Cyfarfodydd
Dadl gan Aelodau Unigol: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl - Y Bumed Senedd
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 19/01/2021 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
Dadl Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
Dewisodd y
Pwyllgor Busnes y cynnig a ganlyn ar gyfer dadl ar 27 Ionawr:
Dai Lloyd
Neil Hamilton
Huw Irranca-Davies
Adam Price
Andrew RT Davies
Nick Ramsay
NNDM7463
Cynnig bod
y Senedd:
1. Yn nodi bod y Gymdeithas Strôc wedi cyhoeddi
ymchwil i brofiadau goroeswyr strôc yn ystod pandemig COVID-19, a ganfu fod
goroeswyr strôc a gofalwyr yn ei chael hi'n anodd cael gafael ar y gwasanaethau
a'r cymorth sydd eu hangen arnynt.
2. Yn nodi
bod derbyniadau mewn unedau strôc acíwt yng Nghymru wedi gostwng 12 y cant
rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2020 o gymharu â 2019.
3. Yn
credu, er gwaethaf pandemig COVID-19, y dylai goroeswyr strôc allu parhau i
gael gafael ar y gofal acíwt, y gwasanaethau adsefydlu, y driniaeth iechyd
meddwl a'r cymorth sydd eu hangen arnynt i adfer cystal â phosibl.
4. Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod byrddau iechyd lleol yng Nghymru yn parhau
â'u gwaith i wella gofal strôc yng Nghymru ac nad ydynt yn caniatáu i COVID-19
ohirio newidiadau strwythurol y mae mawr eu hangen.
5. Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun cenedlaethol newydd ar gyfer
gwasanaethau strôc pan ddaw'r cynllun cyflawni presennol ar gyfer strôc i ben
er mwyn sicrhau bod gofal i'r rhai y mae strôc yn effeithio arnynt yn cael ei
gryfhau ledled Cymru yn y dyfodol.
Cynllun Cyflawni ar gyfer Strôc 2017-2020
Wedi’i
gefnogi gan:
Llyr Gruffydd
Mark Isherwood
Neil McEvoy
Cyfarfod: 10/11/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
Dadl Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 5
Cofnodion:
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 18 Tachwedd:
NNDM7455
Helen Mary
Jones
Joyce
Watson
Leanne Wood
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu y dylai Llywodraeth y DU fod wedi
cynnal trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru a chynrychiolwyr lleol cyn rhoi
llety i geiswyr lloches yng nghanolfan filwrol Penalun, ger Dinbych-y-pysgod.
2. Yn credu y dylid
ailystyried y penderfyniad am ei fod yn lle anaddas i geiswyr lloches, gan ei
fod wedi'i ynysu oddi wrth rwydweithiau cymorth priodol.
3. Yn condemnio'r
protestiadau treisgar a drefnwyd gan grwpiau'r asgell dde eithafol o'r tu allan
i Sir Benfro.
4. Yn canmol trigolion
a gwirfoddolwyr lleol o bob rhan o Gymru sydd wedi croesawu a chefnogi'r
ceiswyr lloches.
Cefnogwyr:
Mick
Antoniw
John
Griffiths
Llyr
Gruffydd
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes hefyd i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 9 Rhagfyr:
NNDM7462
Lynne
Neagle
Bethan
Sayed
Leanne Wood
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod bod y dystiolaeth yn
ddiamwys bod 1,000 diwrnod cyntaf bywyd plentyn, o feichiogrwydd i ddwy oed, yn
gosod y sylfeini ar gyfer bywyd hapus ac iach a bod cysylltiad cryf rhwng
cefnogaeth a llesiant babanod yn ystod y cyfnod hwn a gwell canlyniadau yn
ddiweddarach mewn bywyd, gan gynnwys cyflawniad addysgol, cynnydd yn y gwaith a
gwell iechyd corfforol a meddyliol.
2. Yn nodi, ers yr achosion o COVID-19 a'r cyfyngiadau symud ac ymbellhau
cymdeithasol a ddaeth yn sgil hynny, fod corff cynyddol o ymchwil yn dangos bod
rhieni'n wynebu pwysau digynsail, pryderon uwch, a'u bod mewn mwy o berygl o
ddatblygu problemau iechyd meddwl yn y cyfnod amenedigol.
