Cyfarfodydd

Effeithiolrwydd Cyllid Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 05/12/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

Ystyried adroddiad drafft 'Effeithiolrwydd Cyllid Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru'

Cofnodion:

6.1 Derbyniodd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ‘Effeithiolrwydd Cyllid Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru’. 


Cyfarfod: 21/11/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 9)

Ystyried yr adroddiad drafft ar Gyllid Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Trafododd yr Aelodau ei adroddiad drafft ar Effeithiolrwydd y Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru.


Cyfarfod: 07/11/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

Effeithiolrwydd Cyllid Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor i ohirio ystyried yr adroddiad drafft ar Effeithiolrwydd Cyllid Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru tan ei gyfarfod ar 21 Tachwedd 2012.

 

 

 

 


Cyfarfod: 27/09/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Ystyried yr adroddiad drafft ar effeithiolrwydd cronfeydd strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafftEffeithiolrwydd Cyllid Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru’ ac awgrymodd welliannau.

 

5.2 Cytunodd y Pwyllgor i ystyried yr adroddiad drafft ymhellach mewn cyfarfod yn y dyfodol.


Cyfarfod: 18/07/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Effeithiolrwydd Cyllid Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru - Tystiolaeth gan Gwerth Cymru

FIN(4) 12-12 – Papur 1- Gwerth Cymru

 

Alison Standfast, Dirprwy Gyfarwyddwr (Caffael), Gwerth Cymru

Paul Williams, Swyddog Gweithredol Caffael Strategol, Gwerth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Alison Standfast, Dirprwy Gyfarwyddwr (Caffael), Gwerth Cymru, a Paul Griffiths, Swyddog Gweithredol Caffael Strategol, Gwerth Cymru, i’r cyfarfod.

 

2.2 Yn sgil problemau technegol, penderfynodd y Pwyllgor ohirio’r sesiwn dystiolaeth ac i ysgrifenu at Gwerth Cymru, gan ofyn cwestiynau nas gofynnwyd gan y Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 30/05/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Effeithiolrwydd Cyllid Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru

 

Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd

Jonathan Price, Prif Economegydd

Damien O'Brien,  Prif Weithredwr, WEFO

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd, Bwyd a Rhaglenni Ewropeaidd, i’r cyfarfod.

 

2.2 Bu’r Pwyllgor yn craffu ar waith y Dirprwy Weinidog.

 

Cytunodd Llywodraeth Cymru i ddarparu:

 

·         Manylion am yr hyfforddiant a gafodd staff Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru ar roi cyngor i noddwyr prosiectau ynghylch y broses gaffael.

·         Nodyn i’r Pwyllgor yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd yn nhrafodaethau Llywodraeth Cymru â’r Comisiwn Ewropeaidd ynghylch mynd i’r afael â materion cyfreithiol a thechnegol sy’n berthnasol i ffynhonnell gyllido JESSICA, sef y rhaglen Cyd-gymorth Ewropeaidd ar gyfer Buddsoddi Cynaliadwy mewn Ardaloedd Dinesig.

·         Rhagor o fanylion am y trafodaethau sydd i ddod gyda’r Pwyllgor Monitro Rhaglenni ar yr effaith y gallai’r gyfradd gyfnewid ei chael ar brosiectau ac ar sut y gellir rheoli risgiau posibl.


Cyfarfod: 30/05/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Trafod y dystiolaeth - Effeithiolrwydd Cyllid Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru

Cofnodion:

5.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a gafwyd mewn perthynas â’i ymchwiliad i effeithiolrwydd cyllid strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru.


Cyfarfod: 16/05/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)

Trafod y dystiolaeth - Effeithiolrwydd Cyllid Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth i’w ymchwiliad i Effeithiolrwydd Cyllid Strwythurol yng Nghymru.  

 


Cyfarfod: 16/05/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Effeithiolrwydd Cyllid Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru

Tidal Energy Cyf

FIN(4) 07-12 – Papur 3

 

Chris Williams, Cyfarwyddwr Datblygu, Tidal Energy Cyf

 

Furnace Farm Cyf (mewn cynhadledd fideo)

FIN(4) 07-12 – Papur 4

 

Katherine Himsworth, Furnace Farm Cyf

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Croesawodd y Cadeirydd Chris Williams, Cyfarwyddwr Datblygu, Tidal Energy Cyf. a Katherine Himsworth, Cyfarwyddwr Furnace Farm drwy gyfrwng fideo gynhadledd.

