Cyfarfodydd

Gofal heb ei drefnu

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 28/11/2016 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Gofal heb ei drefnu: Gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Gymru (21 Tachwedd 2016)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 07/11/2016 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Gofal heb ei drefnu: Adroddiad cynnydd gan Lywodraeth Cymru.

Briff Ymchwil

PAC(5)-06-16 Papur 2

 

Dr Andrew Goodall - Cyfarwyddwr Cyffredinol/Prif Weithredwr GIG

Simon Dean - Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru

Albert Heaney - Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio, Llywodraeth Cymru

Jo Jordan, Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl, Llywodraethiant a Gwasanaethau Corfforaethol y GIG, Llywodraeth Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf a gafwyd gan Lywodraeth Cymru, gan holi Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol / Prif Weithredwr y GIG; Simon Dean, Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru; Albert Heaney, Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio, Llywodraeth Cymru; a Jo Jordan, Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl, Llywodraethiant a Gwasanaethau Corfforaethol y GIG, Llywodraeth Cymru am y cynnydd a wnaed.

4.2 Cytunodd Dr Goodall i:

·       anfon disgrifiad o'r cyflyrau clinigol a gaiff eu cynnwys yn y categorïau coch, ambr a gwyrdd o ran amseroedd ymateb ar gyfer galwadau ambiwlans;

·       anfon ffigurau pellach o ran amseroedd ymateb ar gyfer galwadau ambr, a manylion ar y modd y mae Llywodraeth Cymru yn monitro amseroedd ymateb ar gyfer y galwadau hyn;

·       ymchwilio i sut y mae byrddau iechyd yn dygymod â gwasanaethu y tu allan i oriau meddygon teulu ac adrodd yn ôl ar hynny.