofnodion:
Fe wnaeth y
comisiynwyr ystyried gwybodaeth a baratowyd mewn ymateb i lythyr gan y Prif
Weinidog a oedd yn gofyn i Gomisiwn y Senedd ddarparu amcangyfrif gorau o'r
gost fyddai'n codi ar gyfer Comisiwn y Senedd o Fil Diwygio'r Senedd
Llywodraeth Cymru.
Roedd y Comisiwn wedi
cytuno y dylai sefyllafa – y newid lleiaf a newid mwyaf – fod yn sail i
amcangyfrif y Comisiwn o'r costau y byddai'n eu hysgwyddo o ganlyniad i'r Bil.
Cytunodd y Comisiynwyr
ar lythyr, ac atodiadau, i’w hanfon at y Prif Weinidog i ddarparu’r canlynol:
· Esboniad o'r sail ar gyfer amcangyfrif o gostau; a hefyd
· tablau sy'n cyflwyno proffil o 10 mlynedd o'r costau, yn
ôl y ddwy senario a gytunwyd gan Gomisiwn y Senedd yn ei gyfarfod ar 12 Rhagfyr
2022, ac a baratowyd yn unol â'r dull safonol o ymdrin â chost amcangyfrifon
fel rhan o broses ddeddfwriaethol.
Atgoffwyd y
Comisiynwyr y byddai amcangyfrifon o gostau yn rhan o’r wybodaeth esboniadol i
gyd-fynd ag unrhyw Fil a gyflwynir – ac a gyhoeddir – gan Lywodraeth Cymru. Yr
amser priodol ar gyfer trafodaeth gyhoeddus ar y costau a nodwyd fyddai fel
rhan o'r broses graffu seneddol.
Gofynnodd un Comisiynydd
iddo gael ei gofnodi nad oedd yn gefnogol mewn egwyddor i gynigion Diwygio’r
Senedd, a’u costau cysylltiedig, er bod y Comisiynydd yn cydnabod bod pleidlais
wedi’i chynnal yn y Senedd o blaid y gwaith sy’n cael ei wneud gan y
Llywodraeth.
Diolchodd y
Comisiynwyr am y gwaith manwl a’r broses helaeth a oedd wedi dwyn y wybodaeth y
gofynnodd y Llywodraeth amdani ynghyd, a gofyn cwestiynau am y berthynas rhwng
yr amcangyfrifon a gynhyrchwyd a phenderfyniadau cyllidebol yn y dyfodol.
Cyfarfod: 07/11/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Diwygio'r Senedd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 67
- Cyfyngedig 68
Cofnodion:
Trafododd y Comisiynwyr wahoddiad gan y Pwyllgor Busnes i
rannu safbwyntiau ar argymhellion penodol y Pwyllgor Diben Arbennig ar
Ddiwygio’r Senedd, yn enwedig mewn perthynas ag Argymhelliad 6 ar nifer y
Comisiynwyr.
Cytunodd y Comisiynwyr i ysgrifennu at y Pwyllgor i
fynegi’r farn nad oedd achos amlwg a chryf dros symud o’r sefyllfa bresennol, oherwydd ni ragwelir y bydd diwygio’r Senedd
yn newid swyddogaethau statudol Comisiwn y Senedd fel ag y maent ar hyn o bryd.
Fodd bynnag, wrth i waith y
Senedd barhau i ddatblygu yn ystod y blynyddoedd i ddod, nodwyd y gallai themâu
ddod i'r amlwg y byddai’n rhaid i'r Comisiwn roi sylw iddynt, ac efallai y
byddai angen ailystyried capasiti’r Comisiwn bryd hynny.
Pe bai sefyllfa
o’r fath yn codi, nid oedd y Comisiynwyr yn rhagweld y byddai angen mwy nag un
aelod ychwanegol, gan arwain at Gomisiwn o chwech, gan gynnwys y Llywydd.
Cyfarfod: 11/07/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Diwygio’r Senedd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 71
- Cyfyngedig 72
Cofnodion:
Cafodd y Comisiynwyr wybodaeth yn nodi goblygiadau lefel uchel i'r Comisiwn
mewn ymateb i gynigion i ddiwygio'r Senedd.
Mae'r rhain yn ymwneud â chyfrifoldebau'r Comisiwn i ddarparu eiddo, staff
a gwasanaethau ar gyfer y Senedd, a'r fframwaith llywodraethu lefel uchel y
byddai gwaith y Comisiwn yn digwydd ynddo i roi sicrwydd i'r Comisiwn.
