Cyfarfodydd
P-05-721 Deiseb Terfyn Cyflymder Penegoes
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 25/09/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 25/09/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 25/09/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
3 P-05-721 Deiseb Terfyn Cyflymder Penegoes
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 38 KB Gweld fel HTML (3/1) 6 KB
- 19.07.18 Gohebiaeth – Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth at y Cadeirydd, Eitem 3 PDF 33 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â
deisebau P-05-767 a P-05-792 a chytunodd i gau'r deisebau yn sgil y sicrwydd a
gafwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth y bydd y
deisebau a barn cymunedau lleol yn cael eu hystyried yn ystod yr Adolygiad
Terfyn Cyflymder parhaus, a'r posibilrwydd na allai'r Pwyllgor Deisebau gymryd
llawer o gamau pendant eraill.
Cyfarfod: 15/05/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 15/05/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 15/05/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
3 P-05-721 Deiseb Terfyn Cyflymder Penegoes
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 100 KB Gweld fel HTML (3/1) 6 KB
- 16.04.18 Gohebiaeth – Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth at y Cadeirydd (Saesneg yn unig) , Eitem 3 PDF 43 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon ynghyd â
P-05-767 Cefnffordd yr A487 Trwy Dre Taliesin a P-05-792 Deiseb i ymestyn y
terfyn cyflymder 40mya ym Mlaenporth a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y
Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn am y canlynol:
- manylion pellach am gynnydd yr Adolygiad
o Derfyn Cyflymder hyd yma, yr egwyddorion sy'n sail iddo a'r meini prawf
asesu a ddefnyddiwyd; ac
- enghreifftiau ymarferol o leoedd a
adolygwyd yn ystod 2018 hyd yma, a beth oedd y canlyniad ym mhob achos.
Cyfarfod: 13/03/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 13/03/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 13/03/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
3 P-05-721 Deiseb Terfyn Cyflymder Penegoes
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 100 KB Gweld fel HTML (3/1) 6 KB
- 13.02.18 Gohebiaeth - Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth at y Cadeirydd, Eitem 3 PDF 47 KB
Cofnodion:
Cytunodd y
Pwyllgor eisoes i grwpio'r ddeiseb hon i'w thrafod gyda P-05-767 Cefnffordd yr A487 Trwy
Dre Taliesin: Angen Brys am Fesurau Effeithiol i Arafu Traffig a P-05-792 Deiseb i ymestyn y terfyn
cyflymder 40mya ym Mlaenporth.
Trafododd yr
Aelodau yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth
ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd ar gyfer P-05-767 a chytunodd i
ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn a fyddai'n ystyried datblygu
rhaglen Adolygiad Terfyn Cyflymder a sicrhau ei fod ar gael yn gyhoeddus, er
mwyn ymateb i bryderon am ddiffyg natur agored gyda'r broses.
Cyfarfod: 09/01/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 09/01/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 09/01/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
3 P-05-721 Deiseb terfyn cyflymder Penegoes
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 100 KB Gweld fel HTML (3/1) 6 KB
- 14.11.17 Gohebiaeth - Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 17 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a
Seilwaith a chytunodd i ymateb yn ysgrifenedig i ofyn, o gofio bod yr adolygiad
o derfynau cyflymder dros dair blynedd yn cynnwys dros 600 o safleoedd, sut y
mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu blaenoriaethu gwaith yr adolygiad hwnnw.
Cyfarfod: 17/10/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
3 P-05-721 Deiseb terfyn cyflymder Penegoes
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb yng ngoleuni cais y deisebwyr am ddiweddariad, a chytunodd i
ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith i ofyn am ragor
o fanylion am yr amserlenni ar gyfer yr adolygiad terfyn cyflymder.
Cyfarfod: 09/05/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
3 P-05-721 Deiseb Terfyn Cyflymder Penegoes
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 100 KB Gweld fel HTML (3/1) 6 KB
- 20.04.17 Gohebiaeth - Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith at y Cadeirydd, Eitem 3 PDF 103 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ddisgwyl am
ganlyniad yr Adolygiad Terfyn Cyflymder sydd i gychwyn yn haf 2017.
Cyfarfod: 21/03/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
3 P-05-721 Deiseb Terfyn Cyflymder Penegoes
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 100 KB Gweld fel HTML (3/1) 6 KB
- 28.02.17 Gohebiaeth - Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith at y Cadeirydd, Eitem 3 PDF 171 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd i
ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith i ofyn am y
wybodaeth ddiweddaraf ynghylch canlyniad trafodaethau'r deisebwyr â swyddogion
Llywodraeth Cymru.
Cyfarfod: 17/01/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
3 P-05-721 Deiseb Terfyn Cyflymder Penegoes
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 100 KB Gweld fel HTML (3/1) 6 KB
- Gohebiaeth – gan y deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 114 KB Gweld fel HTML (3/2) 35 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i rannu
canlyniadau'r cynllun monitro traffig gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr
Economi a'r Seilwaith, gan ofyn am ei sylwadau a gofyn a allai'r wybodaeth hon
gael ei hystyried fel rhan o'r gwaith parhaus ar ddiogelwch y darn hwn o'r
ffordd.
Cyfarfod: 13/12/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)
2 P-05-721 Deiseb Terfyn Cyflymder Penegoes
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 2 PDF 23 KB Gweld fel HTML (2/1) 6 KB
- Briff Ymchwil, Eitem 2 PDF 2 MB Gweld fel HTML (2/2) 43 KB
- 05.11.16 Gohebiaeth – gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 2 PDF 99 KB
- 07.12.16 Gohebiaeth – gan y deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 2 PDF 12 KB Gweld fel HTML (2/4) 4 KB
Cofnodion:
Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am ganlyniadau'r
cynllun monitro traffig, yn ogystal â sylwadau'r deisebydd bryd hynny, cyn
penderfynu a ddylid cymryd camau gweithredu pellach.