Cyfarfodydd
Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2017-18
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 16/11/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 16/11/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 16/11/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2017-18
NDM6139 Suzy Davies (Gorllewin De
Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 20.16:
Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer
2017-18, fel y nodir yn Nhabl 1 o "Gyllideb Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol
Cymru 2017-18", a osodwyd gerbron
y Cynulliad ar 9 Tachwedd 2016 a'i bod yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig
Cyllideb Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii).
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor
Cyllid - Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2017-18
Llythyr ymateb
Comisiwn y Cynulliad at y Pwyllgor Cyllid
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 14.20
NDM6139 Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:
Yn cytuno ar
gyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2017-18, fel y nodir yn Nhabl 1 o
"Gyllideb Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2017-18", a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 9 Tachwedd 2016 a'i bod yn cael ei hymgorffori yn y
Cynnig Cyllideb Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii).
Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.