3. . Yn nodi bod arolwg Babies in Lockdown 2020 wedi dangos bod 66 y cant o
ymatebwyr o Gymru wedi nodi bod iechyd meddwl rhieni yn prif bryder yn ystod y
cyfyngiadau symud: dim ond 26 y cant oedd yn teimlo'n hyderus y gallent ddod o
hyd i gymorth ar gyfer iechyd meddwl pe bai ei angen arnynt a bod 69 y cant o
rieni'n teimlo bod y newidiadau a gyflwynwyd gan COVID-19 yn effeithio ar eu
baban heb ei eni, babi neu blentyn ifanc.
4. Yn nodi bod ymchwil New Parents and COVID-19 2020 wedi canfod bod dros
hanner y 257 o ymatebwyr sydd wedi rhoi genedigaeth ers y cyfyngiadau symud yn
teimlo bod eu profiad geni wedi bod yn anos na'r disgwyl oherwydd cyfyngiadau'r
coronafeirws, dros 60 y cant heb dderbyn unrhyw fath o archwiliad ôl-enedigol a
bron i chwarter am gael cymorth iechyd meddwl amenedigol.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaethau a chymorth i
deuluoedd yn ystod beichiogrwydd a'r cyfnod amenedigol yn cael blaenoriaeth a
bod y gweithlu bydwreigiaeth, ymwelwyr iechyd ac iechyd meddwl amenedigol yn
cael ei ddiogelu rhag adleoli yn ystod y pandemig.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio'n rhagweithiol gyda byrddau iechyd
i sicrhau y gall menywod gael cymorth diogel gan eu partneriaid yn ystod
ymweliadau ysbyty yn ystod beichiogrwydd.
7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu buddsoddiad ychwanegol wedi'i
neilltuo ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol a gwasanaethau
gwirfoddol i ymdopi â'r cynnydd yn y galw oherwydd COVID-19.
Cefnogwyr:
Dawn Bowden
Jayne
Bryant
Alun Davies
Vikki
Howells
Huw
Irranca-Davies:
Helen Mary
Jones
Dai Lloyd
Neil
Mcevoy
Jenny
Rathbone
David Rees
Jack
Sargeant
Cyfarfod: 22/09/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
Dadl Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 8
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor Busnes y cynigion a gyflwynwyd a chytunwyd i amserlennu’r cynnig
canlynol i'w drafod ar 30 Medi:
NNDM7384
Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) y niwed y mae tlodi'n ei wneud i gyfleoedd bywyd ac
nad yw gwaith bellach yn llwybr gwarantedig allan o dlodi;
b) bod y pandemig wedi gorfodi mwy o bobl i mewn i dlodi
gyda niferoedd cynyddol o breswylwyr yn gorfod troi at gymorth elusennol fel
banciau bwyd;
c) yr oedd twf y DU, hyd yn oed cyn y pandemig, yn wael
a'n bod yn wynebu'r her gynyddol o awtomeiddio, sy'n gosod niferoedd cynyddol o
swyddi mewn perygl;
d) bod incwm sylfaenol cyffredinol yn rhoi mwy o reolaeth
i bobl dros eu bywydau, yn lleddfu tlodi ac, yn ogystal, yn cael effaith
gadarnhaol ar iechyd meddwl;
e) y byddai incwm sylfaenol cyffredinol yn creu swyddi ac
yn annog pobl i fanteisio ar gyfleoedd hyfforddi;
f) bod incwm sylfaenol cyffredinol yn rhoi'r lle i bobl
gymryd mwy o ran yn eu cymuned a chefnogi eu cymdogion.
2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru:
a) i sefydlu treial incwm sylfaenol cyffredinol yng
Nghymru;
b) i lobïo
Llywodraeth y DU am gyllid i sefydlu incwm sylfaenol cyffredinol ledled Cymru.
