Cyfarfodydd

Consortia Addysg Rhanbarthol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 20/09/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Consortia Addysg Rhanbarthol

Cynhaliodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ymchwiliad byr i ganfyddiadau memorandwm yr Archwilydd Cyffredinol ar 'Sicrhau gwelliannau yn y cymorth i ysgolion trwy gonsortia addysg rhanbarthol - adolygiad o'r cynnydd' - Cafodd nifer o faterion yn ymwneud â phortffolio'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg eu codi a'u crynhoi yn y llythyr hwn.

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 26/06/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Consortia Addysg Rhanbarthol: Gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru (16 Mehefin 2017)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 15/05/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Consortia Addysg Rhanbarthol: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.

5.2 Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru gyda meysydd holi yr oedd yr aelodau yn dymuno eu harchwilio ymhellach.

5.3 Cytunodd yr Aelodau ar ôl ystyried yr ymateb gan Lywodraeth Cymru, y dylid anfon pryderon y Pwyllgor at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

 


Cyfarfod: 15/05/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Consortia Addysg Rhanbarthol: Sesiwn dystiolaeth 3

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Owen Evans – Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru

Steve Davies – Cyfarwyddwr Addysg, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Craffodd yr Aelodau ar waith Owen Evans, Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus, a Steve Davies, Cyfarwyddwr Addysg, Llywodraeth Cymru, fel rhan o'r ymchwiliad i Gonsortia Addysg Rhanbarthol.

3.2 Cytunodd Owen Evans i ddarparu'r wybodaeth ychwanegol a ganlyn:

·       Data o'r rhanbarthau sy'n dangos i ba raddau y mae gwaith ysgol i ysgol yn gweithio

·       Data sy'n dangos canran y gwelliant yn y pynciau TGAU allweddol canlynol yn dilyn  rhaglen Her Ysgolion Cymru

·       Anfon nodyn ynghylch y defnydd o Moodle

·       Anfon penawdau o'r ymweliad diweddar â'r Ffindir.

 

 


Cyfarfod: 08/05/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Consortia Addysg Rhanbarthol: Cyflwyniad ysgrifenedig gan y Consortia Rhanbarthol (Mawrth 2017)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 27/03/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Consortia Addysg Rhanbarthol: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a dderbyniwyd.

 


Cyfarfod: 27/03/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Consortia Addysg Rhanbarthol: Sesiwn Dystiolaeth 1

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-10-17 Papur 1 – Memorandwm Archwilydd Cyffredinol Cymru

PAC(5)-10-17 Papur 2 – Papur briffio i gyd-fynd â Memorandwm Archwilydd Cyffredinol Cymru

PAC(5)-10-17 Papur 3 – Canlyniadau arolwg addysg a dysgu proffesiynol athrawon

PAC(5)-10-17 Papur 4 – Llythyr gan NASUWT

 

 

Hannah Woodhouse – Rheolwr Gyfarwyddwr, Gwasanaeth Addysg ar y Cyd Consortiwm Canolbarth y De (CSC)

Nick Batchelar – Cyfarwyddwr Arweiniol (Dinas a Sir Caerdydd) Gwasanaeth Addysg ar y Cyd Consortiwm Canolbarth y De (CSC)

Debbie Harteveld – Rheolwr Gyfarwyddwr, Gwasanaeth Cyrhaeddiad Addysg De-ddwyrain Cymru (EAS)

Dermot McChrystal – Cyfarwyddwr Arweiniol (Cyngor Torfaen) Gwasanaeth Cyrhaeddiad Addysg De-ddwyrain Cymru (EAS)

Betsan O'Connor – Rheolwr Gyfarwyddwr, Ein Rhanbarth ar Waith (ERW)

Barry Rees - Is-Gyfarwyddwr Arweiniol (Ceredigion), Ein Rhanbarth ar Waith (ERW)

Arwyn Thomas – Rheolwr Gyfarwyddwr Dros Dro, Gwasanaeth Effeithiolrwydd a Gwella Ysgolion Rhanbarthol Gogledd Cymru (GwE)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Hannah Woodhouse, Rheolwr Gyfarwyddwr,  Gwasanaeth Addysg ar y Cyd Consortiwm Canolbarth y De (CSC); Nick Batchelar, Cyfarwyddwr Arweiniol (Dinas a Sir Caerdydd) Gwasanaeth Addysg ar y Cyd Consortiwm Canolbarth y De (CSC); Debbie Harteveld, Rheolwr Gyfarwyddwr, Gwasanaeth Cyrhaeddiad Addysg De-ddwyrain Cymru (EAS); Dermot McChrysta, Cyfarwyddwr Arweiniol (Cyngor Torfaen) Gwasanaeth Cyrhaeddiad Addysg De-ddwyrain Cymru (EAS); Betsan O'Connor, Rheolwr Gyfarwyddwr, Ein Rhanbarth ar Waith (ERW); Barry Rees, Is-Gyfarwyddwr Arweiniol (Ceredigion), Ein Rhanbarth ar Waith (ERW); ac Arwyn Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr Dros Dro, Gwasanaeth Effeithiolrwydd a Gwella Ysgolion Rhanbarthol Gogledd Cymru (GwE)

fel rhan o'i ymchwiliad i Gonsortia Addysg Rhanbarthol.

 


Cyfarfod: 27/03/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

Consortia Addysg Rhanbarthol: Sesiwn Dystiolaeth 2

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Simon Brown - Cyfarwyddwr Strategol, Estyn

Clive Phillips - Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Estyn

Mark Campion – Arolygydd EM, Estyn

Cofnodion:

4.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Simon Brown, Cyfarwyddwr Strategol, Clive Phillips, Cyfarwyddwr Cynorthwyol a Mark Campion, Arolygydd Ei Mawrhydi, Estyn, fel rhan o'i ymchwiliad i Gonsortia Addysg Rhanbarthol.

4.2 Cytunodd Simon Brown i anfon copi o'r arolwg canfyddiad presennol y mae Estyn yn ymgymryd ag ef ynghyd â dadansoddiad o'r canlyniadau pan fyddant ar gael.

 

 


Cyfarfod: 09/01/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Consortia Addysg Rhanbarthol: papur cwmpasu'r ymchwiliad

PAC(5)-01-17 Papur 6

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau'r papur cwmpasu a:

·       chytunwyd ar gylch gorchwyl yr ymchwiliad;

·       trafodwyd y rhestr awgrymedig o dystion;

·       cytunwyd i gynnal ymgynghoriad ysgrifenedig; a

·       chytunwyd i gynnal ymgynghoriad ar-lein gydag athrawon a phenaethiaid.

 

 


Cyfarfod: 21/11/2016 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Consortia Addysg Rhanbarthol: Memorandwm gan Archwilydd Cyffredinol Cymru

Briff Ymchwil

PAC(5)-10-16 Papur 2 - Memorandwm gan Archwilydd Cyffredinol Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cafodd y Pwyllgor friff gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ynghylch y Memorandwm Consortia Addysg Rhanbarthol a gyhoeddwyd yn ddiweddar.

4.2 Cytunodd yr Aelodau i gynnal ymchwiliad ar y mater hwn yn y gwanwyn 2017.