Nododd y Comisiynwyr:
·
yr angen i ymateb i unrhyw geisiadau am wybodaeth i
lywio'r broses ddeddfwriaethol, gan gynnwys argymhelliad y Pwyllgor Diben
Arbennig mewn perthynas â’r nifer o Gomisiynwyr y Senedd;
·
y dull rhaglen arfaethedig i gefnogi penderfyniadau
effeithiol gan y tair ffrwd waith wahanol (Diwygio'r Comisiwn, Diwygio'r
Senedd, a Diwygio Penderfyniadau) a galluogi goruchwyliaeth effeithiol o
faterion trawsbynciol, megis materion yn y gyllideb sy’n ymwneud â diwygio'r
Senedd, ymgysylltu ag Aelodau a chyfathrebu â rhanddeiliaid;
·
sefydlu Bwrdd Sicrwydd ar y Cyd gyda Llywodraeth Cymru i
roi sicrwydd i'n Swyddogion Cyfrifyddu perthnasol a'r rhai sy'n gwneud
penderfyniadau ar yr elfennau hynny o Raglen Ddiwygio'r Senedd lle mae
cyd-ddibyniaeth ar fuddiant a gwneud penderfyniadau yn bodoli;
y trefniadau risg a
sicrwydd a'r adborth gan y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg.
Cyfarfod: 28/09/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
Y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd – Adroddiad
Cofnodion:
Nododd y Comisiynwyr
yr adroddiad, sy'n cynnwys 32 o argymhellion ar gyfer Gweinidogion Cymru, y
Senedd, Comisiwn y Senedd, pleidiau gwleidyddol, y Bwrdd Taliadau a'r Comisiwn
Etholiadol.
Cyfarfod: 15/06/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 10)
Y wybodaeth ddiweddaraf am Ddiwygio'r Senedd
Y wybodaeth
ddiweddaraf, ar lafar
Cofnodion:
Diweddarwyd y
Comisiynwyr yn fras ynghylch rhoi newid enw’r Senedd ar waith, ac agor y broses
o gofrestru pleidleisiau i bobl ifanc.
Cyfarfod: 04/05/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Y wybodaeth ddiweddaraf am Ddiwygio’r Senedd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 79
Cofnodion:
Rhoddwyd y wybodaeth
ddiweddaraf i'r Comisiynwyr cyn dyddiad gweithredu’r newid enw.
Cyfarfod: 27/01/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Diwygio’r Cynulliad - materion newid enw
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 82
- Cyfyngedig 83
Cofnodion:
Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf i’r Comisiynwyr am y
cynnydd hyd yma gyda’r gwaith o fwrw ymlaen â'r newid enw. Fe wnaethant drafod
cyfres o benderfyniadau sy'n angenrheidiol i weithredu’r newid enw yn
effeithiol erbyn 6 Mai 2020, pan ddaw'r darpariaethau i rym.
· Brandio dangosol i'w
ddefnyddio ar logo ac arwyddion ac ati;
· Confensiwn enwi
ysgrifenedig, y datganiad diwygiedig o ddiben, sôn am y tro cyntaf/yr ail dro o
fewn y testun;
· Termau’r Cynulliad -
cyfeiriadau hanesyddol ac yn y dyfodol;
· Y wefan, cyfeiriadau
e-bost a’r cyfryngau cymdeithasol;
· Cyfeiriad a chod post;
· Diweddaru’r Cynllun
Ieithoedd Swyddogol;
· Nodi’r newid ffurfiol
o’r Cynulliad i’r Senedd;
· Sêl newydd y Comisiwn.
Cyfarfod: 27/01/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 9)
Diwygio’r Cynulliad - Diweddariad addysg a chodi ymwybyddiaeth Pleidleisiau @16
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 86
Cofnodion:
Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf i’r Comisiynwyr am y
cynlluniau i greu adnoddau addysgol ac adnoddau codi ymwybyddiaeth y gall
addysgwyr, gweithwyr ieuenctid, ac eraill sy’n gweithio â phobl ifanc eu
defnyddio. Aeth y Comisiynwyr ati i wirio bod yr adnoddau sy’n cael eu datblygu
yn addas ar gyfer y cwricwlwm newydd. Nododd y Comisiynwyr hefyd y diweddariad
a gafwyd yn dilyn cytundeb y Comisiwn ynghylch pennu dull cyffredinol a
chynulleidfaoedd allweddol ym mis Tachwedd.
Cyfarfod: 04/11/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Diwygio'r Cynulliad: Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) – y wybodaeth ddiweddaraf
Eitem lafar
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 89
Cofnodion:
Cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am sawl mater yn ymwneud â Bil
Senedd ac Etholiadau (Cymru), yn dilyn trafodion Cyfnod 2 a chyn Cyfnod 3.
