Cyfarfodydd

Craffu ar yr iaith Gymraeg

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 25/02/2021 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Craffu ar waith y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan:

 

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg

 

Bethan Webb, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran y Gymraeg

 

Jeremy Evas, Pennaeth Prosiect 2050

 


Cyfarfod: 26/11/2020 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Gohebiaeth â Llywodraeth Cymru ynglŷn â dysgu Cymraeg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau y papur.

 


Cyfarfod: 08/10/2020 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Llythyr gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau y papur, gan gytuno i drafod y materion a godwyd â swyddogion Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru.

 


Cyfarfod: 01/10/2020 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar ymgynghoriad y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd yr aelodau y papur a chytuno i gymryd tystiolaeth ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol a'r Gymraeg.

 


Cyfarfod: 01/10/2020 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Craffu blynyddol ar waith Comisiynydd y Gymraeg: yr Adroddiad Blynyddol

Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg

Dyfan Sion, Cyfarwyddwr Strategol, Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd yr aelodau yr Adroddiad Blynyddol gydag Aled Roberts, Dyfan Sion a Gwenith Price.

 


Cyfarfod: 01/10/2020 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

Craffu blynyddol ar waith Comisiynydd y Gymraeg: Adroddiad Sicrwydd

Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg

Dyfan Sion, Cyfarwyddwr Strategol, Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg

 

 

 

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 05/03/2020 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd (Eitem 9.)

9. Ymchwiliad i'r defnydd o’r Gymraeg yn y byd digidol: cytuno ar gylch gorchwyl

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 18/09/2019 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Craffu blynyddol ar waith Comisiynydd y Gymraeg

Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg

Gwenith Price, Cyfarwyddwr Strategol a Dirprwy Gomisiynydd

Dyfan Sion, Cyfarwyddwr Strategol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Ymatebodd Aled Roberts i gwestiynau gan y Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 10/07/2019 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Sesiwn graffu gyffredinol gyda’r Ysgrifennydd Parhaol a Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol

Shan Morgan, Ysgrifennydd Parhaol

Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol

Dylan Hughes, Prif Gwnsler Deddfwriaethol – Llywodraeth Cymru

Bethan Webb, Dirprwy Gyfarwyddwr y Gymraeg - Llywodraeth Cymru

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Am 10.00am, nododd y Pwyllgor funud o dawelwch er cof am y ddau unigolyn a gollodd eu bywydau yn y digwyddiad rheilffyrdd trasig ym Margam yr wythnos diwethaf.

2.1 Atebodd yr Ysgrifennydd Parhaol a Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

2.2 Cytunodd Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol i ddarparu manylion ynghylch pa wyliau a gafodd arian eleni.

2.3 Cytunodd Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol hefyd i ddarparu rhagor o fanylion am y rhaglen ddigidol e-sgol.

2.4 Cytunodd Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol i ddarparu gwybodaeth am gynllun Camau a chyflwyno cynlluniau meithrin.

2.5 Cytunodd yr Ysgrifennydd Parhaol a Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol i roi gwybod i ni am ddatblygiad y strategaeth Iaith Gymraeg newydd.

2.6 Cytunodd yr Ysgrifennydd Parhaol a Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol i ddarparu manylion am y cwynion a gafwyd ynghylch Safonau’r Gymraeg.

 

 


Cyfarfod: 06/03/2019 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

8 Llythyr gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ynghylch rheoliadau’r Gymraeg arfaethedig a gofal iechyd

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 12/12/2018 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Rhagor o wybodaeth gan Gomisiynydd y Gymraeg

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 04/10/2018 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Gwaith craffu blynyddol ar Gomisiynydd y Gymraeg

Meri Huws, Gomisiynydd y Gymraeg

Dyfan Sion, Cyfarwyddwr Strategol

Gwenith Price, Cyfarwyddwr Strategol

 

Lawrlwythiadau:

 

Cymraeg Adroddiad Blynyddol 2017-18

 

‘Mesur o Lwyddiant’ – Adroddiad Sicrwydd 2017-8

 

Crynodeb o ‘Mesur o Lwyddiant’ – Adroddiad Sicrwydd 2017-18

 

Dogfennau ategol:

  • Briff Ymchwil: Adroddiad Blynyddol
  • Briff Ymchwil: Adroddiad Sicrwydd

Cofnodion:

2.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

2.2 Cytunodd Gwenith Price i roi i'r Pwyllgor enwau'r ddau fwrdd iechyd sy’n cymryd 15 diwrnod ar gyfartaledd i ateb negeseuon e-bost Cymraeg, fel y cyfeiriwyd atynt yn Adroddiad Sicrwydd Comisiynydd y Gymraeg 2017-18.

