Cyfarfodydd
NDM6107 Blaenoriaethau’r Llywodraeth a’r Rhaglen Ddeddfwriaethol
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 04/10/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 8)
- Gweddarllediad ar gyfer 04/10/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 04/10/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl: Blaenoriaethau'r Llywodraeth a'r Rhaglen Ddeddfwriaethol
NDM6107 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 11.21(ii):
Yn nodi
blaenoriaethau a rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru.
‘Rhaglen Ddeddfwriaethol 2016-17’
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
1. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu nad yw'r Rhaglen Lywodraethu a'r rhaglen
ddeddfwriaethol yn ennyn yr hyder na'r manylion sydd eu hangen i wella
cyfleoedd bywyd pobl a chymunedau ledled Cymru.
2. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod Rhaglen yr Wrthblaid Plaid Cymru yn nodi
agenda fwy uchelgeisiol a chynhwysfawr i Gymru yn ystod y Pumed Cynulliad.
'Rhaglen
yr Wrthblaid Plaid Cymru'
3. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at ddiffyg mesurau perfformiad yn y Rhaglen
Lywodraethu a fyddai'n galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol a dinasyddion Cymru i
werthuso cynnydd Llywodraeth Cymru o ran blaenoriaethau.
4. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu nad yw'r Rhaglen Lywodraethu yn cyfeirio at y
ffaith bod y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, a methiant
Llywodraeth Cymru i amlinellu'r mesurau y mae'n bwriadu eu cyflwyno i fynd i'r
afael â chanlyniadau'r penderfyniad hwn i Gymru.
5. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y diffyg manylion yn y Rhaglen Lywodraethu
ynghylch y mesurau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno i gyflawni'r
blaenoriaethau a gaiff eu hamlinellu ynddi.
6. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynllunio ei rhaglen
ddeddfwriaethol i sicrhau bod digon o amser yn cael ei neilltuo i graffu ar
filiau gan y Cynulliad Cenedlaethol.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 17.08
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
NDM6107 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 11.21(ii):
Yn nodi blaenoriaethau
a rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu nad yw'r
Rhaglen Lywodraethu a'r rhaglen ddeddfwriaethol yn ennyn yr hyder na'r manylion
sydd eu hangen i wella cyfleoedd bywyd pobl a chymunedau ledled Cymru.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
22 |
0 |
29 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod Rhaglen
yr Wrthblaid Plaid Cymru yn nodi agenda fwy uchelgeisiol a chynhwysfawr i Gymru
yn ystod y Pumed Cynulliad.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
39 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at
ddiffyg mesurau perfformiad yn y Rhaglen Lywodraethu a fyddai'n galluogi'r
Cynulliad Cenedlaethol a dinasyddion Cymru i werthuso cynnydd Llywodraeth Cymru
o ran blaenoriaethau.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
22 |
0 |
29 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu nad yw'r
Rhaglen Lywodraethu yn cyfeirio at y ffaith bod y Deyrnas Unedig yn gadael yr
Undeb Ewropeaidd, a methiant Llywodraeth Cymru i amlinellu'r mesurau y mae'n
bwriadu eu cyflwyno i fynd i'r afael â chanlyniadau'r penderfyniad hwn i Gymru.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
22 |
0 |
29 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y
diffyg manylion yn y Rhaglen Lywodraethu ynghylch y mesurau y bydd Llywodraeth
Cymru yn eu cyflwyno i gyflawni'r blaenoriaethau a gaiff eu hamlinellu ynddi.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
22 |
0 |
29 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gynllunio ei rhaglen ddeddfwriaethol i sicrhau bod digon o
amser yn cael ei neilltuo i graffu ar filiau gan y Cynulliad Cenedlaethol.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
51 |
0 |
0 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 6.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM6107 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 11.21(ii):
1. Yn nodi
blaenoriaethau a rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru.
2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gynllunio ei rhaglen ddeddfwriaethol i sicrhau bod digon o
amser yn cael ei neilltuo i graffu ar filiau gan y Cynulliad Cenedlaethol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
50 |
0 |
0 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.