Trafodwyd y gwelliannau’n ymwneud â phryd y bydd pobl ifanc 16/17 oed yn cael
yr hawl i bleidleisio, a materion yn ymwneud ag anghymwyso’r rhai sydd â mandad
deuol, a hynny er mwyn creu mwy o eglurder yn unol argymhellion y Pwyllgor
Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn y Pedwerydd Cynulliad.
Trafododd y Comisiynwyr y broses welliannau, a’r ffaith bod y Bil yn awr yn
ymdrin â materion nad oedd y Comisiwn wedi’u cynnwys yn niwyg gwreiddiol y Bil,
a hynny oherwydd gwelliannau y cytunwyd arnynt yng Nghyfnod 2.
Bydd y Llywydd yn adlewyrchu'r drafodaeth yn nadl Cyfnod 3.
Nododd y Comisiynwyr y
llythyr a anfonwyd gan y Llywydd at arweinwyr y pleidiau, y Rheolwyr Busnes, y
Comisiynwyr, a’r Aelodau a gyflwynodd welliannau.
Cyfarfod: 23/09/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Diweddariad ar Ddiwygio’r Cynulliad
·
Diweddariad ar y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) – y
Comisiwn Etholiadol
·
Diweddariad ar y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) –
Materion nad ydynt yn ymwneud â’r Comisiwn Etholiadol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 92
- Cyfyngedig 93
Cofnodion:
4A - Diweddariad ar y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) -
Y Comisiwn Etholiadol
Cafodd y Comisiynwyr
ddiweddariad ar gynigion sy’n ymwneud â’r gwelliannau arfaethedig mewn
perthynas ag ariannu’r Comisiwn Etholiadol a’i atebolrwydd yn y Bil a
diweddariad i’r amserlen ddeddfwriaethol.
Gwnaethant drafod
model arfaethedig y Cwnsler Cyffredinol ar gyfer ariannu'r Comisiwn Etholiadol
a goblygiadau dulliau gweithredu gwahanol fel y nodwyd yn ei ohebiaeth â'r
Pwyllgor Cyllid. Gwnaethant nodi hefyd y byddai angen cydsyniad Gweinidog y
Goron yn Llywodraeth y DU ar y gwelliannau arfaethedig ac y byddai angen ei
gael ymhell o fewn yr amserlenni arferol er mwyn osgoi unrhyw oedi cyn cael
Cydsyniad Brenhinol i'r Bil.
Cytunodd y Comisiynwyr
mai eu ffafriaeth o hyd yw gweld y Comisiwn Etholiadol yn cael ei ariannu'n
uniongyrchol o Gronfa Gyfunol Cymru. Bydd y Llywydd yn trafod y mater ymhellach
â'r Comisiynwyr i gytuno ar eu hymateb yn ystod Cyfnod 2 ar ôl cael barn y
Pwyllgor Cyllid a rhagor o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru.
4A - Diweddariad ar y
Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) - materion nad ydynt yn gysylltiedig â’r
Comisiwn Etholiadol
Roedd y Comisiwn wedi
gofyn am ragor o wybodaeth mewn perthynas â’r posibilrwydd o anghymhwyso staff
y Comisiwn rhag sefyll etholiad i'r Cynulliad, a chyhoeddi gwariant
etholiadau'r Cynulliad.
Trafododd y
Comisiynwyr sut y dylai'r Llywydd ymdrin â'r materion hyn yn ystod gwaith
craffu Cyfnod 2 ar y Bil a hefyd sut i ymateb i ddiwygiadau eraill y gellid eu
gosod.
Nododd y Comisiynwyr y
cynnydd ynghylch cynigion i godi ymwybyddiaeth mewn perthynas â chyflwyno
pleidleisiau yn 16 oed ar gyfer etholiadau’r Cynulliad a chroesawyd y newyddion
y byddent yn cael rhagor o wybodaeth yn eu cyfarfod nesaf.
Cyfarfod: 15/07/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Diwygio'r Cynulliad - y wybodaeth ddiweddaraf
A.
Bil Senedd ac
Etholiadau Cymru: Cyllido ac Atebolrwydd y Comisiwn Etholiadol
B.
Bil Senedd ac
Etholiadau Cymru: Gwelliannau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 96
- Cyfyngedig 97
Cofnodion:
Trafododd y Comisiynwyr
ddwy brif thema parthed diwygio'r Cynulliad. Yn gyntaf, trafodwyd materion
ynghylch ariannu'r Comisiwn Etholiadol a'i atebolrwydd yng nghyd-destun Bil
Senedd ac Etholiadau (Cymru). Cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am y
gwaith a wnaed hyd yma ac, wedi trafod y mater, cytunasant i barhau i weithio
gyda Llywodraeth Cymru ac eraill i fireinio'r polisi a'r cynigion
deddfwriaethol.
