Cyfarfodydd
P-05-717 Sefydlu Hawliau Mynediad Cyhoeddus Statudol i Dir a Dŵr Mewndirol at Ddibenion Hamdden a Dibenion Eraill.
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 25/06/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
- Gweddarllediad ar gyfer 25/06/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 25/06/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
6 P-05-717 Sefydlu hawliau mynediad statudol cyhoeddus i dir a dŵr mewndirol at ddibenion hamdden a dibenion eraill.
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 6 PDF 49 KB Gweld fel HTML (6/1) 12 KB
- 12.06.19 Gohebiaeth – Y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 6 PDF 273 KB
- 19.06.19 Gohebiaeth – Deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 6 PDF 675 KB
Cofnodion:
Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth bellach gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol a'r
deisebydd. Daeth y Pwyllgor i'r casgliad nad oes llawer pellach y gellir ei
gyflawni ar hyn o bryd yng ngoleuni natur faith y dadleuon sy'n ymwneud â
mynediad at ddŵr mewndirol, a'r dull gweithredu a gynigiwyd gan y Dirprwy
Weinidog yn dilyn yr ymarfer ymgynghori a gynhaliwyd y llynedd. Felly, cytunodd
y Pwyllgor i gau'r ddeiseb.
Cyfarfod: 07/05/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 07/05/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 07/05/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
3 P-05-717 Sefydlu Hawliau Mynediad Cyhoeddus Statudol i Dir a Dŵr Mewndirol at Ddibenion Hamdden a Dibenion Eraill
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 49 KB Gweld fel HTML (3/1) 12 KB
- 04.04.19 Datganiad gan y Gweinidog – Hannah Blythyn AC, Y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Eitem 3 PDF 212 KB Gweld fel HTML (3/2) 33 KB
- 25.04.19Gohebiaeth – Deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 770 KB
Cofnodion:
Trafododd
y Pwyllgor ddatganiad ysgrifenedig gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth
Leol a gyhoeddwyd ar 4 Ebrill, a chytunodd i rannu sylwadau diweddaraf y
deisebwyr gyda'r Dirprwy Weinidog i ofyn am ei barn ar y cynnwys, a gofyn am
fwy o fanylion am fwriad Llywodraeth Cymru i ddatrys materion yn ymwneud â
mynediad i ddyfroedd mewndirol yn dilyn ei datganiad ysgrifenedig.
Cyfarfod: 25/09/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 25/09/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 25/09/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
3 P-05-717 Sefydlu Hawliau Mynediad Cyhoeddus Statudol i Dir a Dŵr Mewndirol at Ddibenion Hamdden a Dibenion Eraill
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 30 KB Gweld fel HTML (3/1) 9 KB
- 24.08.18 Gohebiaeth – Gweinidog yr Amgylchedd at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 191 KB
- 18.09.18 Gohebiaeth – Deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 1 MB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Weinidog
yr Amgylchedd a'r deisebydd a chytunodd i aros am ymateb y Gweinidog i'r
ymgynghoriad diweddar ar Reoli Cynaliadwy ar Adnoddau Naturiol, a rhagor o
fanylion am ei dull arfaethedig o gael mynediad at ddiwygio, yn ddiweddarach yn
y flwyddyn.
Cyfarfod: 17/07/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 17/07/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 17/07/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
3 P-05-717 Sefydlu Hawliau Mynediad Statudol Cyhoeddus i Dir a Dŵr Mewndirol at Ddibenion Hamdden a Dibenion eraill
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 49 KB Gweld fel HTML (3/1) 12 KB
- 19.06.18 Datganiad ysgrifenedig - Gweinidog yr Amgylchedd, Eitem 3 PDF 89 KB Gweld fel HTML (3/2) 20 KB
- 11.07.18 Gohebiaeth – Deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig) , Eitem 3 PDF 736 KB
Cofnodion:
Trafododd
y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru, ynghyd â sylwadau
ychwanegol gan y deisebwyr, a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd
i ofyn, ymhellach i'w datganiad ysgrifenedig ar 19 Mehefin, am ragor o fanylion
am y canlynol:
·
yr ystyriaeth a roddwyd gan Lywodraeth Cymru i opsiynau ar gyfer diwygio
deddfwriaeth mynediad yn sgil yr ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad ar Reoli
Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy; a'r
·
trafodaethau sy'n cael eu hwyluso â'r Fforwm Mynediad Cenedlaethol.
Cyfarfod: 04/04/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
3 P-05-717 Sefydlu Hawliau Mynediad Cyhoeddus Statudol i Dir a Dŵr Mewndirol at Ddibenion Hamdden a Dibenion Eraill.
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 48 KB Gweld fel HTML (3/1) 11 KB
- 09.03.17 Gohebiaeth – gan y Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 215 KB
- 29.03.17 Gohebiaeth – gan y deisebydd at y Pwyllgor 2 (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 631 KB
- 29.03.17 Gohebiaeth – gan y deisebydd at y Pwyllgor 1 (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 361 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd
ar y camau a ganlyn:
·
anfon sylwadau'r deisebydd at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a
Materion Gwledig; ac
·
aros am fanylion pellach ar y cynigion ar gyfer diwygio sy'n cael eu
datblygu gan Lywodraeth Cymru.
Cyfarfod: 14/02/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
3 P-05-717 Sefydlu hawliau mynediad cyhoeddus statudol i dir a dŵr mewndirol at ddibenion hamdden a dibenion eraill
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 48 KB Gweld fel HTML (3/1) 11 KB
- 13.12.16 Gohebiaeth – gan y Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 79 KB
- 08.02.17 Gohebiaeth – gan y deisebydd at y Pwyllgor (1) (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 641 KB
- 08.02.17 Gohebiaeth – gan y deisebydd at y Pwyllgor (2) (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 641 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu
at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, yn dilyn ei
datganiad ar 13 Chwefror, i ofyn iddi egluro a fydd yr ymgynghoriad arfaethedig
yn cynnwys yr opsiwn i sefydlu hawl mynediad cyhoeddus statudol i dir a
dŵr mewndirol, ac i holi am yr amserlen gysylltiedig.
Cyfarfod: 15/11/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)
2 P-05-717 Sefydlu Hawliau Mynediad Statudol Cyhoeddus i Dir a Dŵr Mewndirol at Ddibenion Hamdden a Dibenion eraill
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 2 PDF 25 KB Gweld fel HTML (2/1) 7 KB
- Briff Ymchwil, Eitem 2 PDF 65 KB Gweld fel HTML (2/2) 61 KB
- 19.10.16 Gohebiaeth – gan y Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 2 PDF 168 KB
- 08.11.16 Gohebiaeth – gan y deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 2 PDF 406 KB
Cofnodion:
Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y
Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig er mwyn rhannu'r sylwadau a wnaed
yn ddiweddar gan y deisebydd, ac er mwyn gofyn am gael gwybod pan fydd cwmpas
ac amserlen ar gyfer datblygu cynigion diwygio yn cael eu cwblhau y flwyddyn
nesaf.