Cefnogwyr:
Adam Price
(Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)
Alun Davies
(Blaenau Gwent)
Bethan
Sayed (Gorllewin De Cymru)
Dai Lloyd
(Gorllewin De Cymru)
Dawn Bowden
(Merthyr Tudful a Rhymni)
Helen Mary
Jones (Canolbarth a Gorllewin Cymru
Huw
Irranca–Davies (Ogwr)
Jenny
Rathbone (Canol Caerdydd)
John
Griffiths (Dwyrain Casnewydd)
Leanne Wood
(Rhondda)
Mick
Antoniw (Pontypridd)
Mike Hedges
(Dwyrain Abertawe)
Rhianon
Passmore (Islwyn)
Sian
Gwenllian (Arfon)
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes hefyd i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 14 Hydref:
NNDM7304
Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)
Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)
Vikki Howells (Cwm Cynon)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod effaith ddinistriol endometriosis sy'n effeithio ar un o bob
10 menyw yng Nghymru.
2. Yn nodi ei bod yn cymryd, ar gyfartaledd, wyth mlynedd a 26 apwyntiad
meddyg teulu i gael atgyfeiriad at arbenigwr endometriosis.
3. Yn galw am fwy o ymchwil i achosion endometriosis a thriniaethau posibl.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ysgolion yn gwneud pob disgybl
yn ymwybodol o'r hyn sy'n gyfnod mislif arferol a phryd i ofyn am gyngor
meddygol.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod mwy o arbenigwyr endometriosis
yn cael eu hyfforddi fel y gall pob menyw gael triniaeth arbenigol yng Nghymru.
Cefnogwyr:
Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cyfarfod: 17/03/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
Dadl Aelod - Dewis Cynnig ar gyfer Dadl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 11
Cofnodion:
Gan fod y
Rheolwyr Busnes wedi cytuno i ohirio pob busnes ar wahân i Gwestiynau Amserol,
ni fydd Dadl Aelod.
Cyfarfod: 04/02/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
Dadl Aelod: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 14
Cofnodion:
Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i ddethol y cynnig a ganlyn ar gyfer dadl ar 12 Chwefror:
NNDM7263
Rhun ap Iorwerth
Cyd-gyflwynwyr:
Angela Burns
Janet Finch-Saunders
Llyr Gruffydd
Siân Gwenllian
Neil Hamilton
Mike Hedges
Vikki Howells
Mark Isherwood
Delyth Jewell
Helen Mary Jones
Dai Lloyd
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi
bod mwy a mwy o wasanaethau ar gael ar-lein yn unig.
2. Yn
cydnabod nad oes gan bawb fynediad i'r rhyngrwyd.
3. Yn
cydnabod nad yw pawb yn teimlo'n gyfforddus yn defnyddio'r rhyngrwyd.
4. Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i:
a) sicrhau
bod dewisiadau all-lein ar gael o ran gwasanaethau cyhoeddus ar-lein, megis
gyda'r system adnewyddu tocynnau bws; a
b) trafod
gyda banciau, busnesau a sefydliadau eraill i sicrhau nad yw cwsmeriaid yn cael
eu hynysu os mai dim ond gwasanaethau ar-lein a gynigir.
Cefnogir
gan:
Huw
Irranca-Davies
Suzy
Davies
Cyfarfod: 03/12/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
Dadl Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 17
Cofnodion:
Business
Managers considered the paper and selected the following motion for debate on
11 December:
NNDM7215
Helen
Mary Jones (Mid and West Wales)
Dai
Lloyd (South Wales West)
David
Rees (Aberavon)
To
propose that the National Assembly for Wales:
1.
Notes the Royal College of Nursing Wales's report, Progress and Challenge: the
Implementation of the Nurse Staffing Levels (Wales) Act 2016.
2.
Notes more nurses leave the NHS than join.
3.
Calls on Welsh Government to set out how the Welsh NHS will increase the
opportunities for flexible working as part of a national nursing
retention strategy.
Progress and Challenge:
the Implementation of the Nurse Staffing Levels (Wales) Act 2016
They
also selected the following motion for debate on 22 January:
NNDM7211
Lynne
Neagle (Torfaen)
Dai
Lloyd (South Wales West)
David
Melding (South Wales Central)
To
propose that the National Assembly for Wales:
1.
Recognises that losing someone to suicide is a uniquely devastating loss for
families, friends and whole communities.
