Cyfarfodydd
NDM6115 - Dadl Plaid Cymru
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 12/10/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
- Gweddarllediad ar gyfer 12/10/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 12/10/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl Plaid Cymru
NDM6115
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu bod y rhagfarn tuag at y rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl,
neu sydd wedi cael problemau iechyd meddwl, yn parhau, a'r effaith a gaiff hyn
ar gyflogaeth, incwm a llesiant y rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl.
2. Yn credu y
dylai addysg yn ymwneud ag iechyd meddwl ddechrau pan fo disgyblion yn ifanc ac
y dylai ysgolion gael yr adnoddau i hyrwyddo llesiant ymysg pob disgybl.
3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i:
a) parhau i
fynd i'r afael â rhagfarn a chwilio am bwerau dros gyfraith cyflogaeth er mwyn
gallu cryfhau ffyrdd o ddiogelu pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn y
gwaith; a
b) sicrhau bod
yr holl wasanaethau cyhoeddus yn archwilio ffyrdd y gellir gwella eu harferion
eu hunain i gyfrannu at well iechyd meddwl.
Cyflwynwyd y gwelliannau a
ganlyn:
Gwelliant 1 - Paul Davies
(Preseli Sir Benfro):
Dileu
pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i:
a)
rhoi terfyn ar weithio digyswllt wrth ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl; a
b)
gweithio ar draws y sector cyhoeddus i godi ymwybyddiaeth o faterion iechyd
meddwl, gan hyrwyddo technegau ataliol, fel therapïau siarad ac ymwybyddiaeth
ofalgar.
[Os derbynnir gwelliant 1,
bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol]
Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Yn
is-bwynt 3a, dileu 'a chwilio am bwerau dros gyfraith cyflogaeth er mwyn gallu
cryfhau ffyrdd o ddiogelu pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn y gwaith' a
rhoi yn ei le:
'yn
y gweithle a gweithio gyda chyflogwyr i sicrhau cefnogaeth i bobl sydd â
phroblemau iechyd meddwl yn y gwaith.'
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.06
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6115 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn):
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn gresynu bod y rhagfarn tuag at y rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl, neu
sydd wedi cael problemau iechyd meddwl, yn parhau, a'r effaith a gaiff hyn ar
gyflogaeth, incwm a llesiant y rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl.
2.
Yn credu y dylai addysg yn ymwneud ag iechyd meddwl ddechrau pan fo disgyblion
yn ifanc ac y dylai ysgolion gael yr adnoddau i hyrwyddo llesiant ymysg pob
disgybl.
3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a)
parhau i fynd i'r afael â rhagfarn a chwilio am bwerau dros gyfraith cyflogaeth
er mwyn gallu cryfhau ffyrdd o ddiogelu pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn
y gwaith; a
b)
sicrhau bod yr holl wasanaethau cyhoeddus yn archwilio ffyrdd y gellir gwella
eu harferion eu hunain i gyfrannu at well iechyd meddwl.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
9 |
5 |
37 |
51 |
Gwrthodwyd
y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y
Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir
Benfro):
Dileu
pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i:
a)
rhoi terfyn ar weithio digyswllt wrth ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl; a
b)
gweithio ar draws y sector cyhoeddus i godi ymwybyddiaeth o faterion iechyd
meddwl, gan hyrwyddo technegau ataliol, fel therapïau siarad ac ymwybyddiaeth
ofalgar.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
42 |
0 |
9 |
51 |
Derbyniwyd
gwelliant 1.
Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd
gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i
ddiwygio:
NDM6115 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn):
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn gresynu bod y rhagfarn tuag at y rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl, neu
sydd wedi cael problemau iechyd meddwl, yn parhau, a'r effaith a gaiff hyn ar
gyflogaeth, incwm a llesiant y rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl.
2.
Yn credu y dylai addysg yn ymwneud ag iechyd meddwl ddechrau pan fo disgyblion
yn ifanc ac y dylai ysgolion gael yr adnoddau i hyrwyddo llesiant ymysg pob
disgybl.
3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a)
rhoi terfyn ar weithio digyswllt wrth ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl; a
b)
gweithio ar draws y sector cyhoeddus i godi ymwybyddiaeth o faterion iechyd
meddwl, gan hyrwyddo technegau ataliol, fel therapïau siarad ac ymwybyddiaeth
ofalgar.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
51 |
0 |
0 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.