 


Cyfarfod: 20/06/2018 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Gohebiaeth gan Gomisiynydd y Gymraeg

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 22/03/2018 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Gohebiaeth gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 18/01/2018 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol: Craffu cyffredinol

Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr

Dona Lewis, Dirprwy Brif Weithredwr/Cyfarwyddwr Systemau

Helen Prosser, Cyfarwyddwr Strategol

Dogfennau ategol:

  • Briff Ymchwil

Cofnodion:

2.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan yr Aelodau.

 

2.2 Gofynnodd y Cadeirydd am dystiolaeth ychwanegol i gael ei hanfon at y pwyllgor.


Cyfarfod: 18/01/2018 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Craffu ar yr iaith Gymraeg: Tystiolaeth ychwanegol gan Gomisiynydd y Gymraeg

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 06/12/2017 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Comisiynydd y Gymraeg: Nodyn briffio am ddarpariaeth y blynyddoedd cynnar a gofal plant cyfrwng Cymraeg

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 26/10/2017 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Craffu cyffredinol: Comisiynydd y Gymraeg - Adroddiad Sicrwydd

Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg

Gwenith Price, Cyfarwyddwr Strategol

Guto Dafydd, Uwch Swyddog Cydymffurfio

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.


Cyfarfod: 26/10/2017 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Craffu cyffredinol: Comisiynydd y Gymraeg - Adroddiad Blynyddol

Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg

Dyfan Sion, Cyfarwyddwr Strategol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan yr Aelodau.

2.2 Gofynnodd Sian Gwenllian am bapur gan Gomisiynydd y Gymraeg ynghylch ei safbwynt am y cynnydd o ran cael dau gorff; un i ganolbwyntio ar reoleiddio a'r llall i ganolbwyntio ar faterion strategol.

2.3 Pwysleisiodd Meri Huws yr angen i graffu ar ddefnydd y Gymraeg yn y blynyddoedd cynnar ac mewn prentisiaethau. Cyfeiriodd Dyfan Sion at friff a gâi ei gyhoeddi, y gellid ei rannu â'r Pwyllgor yn cynnwys y wybodaeth hon.

2.4 Gofynnodd Lee Waters am gadarnhad ynghylch nifer y cwynion unigol a gafwyd. Dywedodd Meri Huws y byddai'n rhoi'r wybodaeth hon i'r Pwyllgor.

 

 


Cyfarfod: 24/05/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Llythyr gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 10/05/2017 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Ymatebion i'r ymgynghoriad: Cynulliad Cenedlaethol Cymru – y Cynllun Ieithoedd Swyddogol drafft

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 02/03/2017 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Llythyr at Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 02/03/2017 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 15/02/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Llythyr gan Gomisiynydd y Gymraeg at Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 15/02/2017 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Llythyr gan Gomisiynydd y Gymraeg at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith: Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 14/12/2016 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

Comisiynydd y Gymraeg: Trafod Adroddiad Blynyddol 2014/15 a'r Adroddiad 5 mlynedd

Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg

Dyfan Sion, Cyfarwyddwr Polisi ac Ymchwil

Huw Gapper, Uwch Swyddog Polisi ac Ymchwil

 

Gellir gweld adroddiadau Comisiynydd y Gymraeg isod:

Adroddiad 5 mlynedd

Adroddiad Blynyddol 2015-16

 

Cofnodion:

4.1 Atebodd Comisiynydd y Gymraeg gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 06/10/2016 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Ymateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Craffu ar yr Iaith Gymraeg


Cyfarfod: 14/09/2016 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Craffu ar waith Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: Craffu ar yr iaith Gymraeg