Cyfarfodydd

Gorchymyn y Cyngor Gweithlu Addysg (Cofrestru Gweithwyr Ieuenctid, Gweithwyr Cymorth Ieuenctid ac Ymarferydd Dysgu Seiliedig ar Waith) 2016

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 06/12/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Cofrestru Gweithwyr Ieuenctid, Gweithwyr Cymorth Ieuenctid ac Ymarferwyr Dysgu Seiliedig ar Waith) 2016

NDM6180 Jane Hutt (Bro Morgannwg):

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Cofrestru Gweithwyr Ieuenctid, Gweithwyr Cymorth Ieuenctid ac Ymarferwyr Dysgu Seiliedig ar Waith) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Tachwedd 2016.

Dogfennau Ategol
Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Cofrestru Gweithwyr Ieuenctid, Gweithwyr Cymorth Ieuenctid ac Ymarferwyr Dysgu Seiliedig ar Waith) 2016
Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.17

NDM6180 Jane Hutt (Bro Morgannwg):

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Cofrestru Gweithwyr Ieuenctid, Gweithwyr Cymorth Ieuenctid ac Ymarferwyr Dysgu Seiliedig ar Waith) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Tachwedd 2016.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.