Cyfarfodydd
Gwariant ar Lety Preswyl
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 10/12/2015 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 8.)
Lwfansau Preswyl 2016-17: trafodaeth gyntaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cyfarfod: 15/11/2013 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 3)
Cyfraddau rhenti llety
·
Papur 11 – Nodyn a ddarparwyd gan staff y Comisiwn.
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 4
Cofnodion:
3.1 Nododd y Bwrdd
fod y Cadeirydd wedi cael cais yn gofyn i’r Bwrdd Taliadau adolygu’r Gwariant
Llety Preswyl sydd ar gael i Aelodau y mae eu prif gartrefi yn yr ardal
allanol.
3.2 Ystyriodd y Bwrdd
a oedd y terfyn presennol, sef £8,400 y flwyddyn yn ddigon, ac a ddylid ei
adolygu ar unwaith, neu ei gynnwys fel rhan o’r adolygiad blynyddol o’r
Penderfyniad ym mis Ebrill 2014.
3.3 Nododd y Bwrdd
fod ystod fawr o brisiau rhenti yng Nghaerdydd, a chytunodd y dylid gwneud
rhagor o waith ymchwil i’r farchnad rhentu yn y brifddinas yn y flwyddyn
newydd, er mwyn cael asesiad mwy cywir.
Cam i’w gymryd:
Y Tîm Cymorth Busnes i’r Aelodau i adolygu’r amrywiaeth o
brisiau rhenti ar gyfer tai yng Nghaerdydd sydd o fewn y terfyn presennol, sef
£8,400 y flwyddyn, ac adrodd yn ôl i’r Bwrdd.
Cyfarfod: 14/11/2013 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 6)
Y Pwyllgor Safonau
·
Papur 8, Atodiad A, B, C – Nodyn gan y Clerc ar y cyfarfod â
Chadeirydd y Pwyllgor Safonau, gan gynnwys ymateb a awgrymir i lythyr y
Comisiynydd Safonau, Llythyr y Comisiynydd Safonau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 7
Cofnodion:
6.1 Ystyriodd y
Bwrdd ohebiaeth gan Gerard Elias QC, y Comisiynydd Safonau, ynglŷn â’r
broses a oedd ar waith ar gyfer hawlio lwfans aros dros nos gan Aelodau’r
Cynulliad.
6.2 Penderfynodd y
Bwrdd fod y gweithdrefnau presennol ar gyfer hawlio lwfansau aros dros nos yn
ddigon cadarn, a chytunodd i beidio â newid y Penderfyniad.
6.3 Cytunodd y Bwrdd
i ofyn i dîm Cymorth Busnes yr Aelodau atgoffa Aelodau’r Cynulliad mai dim ond
treuliau y bu’n “rhaid” eu gwario "mewn cysylltiad â chyflawni eu rôl fel
Aelodau Cynulliad" y gellir eu hawlio’n ôl.
Actions:
Camau
i’w cymryd:
·
Y Cadeirydd Dros Dro i ysgrifennu at y Comisiynydd Safonau yn
egluro penderfyniad y Bwrdd i gadw’r weithdrefn bresennol o ran lwfansau aros
dros nos;
·
Y Tîm Cymorth Busnes i’r Aelodau i ysgrifennu at Aelodau’r
Cynulliad yn eu hatgoffa o’r gweithdrefnau sydd wedi’u sefydlu ar gyfer hawlio
lwfansau aros dros nos.