2.
Notes the limited support available in Wales to support those bereaved by
suicide.
3.
Notes that losing someone to suicide is a major risk factor for dying by
suicide and that support for those bereaved is a vital part of suicide
prevention.
4.
Calls on the Welsh Government to urgently ensure there is support for those
bereaved by suicide available across Wales as part of a comprehensive
postvention pathway for Wales. In doing so, the Welsh Government must ensure
that improvements to services and the new pathway are co-produced by those with
lived experience of suicide bereavement.
Supported
by:
Angela
Burns (Carmarthen West and South Pembrokeshire)
David
Rees (Aberavon)
Jack
Sargeant (Alyn and Deeside)
Jayne
Bryant (Newport West)
Joyce
Watson (Mid and West Wales)
Mark
Isherwood (North Wales)
Cyfarfod: 19/11/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
Dadl Aelod: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 20
Cofnodion:
Dewisodd y
Pwyllgor Busnes y cynnig a ganlyn ar gyfer dadl ar 27 Tachwedd:
NNDM7191
Lynne
Neagle (Torfaen)
Dai Lloyd
(Gorllewin De Cymru)
David
Melding (Canol De Cymru)
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn
cydnabod nad yw un o bob pedwar o bobl sy'n cael diagnosis o ganser y pancreas
yn y DU yn goroesi'r clefyd y tu hwnt i fis ac nad yw tri o bob pedwar yn
goroesi y tu hwnt i flwyddyn, llawer ohonynt am nad oeddent yn cael eu trin yn
ddigon cyflym.
2. Yn
cydnabod bod tua 500 o achosion newydd o ganserau'r pancreas yng Nghymru bob
blwyddyn, a bod tua 508 o bobl wedi cael diagnosis o ganser y pancreas yn 2015,
ac y bu farw tua 451 o bobl o'r clefyd yn yr un flwyddyn.
3. Yn
cydnabod mai canser y pancreas yw'r canser cyffredin mwyaf angheuol gyda
phrognosis truenus sydd prin wedi newid yn ystod y 45 mlynedd diwethaf.
4. Yn
croesawu mis ymwybyddiaeth canser y pancreas (Tachwedd) a'r gwaith y mae
Pancreatic Cancer UK yn ei wneud i hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r canser sydd â'r
nifer isaf o ran goroesi, a'r cyflymaf o ran lladd.
5. Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i wella cyfraddau goroesi ar gyfer pobl â
chanser y pancreas yng Nghymru drwy:
a)
triniaeth gyflymach, drwy ddysgu gan fodelau llawdriniaeth llwybr carlam yn
Lloegr sydd wedi dangos canlyniadau addawol;
b)
diagnosis cynharach, drwy ddysgu o Ganolfannau Diagnostig Cyflym sy'n cael eu
cyflwyno yn Lloegr a'r treialon gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd
Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg; ac
c)
cefnogaeth gyfannol, trwy gefnogaeth ddeietegol a maethol amserol i alluogi
cleifion i oddef triniaeth yn well.
Cefnogir
gan:
Delyth
Jewell (Dwyrain De Cymru)
Joyce
Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Mark
Isherwood (Gogledd Cymru)
Neil
Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Neil
McEvoy (Canol De Cymru)
Vikki
Howells (Cwm Cynon)
Cyfarfod: 24/09/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
Dadl Aelod: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 23
Cofnodion:
Dewisodd y
Rheolwyr Busnes y cynnig a ganlyn ar gyfer dadl ar 2 Hydref:
David Rees
NNDM7143
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn
nodi'r rhwydwaith cyfoethog ac amrywiol o seilwaith diwydiannol hanesyddol
ledled Cymru.
2. Yn
nodi'r potensial o ran yr economi, adfywio a thrafnidiaeth integredig o
ail-agor hen linellau rheilffordd a thwneli segur ledled Cymru.
3. Yn
cydnabod yr heriau ymarferol ac ariannol o ddod â seilwaith o'r fath yn ôl i
ddefnydd.
4. Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i anelu at gael perchenogaeth ar seilwaith o'r fath a
fyddai'n helpu i chwilio am gyfleoedd ariannu.