Yn ail, trafododd y
Comisiynwyr argymhellion gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol, y Pwyllgor Cyllid, a'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol
a Chymunedau mewn perthynas a Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru). Trafodwyd yr
ymatebion i'r argymhellion, a chytunwyd i drafod ymhellach y posibiliad o
anghymwyso Staff y Comisiwn rhag ymgeisio mewn etholiad.
Cyfarfod: 10/06/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Diwygio’r Cynulliad – y wybodaeth ddiweddaraf
Papur 3a
Diwygio’r Cynulliad: Bil Senedd ac Etholiadau, Atodiad 1-4
Papur 3b
Cam 2 rhaglen diwygio'r Cynulliad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 100
- Cyfyngedig 101
- Cyfyngedig 102
Cofnodion:
Trafododd y Comisiwn y trefniadau ar gyfer ymateb i
adroddiadau pwyllgor yn y dyfodol sy’n ymwneud â Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru).
Cytunodd y Comisiynwyr mai’r Llywydd sydd i benderfynu ar y dull a’r amserlen
ar gyfer ymateb i adroddiadau pwyllgorau ac y trafodir ymhellach â hwy cyn y
ddadl Cyfnod 1 yn y Cyfarfod Llawn.
O ran trefniadau ariannu’r Comisiwn Etholiadol ac atebolrwydd y sefydliad, trafododd y Comisiynwyr y
dull arfaethedig a nodwyd y cyngor. Roeddent yn cytuno y dylai’r Llywydd, mewn
ymgynghoriad â Suzy Davies a chan ystyried safbwyntiau a fynegwyd gan y
Pwyllgor Cyllid a’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn
nhrafodion Cyfnod 1, fynd ati i drafod â’r Cwnsler Cyffredinol i gymeradwyo’r
dull.
O ran gwaith pellach
ar ddiwygio’r Cynulliad, yn ymwneud â maint y Cynulliad a diwygio’r system
etholiadol, penderfynodd y Comisiynwyr nad oedd yn bosibl deddfu yn y Cynulliad
hwn. Fodd bynnag, byddai’r
gwaith o ystyried materion sy’n ymwneud â maint y Cynulliad a sut y dylid ethol
Aelodau yn parhau er mwyn hwyluso’r ddadl gyhoeddus a chynorthwyo’r pleidiau
gwleidyddol wrth iddynt ystyried eu barn ar y materion hyn.
Cyfarfod: 01/04/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Y wybodaeth ddiweddaraf am Ddiwygio’r Cynulliad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 105
Cofnodion:
Cafodd y Comisiynwyr y
wybodaeth ddiweddaraf am hynt y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru). Tynnodd y Llywydd sylw at sesiwn dystiolaeth
y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y bu’n bresennol ynddi, a
soniodd wrth y Comisiynwyr am y trafodaethau sy’n mynd rhagddynt mewn perthynas
â chydweithio â Llywodraeth Cymru i godi ymwybyddiaeth am addysg
dinasyddiaeth. Trafododd y Comisiynwyr y
wybodaeth gan nodi bod trafodaethau'n mynd rhagddynt yng Nghyfnod 2 ynglŷn
â'r dull o ariannu’r Comisiwn Etholiadol a’i atebolrwydd.
Cyfarfod: 04/03/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Y wybodaeth ddiweddaraf am Ddiwygio'r Cynulliad
Eitem lafar
Cofnodion:
Rhoddodd y Llywydd
wybodaeth i'r Comisiynwyr am y datblygiadau diweddaraf ers cyflwyno Bil Senedd
ac Etholiadau (Cymru) ar 12 Chwefror. Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno ar yr
amserlen ar gyfer y Bil, gan gynnwys cwblhau cyfnod 1 cyn toriad yr haf a
chwblhau’r cyfnod diwygio dros dymor yr hydref. Byddai'r Llywydd yn rhoi
tystiolaeth i bwyllgorau fel rhan o'u gwaith craffu deddfwriaethol - i'r
Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar 11 Mawrth ac i'r Pwyllgor
Cyllid ar 4 Ebrill.
Gofynnodd y Llywydd i'r
Comisiynwyr i fod yn rhagweithiol a rhoi gwybod am unrhyw bryderon sy’n codi
neu sy’n cael eu trafod mewn fforymau eraill mewn perthynas â’r Bil wrth i’r
broses ddeddfwriaethol fynd rhagddi.
