Cyfarfodydd

Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Cyllid Troseddol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 13/12/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cyllid Troseddol

NDM6183 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd):

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6 yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Cyllid Troseddol, yn ymwneud â chreu trosedd newydd sef efadu trethi, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Tachwedd 2016 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).

Mae copi o'r Bil i'w weld ar wefan Senedd y DU:

Criminal Finances Bill 2016-17 — Senedd y DU (Saesneg yn unig)

Dogfennau Ategol
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Adroddiad y Pwyllgor Cyllid

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.44

NDM6183 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd):

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6 yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Cyllid Troseddol, yn ymwneud â chreu trosedd newydd sef efadu trethi, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 01/12/2016 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol - y Bil Cyllid Troseddol: Trafod yr adroddiad drafft

Papur 3 – Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol - y Bil Cyllid Troseddol - Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft.

 


Cyfarfod: 17/11/2016 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

8 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Cyllid Troseddol

Papur 2 – Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Cyllid Troseddol

Papur 3 – Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Cyllid Troseddol - Cyngor Cyfreithiol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cyllid Troseddol, a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno.