Cyfarfodydd

Ymchwiliad i recriwtio meddygol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 11/01/2018 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Ymchwiliad i recriwtio meddygol – llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon at Gadeirydd y Pwyllgor ynghylch Cymhellion Hyfforddi Meddygon Teulu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.6a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon at Gadeirydd y Pwyllgor ynghylch Cymhellion Hyfforddi Meddygon Teulu.

 


Cyfarfod: 11/10/2017 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ynghylch Addysg a Gwella Iechyd Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.2a Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon mewn perthynas ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru.

 


Cyfarfod: 21/09/2017 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Llythyr gan Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol ar ôl lansio'r adroddiad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.4a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol mewn perthynas â lansio adroddiad y Pwyllgor ar recriwtio meddygol.

 


Cyfarfod: 20/09/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar recriwtio meddygol

NDM6502 Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar yr ymchwiliad i recriwtio meddygol, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Mehefin 2017.

Nodyn: Gosodwyd ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Medi 2017.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.49

NDM6502 Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar yr ymchwiliad i recriwtio meddygol.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 07/06/2017 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Ymchwiliad i recriwtio meddygol - trafod yr adroddiad drafft (2)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft, yn amodol ar fân ddiwygiadau.

 


Cyfarfod: 25/05/2017 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

8 Ymchwiliad i recriwtio meddygol - trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Bu'r Pwyllgor yn ystyried drafft cyntaf yr adroddiad ar ei ymchwiliad i recriwtio meddygol.

 


Cyfarfod: 17/05/2017 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Adroddiad gan Sian Gwenllian AC ar ‘Ddelio â’r Argyfwng – ysgol feddygol newydd i Gymru’

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1a Nododd y Pwyllgor yr adroddiad gan Sian Gwenllian AC.

 


Cyfarfod: 15/03/2017 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Ymchwiliad i recriwtio meddygol – trafod y dystiolaeth a'r materion allweddol sy'n deillio o'r gwaith craffu

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol a ddaeth i'r amlwg yn ystod gwaith craffu ei ymchwiliad i recriwtio meddygol cyn iddo baratoi ei adroddiad drafft.

 


Cyfarfod: 15/03/2017 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i recriwtio meddygol - sesiwn dystiolaeth 10 - Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol

Julie Rogers, Cyfarwyddwr y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, y Prif Swyddog Meddygol a Chyfarwyddwr y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol.

2.2 Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i roi rhifau i'r Pwyllgor o'r cylch cyntaf o leoedd hyfforddi ar gyfer meddygon teulu.

 


Cyfarfod: 09/03/2017 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Ymchwiliad i recriwtio meddygol - gwybodaeth ychwanegol gan BMA Cymru Wales

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan BMA Cymru Wales.

 


Cyfarfod: 09/03/2017 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Ymchwiliad i recriwtio meddygol - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a roddwyd yn ystod eitem 2 y cyfarfod.

 


Cyfarfod: 09/03/2017 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i recriwtio meddygol - sesiwn dystiolaeth 10 - ysgolion meddygol Cymru

Yr Athro Keith Lloyd, Deon Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe

Dr Stephen Riley, Deon Ysgol Feddygol Prifysgol Caerdydd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe ac Ysgol Feddygol Prifysgol Caerdydd.

 


Cyfarfod: 16/02/2017 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Ymchwiliad i recriwtio meddygol - Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitemau 2, 3, 4 a 5.

 


Cyfarfod: 16/02/2017 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Ymchwiliad i recriwtio meddygol - sesiwn dystiolaeth 9 – Deoniaeth Cymru

Yr Athro Peter Donnelly, Deon Ôl-raddedig Dros Dro

Dr Phil Matthews, Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygaeth Teulu / Pennaeth yr Ysgol Hyfforddiant Arbenigol ar gyfer Meddygaeth Teulu

Dr Helen Baker, Cyfarwyddwr Cyswllt (Gofal Eilaidd)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Ddeoniaeth Cymru.

 


Cyfarfod: 16/02/2017 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Ymchwiliad i recriwtio meddygol - sesiwn dystiolaeth 8 – Byrddau Iechyd Lleol

Yr Athro Peter Barrett-Lee, Cyfarwyddwr Meddygol, Ymddiriedolaeth GIG Felindre

Martin Jones, Cyfarwyddwr Gweithredol y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr

Dr Evan Moore, Cyfarwyddwr Meddygol, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr

Sharon Vickery, Pennaeth Uned Gyflawni a Staffio Meddygol Adnoddau Dynol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Dr Philip Kloer, Cyfarwyddwr Meddygol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Ymddiriedolaeth GIG Felindre, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

 

 


Cyfarfod: 16/02/2017 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Ymchwiliad i recriwtio meddygol - sesiwn dystiolaeth 7 - Coleg Brenhinol y Seiciatryddion a Choleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant

Yr Athro Keith Lloyd, Coleg Brenhinol y Seiciatryddion

Dr M Sakheer Kunnath, Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Goleg Brenhinol y Seiciatryddion a Choleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant.

 


Cyfarfod: 16/02/2017 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i recriwtio meddygol - sesiwn dystiolaeth 6 - Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys a Choleg Brenhinol y Radiolegwyr

Dr Amanda Farrow, Pennaeth yr Ysgol, Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys Cymru

Dr Robin Roop, Is-lywydd, Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys Cymru

Dr Martin Rolles, Cadeirydd y Pwyllgor Sefydlog Cymreig, Coleg Brenhinol y Radiolegwyr

Dr Toby Wells, Ysgrifennydd, Coleg Brenhinol y Radiolegwyr

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o’r Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys a Choleg Brenhinol y Radiolegwyr.

 


Cyfarfod: 08/02/2017 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Ymchwiliad i recriwtio meddygol - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitemau 2, 3 a 4.

 


Cyfarfod: 08/02/2017 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Ymchwiliad i recriwtio meddygol - sesiwn dystiolaeth 4 - Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol a GP Survival

Dr Rebecca Payne, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol

Dr Isolde Shore-Nye, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol

Dr Linda Dykes, Meddyg Ymgynghorol mewn Meddygaeth Achosion Brys, Ysbyty Gwynedd a Meddyg Teulu â Diddordeb Arbennig mewn Geriatreg yn y Gymuned, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (Gorllewin)

Dr Sara Bodey, Partner Meddyg Teulu, Practis Bradley, Bwcle, Sir y Fflint (GP Survival)

Dr Heidi Phillips, Partner Meddyg Teulu, Canolfan Feddygol Fforestfach, Abertawe a Chyfarwyddwr Derbyniadau ar gyfer y rhaglen feddygaeth i raddedigion yn Abertawe (GP Survival)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, GP Survival, a gan Dr Linda Dykes.

 


Cyfarfod: 08/02/2017 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i recriwtio meddygol - sesiwn dystiolaeth 3 - Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA) Cymru Wales a Choleg Brenhinol y Meddygon

Dr Charlotte Jones, Cadeirydd Pwyllgor Meddygon Teulu (Cymru) y BMA

Dr Trevor Pickersgill, Cadeirydd Pwyllgor Meddygon Ymgynghorol Cymru y BMA

Dr Gareth Llewelyn FRCP, is-lywydd Coleg Brenhinol y Meddygon ar gyfer Cymru

Lowri Jackson, uwch gynghorwr polisi a materion cyhoeddus Coleg Brenhinol y Meddygon ar gyfer Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o BMA Cymru a Choleg Brenhinol y Meddygon.

2.2 Cytunodd Dr Jones i ddarparu papur i'r Pwyllgor yn trafod indemniad y goron a Chronfa Risg Cymru.

 

 


Cyfarfod: 08/02/2017 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

Ymchwiliad i recriwtio meddygol - sesiwn dystiolaeth 5 - yr Athro Dean Williams

Yr Athro Dean Williams, Ysgol Gwyddorau Meddygol Bangor

 

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro Williams.

 


Cyfarfod: 02/02/2017 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i recriwtio meddygol - sesiwn dystiolaeth 1 - yr Athro Robin Williams

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro Robin Williams.

 


Cyfarfod: 02/02/2017 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Ymchwiliad i recriwtio meddygol - sesiwn dystiolaeth 2 - Panel hyfforddeion

Dr Llion Davies

Dr Zahid Khan

Dr Abby Parish

Dr Bethan Roberts

Dr Huw Lloyd Williams

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Dr Llion Davies, Dr Zahid Khan, Dr Abby Parish, Dr Bethan Roberts a Dr Huw Lloyd Williams.

 


Cyfarfod: 11/01/2017 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ynghylch sefydlu Addysg Iechyd Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.4a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ynghylch sefydlu Addysg Iechyd Cymru.

 


Cyfarfod: 01/12/2016 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 11)

11 Ymchwiliad i recriwtio meddygol - paratoi i glywed tystiolaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

11.1 Trafododd y Pwyllgor yr ymchwiliad ar recriwtio staff meddygol ymhellach, a chytunodd i estyn gwahoddiad i randdeiliaid fod yn bresennol yn sesiynau casglu tystiolaeth y gwanwyn.

 


Cyfarfod: 13/10/2016 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Ymchwiliad i recriwtio meddygol – Paratoad ar gyfer ymweliad i’r Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Bu’r Pwyllgor yn ymweld ag Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd fel rhan o’i ymchwiliad i recriwtio staff meddygol.