Cyfarfod: 28/01/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Diwygio etholiadol – y wybodaeth ddiweddaraf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 110
Cofnodion:
Rhoddwyd y wybodaeth
ddiweddaraf i’r Comisiynwyr am y gwaith ar raglen ddiwygio'r Cynulliad, gan
ganolbwyntio’n benodol ar faterion polisi sy'n ymwneud â Bil y Senedd ac
Etholiadau (Cymru).
Cytunodd y Comisiynwyr ar
y dull o ddeddfu ar drefniadau ariannol ac atebolrwydd y Comisiwn Etholiadol,
gan nodi ei fod yn destun barn Pwyllgor(au) a'r Cynulliad yng Nghyfnod 1.
Trafodwyd datblygiadau
pellach yng nghynnwys arfaethedig y Bil, a thrafodwyd a nodwyd ffordd ymlaen y
Llywydd, i gwblhau'r Bil cyn ei gyflwyno.
Nododd y Comisiynwyr
hefyd yr amserlen ar gyfer cyflwyno a chraffu ar y Bil a'r mater yn ymwneud â
chymhwysedd; yr asesiad ariannol wedi'i ddiweddaru o'r Bil a'u rolau a’u
cyfrifoldebau cytunedig mewn perthynas â rhaglen ddiwygio'r Cynulliad ac yn
arbennig y cyfnod craffu ar gyfer Bil y Senedd ac Etholiadau (Cymru).
Cyfarfod: 05/11/2018 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Diwygio etholiadol – y wybodaeth ddiweddaraf
Diweddariad
llafar gan y Llywydd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 113
- Cyfyngedig 114
Cofnodion:
Trafododd
y Comisiynwyr nifer o faterion yn ymwneud â dilyniant eu gweithgarwch diwygio
etholiadol:
Trafododd
y Comisiynwyr agweddau ar y gwaith sy'n ymwneud â gwybodaeth gyhoeddus a chodi
ymwybyddiaeth ymhlith pobl ifanc o ran gallu adlewyrchu hyn yn y Memorandwm
Esboniadol a fydd yn cyd-fynd â'r Bil pan gaiff ei gyflwyno. Trafodwyd y
pwysigrwydd o sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu hannog a'u cefnogi i arfer eu
hawl i bleidleisio. Cytunodd y Comisiynwyr y dylai swyddogion weithio gyda
Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allanol i ddatblygu cynllun ar gyfer codi
ymwybyddiaeth ymhlith pobl ifanc cyn etholiadau 2021, ac yn enwedig mynd i'r
afael â hyn mewn ysgolion. Gwnaethant ofyn am gael eu diweddaru wrth i'r gwaith
hwn fynd rhagddo.
O
ganlyniad i ddatganoli pwerau yn Neddf Cymru 2017, mae'r Comisiwn Etholiadol
wedi cysylltu â'r Llywydd a Llywodraeth Cymru i gynnig bod y Cynulliad yn
deddfu i wneud y Comisiwn Etholiadol yn atebol i'r Cynulliad a chael ei ariannu
gan Gomisiwn y Cynulliad, mewn perthynas ag etholiadau datganoledig yng Nghymru
(etholiadau llywodraeth leol ac etholiadau'r Cynulliad). Trafododd y
Comisiynwyr rai o'r materion cymhleth ynghylch sut a phryd y gellid gwneud
newidiadau deddfwriaethol. Teimlai'r Comisiynwyr fod gwerth yn y Comisiwn
Etholiadol yn bod yn atebol i'r Cynulliad am ei waith yng Nghymru. Cytunwyd i
gael barn ar yr egwyddor gan eu grwpiau ar y cynnig hwn gan y Comisiwn
Etholiadol, i ddatblygu newidiadau yn y Bil diwygio, a gefnogir gan Lywodraeth
Cymru.
Rhoddodd y
Llywydd ddiweddariad ar lafar ar yr adborth a gafodd ar ddisgrifwyr i'r Aelodau
a'r sefydliad yn y dyfodol, a'r cynigion y mae'n bwriadu eu gwneud o ganlyniad
i hyn.
Trafododd y Comisiynwyr
yr opsiynau a chytunodd fod angen gwneud penderfyniad er mwyn cyflwyno'r Bil.