5. Yn galw
ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i chwarae eu rhan wrth archwilio'r
cyfleoedd ymarferol ar gyfer ailagor seilwaith o'r fath ledled Cymru
Cefnogir gan:
Vikki Howells
Leanne Wood
Cytunodd y Rheolwr Busnes
hefyd i gynnal dadl ar y cynnig a ganlyn ar 23 Hydref:
Siân Gwenllian
NNDM7144
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i ddarparu adroddiad o gynnydd am ei gwaith i fynd i'r
afael â throseddau casineb LHDT yng Nghymru.
2. Yn galw
am ddatganoli cyfiawnder er mwyn sicrhau dull integredig o fynd i'r afael â
throseddau casineb LHDT ac amddiffyn pobl LHDT yng Nghymru.
3. Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i amlinellu ei chynigion ar sut y gallai creu system
gyfiawnder ddatganoledig i Gymru hybu diogelwch a llesiant pobl LHDT.
Cefnogir gan:
Mick Antoniw
Leanne Wood
Cyfarfod: 11/06/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
Dadl Aelod: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 26
Cofnodion:
Dewisodd y
Pwyllgor Busnes y cynnig a ganlyn ar gyfer dadl ar 6 Mehefin:
NNDM7068
Siân
Gwenllian
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod hanes
Cymru yn cael ei ddysgu i bob disgybl ysgol yng Nghymru yn ddiwahan.
Cefnogir
gan:
Suzy
Davies
Cyfarfod: 07/05/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
Dadl Aelod: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 29
Cofnodion:
·
Dewisodd y Pwyllgor Busnes y cynnig a ganlyn
ar gyfer dadl ar 15 Mai:
NNDM7002
Jenny
Rathbone
Dai Lloyd
Joyce
Watson
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn
credu y gall prydau ysgol iach, maethlon wneud cyfraniad hanfodol i les,
cyrhaeddiad ac ymddygiad cadarnhaol disgyblion.
2. Yn nodi
bod adroddiad y Comisiynydd Plant, Siarter Ar Gyfer Newid: Amddiffyn Plant yng
Nghymru rhag Effaith Tlodi, yn darparu tystiolaeth sy'n peri pryder nad yw
nifer sylweddol o ddisgyblion yn cael yr hawl a nodir yng nghanllawiau bwyta'n
iach mewn ysgolion a gynhelir.
3. Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i:
a) egluro
ai cyfrifoldeb llywodraethwyr ysgolion, awdurdodau lleol neu Lywodraeth Cymru
yw safonau prydau ysgol a pha gamau sy'n cael eu cymryd i sicrhau eu bod yn
cael eu monitro; a
b)
amlinellu pa gamau sy'n cael eu cymryd i gynyddu faint o fwyd ar gyfer ysgolion
sy'n cael ei gaffael yn lleol fel rhan o'i phwyslais ar yr economi sylfaenol.
Siarter Ar Gyfer Newid: Amddiffyn Plant yng Nghymru rhag Effaith
Tlodi
Bwyta'n iach mewn ysgolion a gynhelir: Canllawiau statudol i
awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu
Cefnogir
gan:
Darren Millar
David J Rowlands
Mike Hedges
Russell George
Vikki
Howells
·
Dewisodd y Pwyllgor Busnes y cynnig a ganlyn
ar gyfer dadl ar 5 Mehefin:
NNDM7029
John Griffiths
Dawn Bowden
Mike Hedges
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i lunio strategaeth trechu tlodi, gyda chyllideb a chynllun
gweithredu manwl ar gyfer gweithredu.
2. Yn galw
ar y Prif Weinidog i egluro'r meysydd cyfrifoldeb ar gyfer trechu tlodi ym mhob
portffolio gweinidogol.
3. Yn
cydnabod ac yn llywio atebolrwydd ar gynnydd a wneir ar yr agenda trechu tlodi.