 

4.2 Holodd y Pwyllgor y tystion.

 

 

 

 

 


Cyfarfod: 14/03/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Effeithiolrwydd Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru - Cynghrair Mentrau Cymdeithasol Cymru

FIN(4)-05-12 Papur 2 – Cynghrair Mentrau Cymdeithasol Cymru

 

John Bennett, Prif Weithredwr, Cynghrair Mentrau Cymdeithasol Cymru

Linda Davies, Prif Weithredwr, Too Good To Waste

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd John Bennett, Prif Weithredwr Cynghrair Mentrau Cymdeithasol Cymru, a Linda Davies, Prif Weithredwr Too Good To Waste.

 

3.2 Holodd y Pwyllgor y tystion.

 

Cam i’w gymryd:

 

Cytunodd Cynghrair Mentrau Cymdeithasol Cymru i ddarparu:

 

·         Adroddiad ar fodel yr enillion cymdeithasol a geir o fuddsoddi, a ddefnyddir gan fentrau cymdeithasol.


Cyfarfod: 14/03/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Effeithiolrwydd Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru - ACCA Cymru a Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig

FIN(4)-05-12 Papur 1

 

Ben Cottam, Pennaeth ACCA Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Ben Cottam, Pennaeth ACCA Cymru.

 

2.2 Holodd y Pwyllgor y tyst.

 

Cam i’w gymryd:

 

Cytunodd ACCA Cymru i ddarparu:

 

·         Rhagor o wybodaeth am sut y mae’r modd y rhoddir cronfeydd strwythurol ar waith yng Nghymru yn cymharu â’r hyn a wneir yn rhanbarthau eraill y DU.


Cyfarfod: 14/03/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

Trafodaeth ynghylch y dystiolaeth - Effeithiolrwydd Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru

Cofnodion:

6.1. Bu’r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth ar gyfer ei ymchwiliad i Effeithiolrwydd Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru.


Cyfarfod: 29/02/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

Trafod y dystiolaeth - Effeithiolrwydd Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru

Cofnodion:

7.1 Gohiriodd y Pwyllgor ei drafodaeth ar y dystiolaeth a gafodd ar gyfer ei ymchwiliad i effeithiolrwydd cronfeydd strwythurol yng Nghymru.


Cyfarfod: 29/02/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Effeithiolrwydd Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru - Addysg Uwch Cymru

FIN(4)-04-12: Papur 1

 

Yr Athro Richard B. Davies, Addysg Uwch Cymru

Berwyn Davies, Pennaeth Swyddfa, Addysg Uwch Cymru, Brwsel  

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Athro Richard Davies, Addysg Uwch Cymru, a Berwyn Davies, Pennaeth Addysg Uwch Cymru Brwsel. 

 

Camau i’w cymryd:

 

Cytunodd Addysg Uwch Cymru i ddarparu nodyn i egluro a oedd angen cynnal gwerthusiadau allanol, a sicrhau disgyblaeth ariannol ehangach, yng Nghymru yn unig, neu yn ehangach ledled Ewrop. 


Cyfarfod: 29/02/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Effeithiolrwydd Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru - Llywodraeth Cymru

FIN(4)-04-12: Papur 2

 

Alun Davies - Y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd, Bwyd a Rhaglenni Ewropeaidd

Damian O'Brien - Cyfarwyddwr, WEFO

Peter Ryland - Dirprwy Gyfarwyddwr, Perfformiad Rhaglenni a Chyllid, WEFO

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd, Bwyd a Rhaglenni Ewropeaidd, Damian O’Brien, Cyfarwyddwr WEFO, a Peter Ryland, Dirprwy Gyfarwyddwr, Perfformiad Rhaglenni a Chyllid, WEFO

 

Camau i’w cymryd:

 

Cytunodd Llywodraeth Cymru i ddarparu nodiadau yn

 

·         Cymharu effeithiolrwydd y cronfeydd strwythurol yng Nghymru â’r rheini yn rhanbarthau 15 gwlad o blith gwledydd yr UE, yn enwedig o ran twf a swyddi.

·         Cymharu effeithiolrwydd y cronfeydd strwythurol yng Nghymru â’r rheini yn rhanbarthau eraill y DU, yn enwedig o ran twf a swyddi.

·         Nodi’r ystyriaeth y mae WEFO yn ei rhoi i gynaliadwyedd prosiectau yn y dyfodol yn ystod y broses ymgeisio.

·         Nodi a oes llai o gyllid ar gael yn awr i golegau addysg bellach nag a oedd o dan gyllid Amcan 2 gynt y Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd.