Cytunodd y Comisiwn i'r Llywydd benderfynu hyn, fel yr Aelod Cyfrifol, a
dywedodd y Llywydd ei bod yn bwriadu bwrw ymlaen â'r newid enw yr ymddengys ei
fod yn adlewyrchu barn y mwyafrif o grwpiau'r Cynulliad ar hyn o bryd. Cadarnhawyd
pe bai opsiynau eraill yn dod i'r amlwg wedyn, y gellid ystyried y rhain yng
Nghyfnod 2. Felly, y cynllun yw y
dylai'r newid enw a gyflwynir yn y Bil fod yn enw uniaith "Senedd";
ac y cyfeirir at Aelodau fel "Aelodau'r Senedd (AS)/Members of the Senedd
(MS)" ac yn unigol fel "Aelod o'r Senedd"/Member of the
Senedd". Teitl byr cysylltiedig y Bil fyddai "Bil Senedd ac
Etholiadau (Cymru)". Byddai'r Comisiwn yn cael ei alw'n "Comisiwn y
Senedd".
Cyfarfod: 24/09/2018 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Rhaglen ddiwygio'r Cynulliad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 117
Cyfarfod: 09/07/2018 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Rhaglen diwygio'r Cynulliad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 120
Cofnodion:
Ystyriodd y
Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith ar raglen ddiwygio'r Cynulliad
a chrynodeb o ganfyddiadau'r ymgynghoriad yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus, a
gynhaliwyd rhwng 12 Chwefror a 6 Ebrill.
Ystyriodd y
Comisiwn ganfyddiadau'r ymgynghoriad a gwnaeth nifer o benderfyniadau wrth
baratoi ar gyfer gwneud cynigion deddfwriaethol, neu lunio eu dull o wneud y
cynigion hynny. Cytunodd:
·
mewn
egwyddor, i gydweithio â Llywodraeth Cymru drwy Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth
ynghylch cynigion i newid rhyddfraint y Cynulliad.
·
i
gynnig deddfwriaeth ar y rhyddfraint a'r newid enw ar gyfer ei weithredu cyn
etholiad 2021. Gallai ail Fil ar y system etholiadol a'r maint ddilyn os yw
consensws trawsbleidiol ar y materion hynny yn dod i'r amlwg;
·
gostwng
yr oedran pleidleisio isaf ar gyfer etholiadau'r Cynulliad i 16; ac
·
eithrio
rhai materion polisi o gwmpas gwaith diwygio'r Cynulliad: pleidlais
carcharorion, hawliau pleidleisio i drigolion cyfreithlon Cymru waeth beth yw
eu cenedligrwydd neu eu dinasyddiaeth, a rhannu swyddi i'r Aelodau.
Gofynnodd y
Llywydd i'r Comisiynwyr gymryd dau fater penodol i'w trafod gyda'u grwpiau a
rhoi adborth cyn diwedd y tymor. Y rhain oedd:
• y disgrifydd ar gyfer Aelodau ar ôl
newid yr enw; a'r
• mater o anghymwyso mewn perthynas ag
aelodaeth o Dŷ'r
Arglwyddi. Cafodd hyn ei argymell gan Bwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol y Pedwerydd Cynulliad a'i gymeradwyo gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol
a Deddfwriaethol presennol.
Cytunodd y
Comisiynwyr y byddai'r Llywydd yn gwneud datganiad ysgrifenedig yn cyfleu
penawdau'r ymgynghoriad, a'r penderfyniadau a wnaeth am ei strategaeth
ddeddfwriaethol, ynghyd â chwmpas eang y Bil cyntaf ar ddiwygio etholiadol, cyn
diwedd y tymor. Cytunwyd y bydd crynodeb o brif ganfyddiadau'r ymgynghoriad yn cael ei gyhoeddi o fewn ychydig wythnosau,
gydag adroddiad llawn ar yr ymgynghoriad yn cael ei gyhoeddi yn yr hydref.
Cyfarfod: 22/01/2018 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Rhaglen ddiwygio'r Cynulliad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 123
Cyfarfod: 11/01/2018 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 4)
Diwygio Etholiadol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 126
Cofnodion:
Rhoddodd Adrian Crompton amlinelliad o'r papur sy'n cael ei gyflwyno i
gyfarfod y Comisiwn ar 22 Ionawr, er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r
Bwrdd am waith y rhaglen Diwygio Etholiadol y Cynulliad a'r penderfyniadau i'w
gwneud ar y cwmpas olaf a'r dull ymgynghoriad cyhoeddus ar argymhellion y Panel
Arbenigol, a materion eraill ynghylch diwygio deddfwriaeth. Byddai'r
Comisiynwyr yn ystyried yn eu cyfarfod ym mis Gorffennaf p'un ai i gyflwyno Bil
Diwygio'r Cynulliad a chwmpas cyffredinol unrhyw ddeddfwriaeth.
