Cyfarfodydd

P-05-723 Sefydlu System Bleidleisio Cynrychiolaeth Gyfrannol ar gyfer Etholiadau Cynghorau Lleol Cymru.

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 03/12/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-723 Sefydlu System Bleidleisio Cynrychiolaeth Gyfrannol ar gyfer Etholiadau Cynghorau Lleol Cymru.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Yng ngoleuni’r cynnig ym Mil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) i roi dewis i awdurdodau lleol o ran y system etholiadol a ddefnyddir ar gyfer etholiadau lleol, a’r gwaith craffu a gaiff ei gymhwyso i hyn gan y Cynulliad, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb .

 

 


Cyfarfod: 17/01/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-723 Sefydlu System Bleidleisio Cynrychiolaeth Gyfrannol ar gyfer Etholiadau Cynghorau Lleol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ohirio ei thrafodaethau tan fod y gwaith o graffu ar Fil Cymru wedi'i gwblhau, ac i ystyried safbwyntiau manwl y deisebydd ar y cam hwnnw.