Cyfarfodydd
Gwaith Presennol - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 07/11/2016 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 8)
Trafodaeth ar adroddiadau cynnydd ar faterion sy'n ymwneud ag iechyd.
Cofnodion:
8.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a ddaeth i law, a chytunwyd ar y
canlynol:
Trefniadau
Llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Nododd yr Aelodau y wybodaeth ddiweddaraf, a'r adolygiad ar y cyd rhwng
Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru sydd i'w gynnal yn
ystod tymor y gwanwyn 2017. Cytunwyd i ailystyried a hoffent archwilio'r
fframwaith ar y trefniadau dwysáu ac ymyrraeth wedi i'r adroddiad dan sylw ddod
i law.
Gofal heb
ei drefnu
Nododd yr Aelodau y wybodaeth ddiweddaraf, a chytunwyd mai'r ffordd orau o
symud y mater hwn yn ei flaen fyddai drwy'r ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y
gaeaf 2016/17, sy'n cael ei gynnal gan y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a
Chwaraeon.
Fframwaith
Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG:
Nododd yr Aelodau y wybodaeth ddiweddaraf, a nodwyd y bydd Archwilydd
Cyffredinol Cymru yn edrych ar sut y mae pob bwrdd iechyd yn mynd i'r afael â
hawliadau ar ôl iddo ddychwelyd o Bowys lle'r oedd yn cynnal adolygiad blynyddol
o fyrddau iechyd.
Adolygiad
o effaith practis preifat ar ddarpariaeth y GIG;
Nododd yr Aelodau y wybodaeth ddiweddaraf, a chytunwyd y byddai'r Cadeirydd
yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch
y cynnydd sy'n cael ei wneud o ran rhoi'r argymhellion a dderbyniwyd o
adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar waith, a gofyn hefyd i gael gwybod
beth yw dyddiad cyhoeddi'r Cylchlythyr Iechyd Cymru diwygiedig a chanllawiau i
gleifion sy'n trosglwyddo o bractis preifat i restrau aros y GIG.
Gwasanaethau
Orthopedig
Cytunodd yr Aelodau i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru
o ran rhoi argymhellion Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar amseroedd
aros y GIG mewn Gofal Dewisol yng Nghymru (a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2015) ar
waith, a byddant yn trafod y wybodaeth ddiweddaraf ynghyd â'r diweddariadau o
ran y gwasanaethau orthopedig.