Trafododd y Bwrdd yr amserlen ar gyfer y gwaith ymgynghori a pharatoi sy'n
cael ei wneud. Roedd swyddogion yn edrych ar yr adnoddau ehangach fyddai eu hangen
er mwyn helpu i gyflawni Bil diwygio, er, heblaw am hynny, nid oedd hi'n bosibl
rhagweld beth fyddai'r penderfyniadau polisi a'r effaith ar adnoddau yn sgil
hynny.
Roedd y Llywydd yn cael trafodaethau gyda phleidiau gwleidyddol a'r
Pwyllgor Busnes ynghylch y dull a'r amseriad ar gyfer ceisio mandad penodol gan
y Cynulliad ar gyfer gwaith diwygio'r Cynulliad.
CAMAU I’W CYMRYD:
·
Argymhellodd y Bwrdd egluro'r
effaith ar adnoddau lle y bo'n hysbys, ac amlygu'r goblygiadau ynghylch
amserlen y cyfnod ymgynghori.
·
Sulafa Thomas i ychwanegu gofyniad
am oblygiadau adnoddau i'w cynnwys yn nhempled papur y Comisiwn a'i
ail-ddosbarthu gyda'r canllawiau ar baratoi papur.
Cyfarfod: 06/11/2017 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Diwygio’r Cynulliad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 129
Cyfarfod: 23/10/2017 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 10)
Cynlluniau deddfwriaethol ar gyfer diwygio'r Cynulliad
Oral
item
Cofnodion:
Rhoddodd Adrian Crompton y wybodaeth
ddiweddaraf am y cynlluniau deddfwriaethol ar gyfer diwygio'r Cynulliad, gan
gynnwys nifer o newidiadau posibl i drefniadau mewnol y sefydliad yn ogystal â
chyflwyno argymhellion y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad.
Gofynnwyd i'r Panel gynghori'r Comisiwn ar nifer yr Aelodau sydd eu hangen ar y
Cynulliad, y system etholiadol a'r oedran pleidleisio isaf a byddai'n
cyflwyno'i adroddiad maes o law.
Hefyd, byddai Adrian yn rhoi cyflwyniad i'r
Comisiynwyr yn ddiweddarach yn yr wythnos, cyn eu cyfarfod ar 6 Tachwedd pan
fyddent yn trafod ac yn rhoi arweiniad ar sut i fwrw ymlaen â'r gwaith. Roedd y
Comisiwn yn arwain rhaglen ddiwygio'r Cynulliad i archwilio sut y gellid
defnyddio'r pwerau hyn.
Cyfarfod: 12/06/2017 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Rhaglen ddiwygio'r Cynulliad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 134
Cofnodion:
Yn y cyfarfod blaenorol, wedi ystyried canlyniadau’r ymgynghoriad cyhoeddus
ar enw y Cynulliad, cytunodd y Comisiynwyr y byddent yn dychwelyd at fater
rhaglen ddiwygio’r Cynulliad, a’r cynigion deddfwriaethol y gallai’r Comisiwn
ddymuno eu dilyn yn ystod y tymor Cynulliad hwn o ganlyniad i bwerau newydd a
ddatganolir o dan Ddeddf Gymru 2017.
Cytunodd y Comisiynwyr y byddent yn trafod cwmpas llawn y rhaglen ddiwygio
bosibl a’r cynigion deddfwriaethol y maent yn bwriadu eu cyflwyno ar ôl i
adroddiad y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Trefniadau Etholiadol y Cynulliad ddod
i law yn hydref 2017. Gallai’r trafodaethau hyn gwmpasu pecyn ehangach o ran
diwygio trefniadau gweithredol megis y rheolau anghymwyso, trefniadau
etholiadol a’r system bwyllgora.
Cytunodd y Comisiynwyr i gynnig deddfwriaeth i newid enw’r Cynulliad yn
Senedd Cymru/Welsh Parliament cyn diwedd y Cynulliad hwn. Bydd yr Aelodau yn
cael eu galw’n Aelodau o Senedd Cymru/Welsh Parliament Members. Wrth arwain y
gwaith hwn ar ran y sefydliad, bydd y Comisiwn yn ceisio sicrhau’r consensws
gwleidyddol mwyaf ar draws y pleidiau i gyd.
Yn y cyfamser, bydd y Cynulliad yn parhau i gael ei alw yn swyddogol wrth
ei enw statudol presennol, sef Cynulliad Cenedlaethol Cymru, er mwyn osgoi
dryswch ac i leihau costau ac anghyfleustra.
Bydd y Comisiwn yn cynllunio’r newid er mwyn sicrhau bod y gost cyn lleied
ag y bo modd, gan newid enw’r Cynulliad yn unig a pheidio â chynnal unrhyw
ailfrandio cyffredinol na newid y logo.
