Cyfarfodydd
NDM6121 - Dadl Plaid Cymru
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 19/10/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Dadl Plaid Cymru
NDM6121 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi pwysigrwydd llywodraeth leol dda wrth gyfrannu
at yr economi, y gwasanaeth iechyd a chanlyniadau addysgol lleol.
2. Yn gresynu bod gormod o wasanaethau cyhoeddus wedi bod
yn "wan ac anghyson", ac wedi'u nodweddu gan "ddiffyg
uchelgais", fel y mae Comisiwn Williams yn ei ddisgrifio.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
(a) cynyddu atebolrwydd llywodraeth leol drwy ddiwygio
trefniadau etholiadol a gostwng yr oedran pleidleisio i 16;
(b) archwilio'r ffordd y gellir diwygio cyllid
llywodraeth leol i sicrhau system decach a mwy cynaliadwy;
(c) cyflwyno cyfres o gyfraddau, telerau ac amodau cyflog
a gaiff eu penderfynu'n genedlaethol, i reoli cyflogau swyddogion uwch a phrif
swyddogion drwy fframwaith cenedlaethol; a
(d) sefydlu awdurdodau cyfunol rhanbarthol fel rhan o
ymdrech Llywodraeth Cymru i ddiwygio llywodraeth leol ar gyfer gwella
cydweithrediad rhanbarthol rhwng awdurdodau lleol presennol.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1. Paul Davies (Preseli Sir
Benfro):
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
(a) archwilio'r ffordd y caiff llywodraeth leol ei chyllido, er mwyn sicrhau
bod awdurdodau gwledig yn cael cyllid teg sy'n gyfartal i bob cymuned ledled
Cymru; a
(b) gwella tryloywder o ran cyllidebu uwch staff awdurdodau lleol er mwyn
sicrhau bod cyflogau swyddogion gweithredol yn gynaliadwy ac yn gosteffeithiol
i dalwyr y dreth gyngor, a heb fod ar draul darparu gwasanaethau lleol.
[Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei
ddad-ddethol]
Gwelliant 2. Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
(a) cynyddu atebolrwydd llywodraeth leol drwy'r
trefniadau etholiadol a gostwng yr oedran pleidleisio i 16;
(b) archwilio'r ffordd y gellir diwygio cyllid llywodraeth
leol i sicrhau system decach a mwy cynaliadwy;
(c) parhau i archwilio'r achos o blaid cyflwyno cyfres o
gyfraddau, telerau ac amodau cyflog a gaiff eu penderfynu'n genedlaethol, i
reoli cyflogau uwch-swyddogion a phrif swyddogion drwy fframwaith cenedlaethol;
a
(d) sefydlu trefniadau rhanbarthol fel rhan o ddiwygiadau
Llywodraeth Cymru i lywodraeth leol er mwyn gwella cydweithredu rhanbarthol
rhwng yr awdurdodau lleol presennol.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 15.27
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6121 Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn):
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi pwysigrwydd llywodraeth leol dda wrth gyfrannu at yr economi, y
gwasanaeth iechyd a chanlyniadau addysgol lleol.
2.
Yn gresynu bod gormod o wasanaethau cyhoeddus wedi bod yn "wan ac
anghyson", ac wedi'u nodweddu gan "ddiffyg uchelgais", fel y mae
Comisiwn Williams yn ei ddisgrifio.
3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
(a)
cynyddu atebolrwydd llywodraeth leol drwy ddiwygio trefniadau etholiadol a
gostwng yr oedran pleidleisio i 16;
(b)
archwilio'r ffordd y gellir diwygio cyllid llywodraeth leol i sicrhau system
decach a mwy cynaliadwy;
(c)
cyflwyno cyfres o gyfraddau, telerau ac amodau cyflog a gaiff eu penderfynu'n
genedlaethol, i reoli cyflogau swyddogion uwch a phrif swyddogion drwy
fframwaith cenedlaethol; a
(d)
sefydlu awdurdodau cyfunol rhanbarthol fel rhan o ymdrech Llywodraeth Cymru i
ddiwygio llywodraeth leol ar gyfer gwella cydweithrediad rhanbarthol rhwng
awdurdodau lleol presennol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
7 |
0 |
44 |
51 |
Gwrthodwyd
y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y
Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir
Benfro):
Dileu
pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i:
(a)
archwilio'r ffordd y caiff llywodraeth leol ei chyllido, er mwyn sicrhau bod
awdurdodau gwledig yn cael cyllid teg sy'n gyfartal i bob cymuned ledled Cymru;
a
(b)
gwella tryloywder o ran cyllidebu uwch staff awdurdodau lleol er mwyn
sicrhau bod cyflogau swyddogion gweithredol yn gynaliadwy ac yn gosteffeithiol
i dalwyr y dreth gyngor, a heb fod ar draul darparu gwasanaethau lleol.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
34 |
51 |
Gwrthodwyd
gwelliant 1.
Gwelliant 2. Jane Hutt (Vale of
Glamorgan):
Dileu
pwynt 3 a rhoi yn ei le:
3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
(a)
cynyddu atebolrwydd llywodraeth leol drwy'r trefniadau etholiadol a gostwng yr
oedran pleidleisio i 16;
(b)
archwilio'r ffordd y gellir diwygio cyllid llywodraeth leol i sicrhau system
decach a mwy cynaliadwy;
(c)
parhau i archwilio'r achos o blaid cyflwyno cyfres o gyfraddau, telerau ac
amodau cyflog a gaiff eu penderfynu'n genedlaethol, i reoli cyflogau
uwch-swyddogion a phrif swyddogion drwy fframwaith cenedlaethol; a
(d)
sefydlu trefniadau rhanbarthol fel rhan o ddiwygiadau Llywodraeth Cymru i
lywodraeth leol er mwyn gwella cydweithredu rhanbarthol rhwng yr awdurdodau lleol
presennol.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
11 |
13 |
51 |
Derbyniwyd
gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i
ddiwygio:
NDM6121 Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn):
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi pwysigrwydd llywodraeth leol dda wrth gyfrannu at yr economi, y
gwasanaeth iechyd a chanlyniadau addysgol lleol.
2.
Yn gresynu bod gormod o wasanaethau cyhoeddus wedi bod yn "wan ac
anghyson", ac wedi'u nodweddu gan "ddiffyg uchelgais", fel y mae
Comisiwn Williams yn ei ddisgrifio.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
(a) cynyddu atebolrwydd llywodraeth leol drwy'r
trefniadau etholiadol a gostwng yr oedran pleidleisio i 16;
(b) archwilio'r ffordd y gellir diwygio cyllid
llywodraeth leol i sicrhau system decach a mwy cynaliadwy;
(c) parhau i archwilio'r achos o blaid cyflwyno cyfres o
gyfraddau, telerau ac amodau cyflog a gaiff eu penderfynu'n genedlaethol, i
reoli cyflogau uwch-swyddogion a phrif swyddogion drwy fframwaith cenedlaethol;
a
(d) sefydlu trefniadau rhanbarthol fel rhan o ddiwygiadau
Llywodraeth Cymru i lywodraeth leol er mwyn gwella cydweithredu rhanbarthol
rhwng yr awdurdodau lleol presennol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
34 |
11 |
6 |
51 |
Derbyniwyd
y cynnig wedi’i ddiwygio.