Cefnogir
gan:
Jayne Bryant
Siân Gwenllian
Vikki Howells
Huw Irranca-Davies
Mark Isherwood
Dai Lloyd
Lynne Neagle
Jenny Rathbone
David Rees
David J
Rowlands
Cyfarfod: 19/03/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
Dadl Aelod - dewis cynnig ar gyfer dadl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 32
Cofnodion:
Dadl Aelod
- dewis cynnig ar gyfer dadl
·
Dewisodd y Pwyllgor Busnes y cynnig a ganlyn
ar gyfer dadl ar 27 Mawrth:
NNDM6990
Andrew RT
Davies
NNDM6990
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn
nodi:
a)
pwysigrwydd rygbi i bobl Cymru, y manteision economaidd sy'n gysylltiedig â'r
gêm, a'i lle arbennig yng ngwead cymunedau ledled ein cenedl;
b) yr
heriau ariannol a strwythurol sy'n wynebu rygbi yng Nghymru ar hyn o bryd;
c)
goblygiadau posibl 'Project Reset' Undeb Rygbi Cymru ar rygbi proffesiynol a'r
strwythur rhanbarthol yng Nghymru, ac ar y gwasanaethau lleol a chymunedol
ychwanegol a ddarperir ar hyn o bryd gan y rhanbarthau; a
d) y
pryderon cryf a fynegwyd gan gefnogwyr ynghylch y posibilrwydd o uno
rhanbarthau'r Gweilch a'r Sgarlets.
2. Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag Undeb Rygbi Cymru a phartneriaid
rhanbarthol/clwb i ddiogelu rygbi yng Nghymru a llunio model cynaliadwy tymor
hir ar gyfer y gêm ar lefel ranbarthol ac ar lawr gwlad.
Cefnogwyr:
Huw Irranca-Davies
Bethan Sayed
Mohammad Asghar
Jayne Bryant
Hefin David
Suzy Davies
Janet Finch-Saunders
Mike Hedges
Dai Lloyd
Lynne Neagle
David Rees
Cyfarfod: 29/01/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
Dadl Aelod Unigol: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 35
Cofnodion:
Dadl Aelod
Unigol: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl
·
Detholodd y Pwyllgor Busnes y cynnig a ganlyn
ar gyfer dadl ar 6 Chwefror:
NNDM6950
David Rees
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn croesawu’r buddsoddiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru i gefnogi dyfodol
cynaliadwy i’r diwydiant dur yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
2.
Yn cydnabod yr heriau sy’n wynebu’r diwydiant dur yng Nghymru yn dilyn
ymadawiad y DU â’r UE.
3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i gefnogi’r sector dur yng Nghymru sy’n
ddiwydiant o bwys i economi Cymru.
4.
Yn galw ar Lywodraeth y DU i fynd i’r afael â chostau uchel ynni sy’n wynebu’r
sector dur yn y DU o’i gymharu â chostau trydan yn yr UE.
Cefnogwyr:
Jayne Bryant
Suzy Davies
Russell George
John Griffiths
Huw Irranca-Davies
Bethan Sayed
Caroline Jones
Dawn Bowden
Mike Hedges
Vikki Howells
Jack
Sargeant
Alun
Davies
·
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gynnal y Ddadl
Aelod unigol nesaf ar 20 Chwefror, a dewiswyd y cynnig a ganlyn:
NNDM6947
Huw
Irranca-Davies
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn
nodi:
a) bod gan
bobl ifanc yng Nghymru rai o’r lefelau gweithgarwch corfforol isaf yn y Deyrnas
Unedig, sy’n cyfrannu at lefelau cynyddol o ordewdra a materion iechyd
cysylltiedig, fel diabetes math 2;
b) bod
llawer o gymunedau yng Nghymru yn dioddef o lefelau anghyfreithlon o uchel o
lygredd aer, gydag un gymuned yn profi’r ansawdd aer gwaethaf y tu allan i
Lundain;
c)
amcangyfrifir bod cost tagfeydd ar y ffyrdd yn £2 biliwn i economi Cymru bob
blwyddyn;
d) nid yw
targedau ar gyfer allyriadau carbon o drafnidiaeth yng Nghymru wedi’u cyrraedd
yn gyson;
e) mae
lefelau cerdded a beicio yng Nghymru yn gostwng, ac un pryder arbennig yw bod
lefelau teithio llesol i’r ysgol yn gostwng; ac
f) gellid
gwella pob un o’r materion hyn pe bai Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn cael
ei gweithredu’n effeithiol.
2. Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i adnewyddu ei huchelgais o ran teithio llesol yng Nghymru
drwy lunio strategaeth teithio llesol gynhwysfawr, sy’n cynnwys targedau uchelgeisiol
a chynllun manwl ar gyfer buddsoddi hirdymor mewn seilwaith teithio llesol.
Deddf
Teithio Llesol (Cymru) 2013
Cefnogwyr:
Dai Lloyd
Russell George
Vikki
Howells
Neil
McEvoy
Jenny
Rathbone
Cyfarfod: 15/01/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
Dadl Aelod - Trafod cynigion i'w trafod
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 38
Cofnodion:
- Dewisodd y Rheolwyr Busnes y cynnig
canlynol i gynnal dadl yn ei gylch ar 23 Ionawr:
NNDM6919
Bethan Sayed
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod cyn-weithwyr Allied Steel and
Wire dal heb gael gwerth llawn eu pensiynau, er gwaethaf cytundeb iawndal a
gytunwyd yn 2007 gyda Llywodraeth flaenorol y DU a bron 14 mlynedd ar ôl newid
yng nghyfraith y DU.
2. Yn nodi o dan cytundeb iawndal a gytunwyd
yn 2007 gyda Llywodraeth flaenorol y DU, addawyd yr un driniaeth i weithwyr â
gweithwyr a deiliaid cynllun pensiwn o dan y gronfa diogelu pensiynau a'r
cynllun cymorth ariannol.
3. Yn nodi yn sgil newidiadau yn y gyfraith
ers 2004, o dan y gronfa diogelu pensiynau a'r cynllun cymorth ariannol fod gan
weithwyr yr hawl i gael eu talu hyd at 90 y cant o werth eu cyfraniad pensiwn.
Fodd bynnag, nid yw cyfraniadau a dalwyd cyn 1997 wedi'u diogelu rhag
chwyddiant.
4. Yn gresynu at y caledi ariannol y mae hyn
wedi'i achosi i gyn-weithwyr ASW yng Nghymru.
5. Yn galw ar Lywodraeth y DU i anrhydeddu
ysbryd yr ymrwymiadau a wnaeth Llywodraeth flaenorol y DU i weithwyr ASW yng
Nghymru.
Cefnogwyr:
Andrew RT
Davies
Mike
Hedges
Helen Mary
Jones
Leanne Wood
- Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drefnu'r
Ddadl Aelod nesaf ar 6 Chwefror.
Cyfarfod: 04/12/2018 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
Dadl Aelod Unigol: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 41
Cofnodion:
·
Dewisodd y Pwyllgor Busnes y cynnig a ganlyn
ar gyfer dadl ar 12 Rhagfyr:
NNDM6860
Jane Hutt
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1. Yn nodi
adroddiad Ysgol Fusnes Caerdydd, ‘Y Cyflog Byw - Profiad Cyflogwyr’.
2. Yn
croesawu’r camau a gymerwyd gan 174 o gyflogwyr ar draws y sector cyhoeddus, y
sector preifat a’r trydydd sector yng Nghymru i dalu’r cyflog byw go iawn i’w
cyflogeion.
3. Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i:
a) nodi
mesurau i gefnogi rhagor o gyflogwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat
a’r trydydd sector i fabwysiadu’r cyflog byw go iawn a dod yn gyflogwyr cyflog
byw go iawn achrededig; ac
b)
Ystyried cryfhau’r Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi
mewn perthynas â’r cyflog byw go iawn.
Y Cyflog Byw - Profiad
Cyflogwyr
Y Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Moesegol mewn Cadwyni Cyflenwi
Cefnogwyr:
Rhun ap
Iorwerth
Dawn
Bowden
Jayne
Bryant
Hefin
David
Mike
Hedges
Helen Mary
Jones
Julie
Morgan
Rhianon
Passmore
David Rees
Mick
Antoniw
John
Griffiths
Vikki
Howells
Mark
Isherwood
Jenny
Rathbone
·
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gynnal y Ddadl
Aelod Unigol nesaf yn y flwyddyn newydd.