Cytunodd y Comisiynwyr i gyhoeddi crynodeb o ganfyddiadau’r ymgynghoriad,
ynghyd â datganiad ysgrifenedig ffurfiol i’r Cynulliad gan y Llywydd yn
egluro’r penderfyniad a wnaed a sut y mae’r Comisiwn yn bwriadu symud ymlaen.
Cyfarfod: 15/05/2017 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Rhaglen Diwygio'r Cynulliad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 137
- Cyfyngedig 138
Cofnodion:
Rhoddwyd
gwybodaeth i'r Comisiynwyr am ganlyniadau eu hymgynghoriad ar newid enw'r
Cynulliad. Trafodwyd nifer o opsiynau ar gyfer y camau nesaf gan gynnwys
materion ymarferol ac ariannol cysylltiedig a materion yn ymwneud ag enw da.
Cytunodd
y Comisiynwyr i ddychwelyd at y mater yn eu cyfarfod nesaf, ar ôl rhoi
ystyriaeth bellach i'r berthynas â chwmpas y cynigion deddfwriaethol y gallai'r
Comisiwn ddymuno ei dilyn yn ystod tymor y Cynulliad hwn o ganlyniad i
ddatganoli pwerau newydd o dan Ddeddf Cymru 2017 .
Cyfarfod: 26/01/2017 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Y Panel Arbenigol ar ddiwygio trefniadau cyfansoddiadol
Cofnodion:
Yn dilyn trafodaeth yng nghyfarfod diwethaf y Comisiwn, roedd y Comisiynwyr
yn fodlon bod gwaith i sefydlu Panel Arbenigol ar ddiwygio trefniadau
etholiadol yn mynd rhagddo.
Gan barhau â'u gwaith i fynd i'r afael â chapasiti'r Cynulliad, rhoddwyd y
wybodaeth ddiweddaraf i'r Comisiwn ynglŷn â'r camau a gymerwyd i benodi
aelodau'r Panel Arbenigol ar Ddiwygio Trefniadau Etholiadol y Cynulliad.
Bydd y Panel yn
gweithredu'n annibynnol, a'i rôl fydd gwneud argymhellion i Gomisiwn y
Cynulliad erbyn hydref 2017 ynglŷn â nifer yr Aelodau y mae eu hangen ar y
Cynulliad, y system etholiadol fwyaf addas, a'r oedran pleidleisio isaf ar
gyfer etholiadau'r Cynulliad.
Er y bydd y Panel yn gweithredu'n
annibynnol, ni all weithio'n llwyr ar wahân i wirioneddau'r sefyllfa
wleidyddol. Bydd y Llywydd hefyd yn sefydlu, ac yn cadeirio, Grŵp Cyfeirio
Gwleidyddol a fydd yn cyflawni rôl ymgynghorol er mwyn cynorthwyo'r Panel i
sicrhau bod argymhellion ymarferol yn deillio o'i waith.
Cytunodd y Comisiynwyr y dylai'r Llywydd fwrw ymlaen â'r cyhoeddiadau.
Cyfarfod: 05/12/2016 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Panel arbenigol ar ddiwygio cyfansoddiadol
Cofnodion:
Yn dilyn trafodaeth yng nghyfarfod diwethaf y
Comisiwn, roedd y Comisiynwyr yn fodlon bod gwaith i sefydlu Panel Arbenigol ar
ddiwygio etholiadol yn symud yn ei flaen.
Roeddent yn cefnogi'r dull o benodi Cadeirydd â lefel addas o hygrededd
academaidd (yr Athro Laura McAllister), a cheisio panel o unigolion amrywiol â
phrofiad priodol.
Cyfarfod: 03/11/2016 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Adroddiad Comisiwn y Pedwerydd Cynulliad "Dyfodol y Cynulliad: sicrhau capasiti i gyflawni ar gyfer Cymru” a Bil Cymru
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 145
Cofnodion:
Cafodd y
Comisiynwyr eu briffio ynghylch gwaith y Comisiwn yn y Cynulliad diwethaf o ran
y cyfyngiadau ar gapasiti'r sefydliad a'r casgliadau y daethpwyd iddynt. Hefyd,
fe'u hysbyswyd am y sefyllfa bresennol ac am hyd a lled y pwerau sy'n cael eu
datganoli o dan Fil Cymru sydd ar hyn o bryd yn cael ei drafod yn San Steffan.
Cytunodd
y Comisiynwyr y dylai'r Llywydd drafod y materion hyn ymhellach o ran ceisio eu
symud ymlaen.