Cyfarfodydd
Ystyried y dystiolaeth
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 23/01/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 7)
Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law
Cofnodion:
7.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law a chytunwyd i
fonitro'r ddau fater bob chwe mis. Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at
Lywodraeth Cymru â sylwadau'r Aelodau o'r sesiynau tystiolaeth a gofyn i
ddiweddariadau ysgrifenedig fod ar gael erbyn 1 Medi 2017.
Cyfarfod: 14/11/2016 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 9)
Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law ar gyfer eitemau 3 - 7
Cofnodion:
9.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a ddaeth i law, a chytunwyd ar y
canlynol:
Kancoat
Gofynnodd yr Aelodau i'r Clercod baratoi crynodeb o'r dystiolaeth a
dderbyniwyd ynghyd ag argymhellion posibl i’w hystyried. Nododd yr Aelodau
hefyd bod Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi trefnu i gynnal archwiliad o
Ddulliau Cefnogi Busnes Llywodraeth Cymru yn 2017.
Maes Awyr Caerdydd
Cytunodd yr Aelodau i dderbyn adroddiad cynnydd pellach ymhen 12 mis.
Cyswllt awyr
Gofynnodd yr Aelodau am i ganlyniadau adolygiad Ysgrifennydd y Cabinet dros
yr Economi a Seilwaith o'r cwmni hedfan Gogledd-De fod ar gael i'r Pwyllgor pan
gânt eu cyhoeddi.
Band eang
Cytunodd yr Aelodau na fyddant yn gofyn am ragor o ddiweddariadau yn sgil
yr ymchwiliad a gynlluniwyd gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau i Fand
Eang.
Cefnffyrdd
Cytunodd yr Aelodau i ystyried eto a fydd angen unrhyw ddiweddariadau
pellach ar ôl derbyn y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol, pan fydd ar gael.