Cyfarfodydd
Adolygiad o Gwestiynau Llafar y Cynulliad
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 27/11/2018 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Adolygiad o Gwestiynau Llafar y Cynulliad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
Cafwyd
cefnogaeth gyffredinol ymysg Rheolwyr Busnes i Arweinwyr a Llefarwyr gadw eu
cwestiynau yn fyr, ond llai am osod terfyn amser cyfyngedig i ofyn eu tri
chwestiwn. Roedd cefnogaeth hefyd ymhlith Rheolwyr Busnes i atgoffa Llefarwyr
mai pwrpas cael tri chwestiwn yw eu bod yn datblygu thema, yn hytrach na gofyn
tri chwestiwn gwahanol.
Dywedodd
Rheolwyr Busnes y byddent yn cefnogi'r Llywydd i gymryd camau i gadw
cwestiynau'n fyr. Bydd y Llywydd yn ystyried yr opsiynau ac yn cyflwyno nodyn
ar ddechrau'r tymor nesaf.