Cyfarfodydd

Cyflog Uwch Reolwyr

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 20/11/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Cyflogau Uwch-reolwyr: Gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru (8 Tachwedd 2017)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 25/09/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 10)

10 Cyflogau Uwch-reolwyr: Gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru

PAC(5)-23-17 Papur 9 – Llythyr oddi wrth yr Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru  (17 Awst 2017)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

10.1 Trafododd yr Aelodau yr adroddiad gan Lywodraeth Cymru ar gyflog uwch reolwyr ar draws sector cyhoeddus Cymru 2015-16.

10.2 Gofynnodd yr aelodau i'r Cadeirydd ysgrifennu i Lywodraeth Cymru yn diolch iddynt am yr adroddiad ac yn gofyn bod adroddiadau blynyddol yn y dyfodol yn cynnwys manylion am sefydliadau addysg bellach a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru.

 


Cyfarfod: 13/03/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Cyflogau Uwch-reolwyr: Adroddiad Comisiwn Staff Gwasanaethau Cyhoeddus

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 28/11/2016 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Cyflogau Uwch-reolwyr: y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru

PAC(5)-11-16 Papur 1

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Nododd yr Aelodau'r wybodaeth ddiweddaraf a gafwyd gan Lywodraeth Cymru a chytunwyd eu bod yn fodlon â'r cynnydd sy'n cael ei wneud ar y materion, ac na ofynnir am ddiweddariadau pellach. Fodd bynnag, gwnaeth yr Aelodau gais bod y Pwyllgor yn derbyn copi o Adroddiad y Comisiwn Staff Gwasanaethau Cyhoeddus ar Dryloywder Tâl uwch aelodau staff, pan gaiff ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni