Cyfarfodydd
NDM6141 Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 16/11/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)
- Gweddarllediad ar gyfer 16/11/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 16/11/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig
NDM6141
Mark Reckless (Dwyrain De
Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cefnogi diddymu tollau ar bontydd Hafren ar ôl eu
dychwelyd i'r sector cyhoeddus.
Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn:
Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn galw ar lywodraethau Cymru a'r DU i archwilio
pob agwedd ar gyllido ar gyfer y ddwy bont Hafren pan gânt eu dychwelyd i
berchnogaeth gyhoeddus.
2. Yn nodi bod asesiadau blaenorol wedi dangos y
byddai cyfanswm y drafnidiaeth yn cynyddu o leiaf 25 y cant pe bai'r tollau'n
cael eu diddymu
3. Yn galw am gynnal asesiad traffig gan Traffig Cymru
er mwyn llywio'r penderfyniad i ddiddymu tollau ar sail gallu'r system
drafnidiaeth o amgylch i ymdopi ag unrhyw gynnydd mewn trafnidiaeth
4. Yn credu y dylai defnydd o'r pontydd heb dollau fod
yn flaenoriaeth os y gellir cadarnhau dyfodol hirdymor y ddwy bont drwy
gyllidebau presennol heb unrhyw effaith ar brosiectau trafnidiaeth eraill
ledled Cymru,
[Os
derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol]
Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Yn galw am ddatganoli'r cyfrifoldeb dros bontydd
Hafren pan maent yn dychwelyd i berchnogaeth gyhoeddus, ac yn cefnogi diddymu
tollau sy'n daladwy ar y croesfannau.
Gwelliant 3. Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Ychwanegu pwyntiau 1 a 2 newydd ac ail-rifo yn unol â
hynny:
1. Yn nodi’r manteision y byddai diddymu tollau ar
bontydd Hafren yn eu cynnig i economi Cymru.
2. Yn credu nad oes achos dros barhau i godi tollau ar
bontydd Hafren i ariannu gwaith cynnal a chadw ar ôl i’r consesiwn ddod i ben
gan eu bod yn dreth annheg ar bobl a busnesau Cymru.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.28
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6141 Mark Reckless (Dwyrain De
Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
Yn cefnogi diddymu
tollau ar bontydd Hafren ar ôl eu dychwelyd i'r sector cyhoeddus.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
4 |
0 |
42 |
46 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1. Paul Davies (Preseli Sir
Benfro):
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
1. Yn galw ar
lywodraethau Cymru a'r DU i archwilio pob agwedd ar gyllido ar gyfer y ddwy
bont Hafren pan gânt eu dychwelyd i berchnogaeth gyhoeddus.
2. Yn nodi bod asesiadau
blaenorol wedi dangos y byddai cyfanswm y drafnidiaeth yn cynyddu o leiaf 25 y
cant pe bai'r tollau'n cael eu diddymu
3. Yn galw am gynnal
asesiad traffig gan Traffig Cymru er mwyn llywio'r penderfyniad i ddiddymu
tollau ar sail gallu'r system drafnidiaeth o amgylch i ymdopi ag unrhyw gynnydd
mewn trafnidiaeth
4. Yn credu y dylai
defnydd o'r pontydd heb dollau fod yn flaenoriaeth os gellir cadarnhau dyfodol
hirdymor y ddwy bont drwy gyllidebau presennol heb unrhyw effaith ar brosiectau
trafnidiaeth eraill ledled Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
10 |
0 |
36 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant
2. Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn):
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Yn galw am ddatganoli'r
cyfrifoldeb dros bontydd Hafren pan maent yn dychwelyd i berchnogaeth
gyhoeddus, ac yn cefnogi diddymu tollau sy'n daladwy ar y croesfannau.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
29 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant
3. Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ychwanegu pwyntiau 1 a 2
newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
1. Yn nodi’r manteision
y byddai diddymu tollau ar bontydd Hafren yn eu cynnig i economi Cymru.
2. Yn credu nad oes
achos dros barhau i godi tollau ar bontydd Hafren i ariannu gwaith cynnal a
chadw ar ôl i’r consesiwn ddod i ben gan eu bod yn dreth annheg ar bobl a
busnesau Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
29 |
10 |
7 |
46 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM6141 Mark Reckless (Dwyrain De
Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r manteision
y byddai diddymu tollau ar bontydd Hafren yn eu cynnig i economi Cymru.
2. Yn credu nad oes
achos dros barhau i godi tollau ar bontydd Hafren i ariannu gwaith cynnal a
chadw ar ôl i’r consesiwn ddod i ben gan eu bod yn dreth annheg ar bobl a
busnesau Cymru.
3. Yn cefnogi diddymu
tollau ar bontydd Hafren ar ôl eu dychwelyd i'r sector cyhoeddus.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
45 |
1 |
0 |
46 |
Derbyniwyd y cynnig
wedi’i ddiwygio.