·         Nodi nifer y prosiectau a gaiff eu cyllido drwy JESSICA y mae awdurdodau lleol naill ai yn eu harwain neu’n bartneriaid ynddynt.

 

 

 

 

 

 

 

 


Cyfarfod: 25/01/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Effeithiolrwydd y cronfeydd strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru - Coleg Sir Benfro a Choleg Morgannwg

Coleg Sir Benfro

FIN(4) 02-12 – Papur 4

·       Nicky Howells, Rheolwr Cyllid Allanol, Coleg Sir Benfro

·       David Evans, Cyfarwyddwr Cyllid

 

Coleg Morgannwg

FIN(4) 02-12 – Papur 5

·       Judith Evans, Pennaeth, Coleg Morgannwg

·       Karen Phillips, Dirprwy Bennaeth, Coleg Morgannwg

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Croesawodd y Pwyllgor Nicky Howells, Rheolwr Cyllid Allanol, Coleg Sir Benfro; David Evans, Cyfarwyddwr Cyllid, Coleg Sir Benfro; Judith Evans, Pennaeth, Coleg Morgannwg; a Karen Phillips, Dirprwy Bennaeth, Coleg Morgannwg, i’r cyfarfod.

 

 

4.2 Bu’r Pwyllgor yn holi’r tystion.


Cyfarfod: 25/01/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Effeithiolrwydd y cronfeydd strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru - Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

 

FIN(4) 02-12 – Papur 3

·         Lowri Gwilym, Rheolwr Tîm - Ewrop ac Adfywio

·         Neville Davies, Cynghorwr Ewropeaidd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Phennaeth Polisi Ewropeaidd a Chyllid Allanol, Cyngor Sir Gaerfyrddin

·         Peter Mortimer, Cynghorwr Ewropeaidd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Rheolwr Adfywio, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd Lowri Gwilym, Rheolwr Tîm - Ewrop ac Adfywio, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru; a Neville Davies, Cynghorwr Ewropeaidd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Phennaeth Polisi Ewropeaidd a Chyllid Allanol, Cyngor Sir Gaerfyrddin, i’r cyfarfod.

 

3.2 Bu’r Aelodau’n holi’r tystion.

 

Cam i’w gymryd:

 

·         Cytunodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddarparu manylion ynghylch nifer y prosiectau sy’n cael eu harwain gan lywodraeth leol yng Nghymru sydd wedi defnyddio cyfraddau ymyrryd uwch.

 


Cyfarfod: 25/01/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Effeithiolrwydd y cronfeydd strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru - Pwyllgor Monitro'r Rhaglen

Dr Mark Drakeford, Cadeirydd, y Pwyllgor Monitro'r Rhaglen

Cofnodion:

5.1 Croesawodd y Pwyllgor Dr Mark Drakeford, Cadeirydd Pwyllgor Monitro'r Rhaglen.

 

5.2 Bu’r Pwyllgor yn holi’r tyst.


Cyfarfod: 25/01/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Effeithiolrwydd y cronfeydd strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru

 

 

Cynhadledd Fideo: Y Comisiwn Ewropeaidd

FIN(4) 02-12 – Papur 1, Papur 2

·         Guy Flament, Swyddog Polisi Rhanbarthol y Gyfarwyddiaeth Gyffredinol, y Comisiwn Ewropeaidd

·         Marc Vermyle, y Gyfarwyddiaeth Gyffredinol dros Gyflogaeth, y Comisiwn Ewropeaidd

 

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Guy Flament, y Gyfarwyddiaeth Gyffredinol ar gyfer Polisi Rhanbarthol, y Comisiwn Ewropeaidd; Agnes Lindemans, y Gyfarwyddiaeth Gyffredinol ar gyfer Polisi Rhanbarthol; a Marc Vermyle, y Gyfarwyddiaeth Gyffredinol ar gyfer Cyflogaeth, i gyfarfod y Pwyllgor drwy fideo gynhadledd.

 

2.2 Bu’r Aelodau’n holi’r tystion.

 

Camau i’w cymryd:

 

·         Cytunodd y Gyfarwyddiaeth Gyffredinol ar gyfer Polisi Rhanbarthol i ddarparu gwiriad o’i thystiolaeth bod economi Cymru’n ddibynnol iawn ar y sector cyhoeddus.

 

·         Cytunodd y Gyfarwyddiaeth Gyffredinol ar gyfer Cyflogaeth i ddarparu gwybodaeth am y defnydd o gyfraddau ymyrraeth uwch i gefnogi prosiectau newydd yng Nghymru ers 2009.

 


Cyfarfod: 11/01/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Effeithiolrwydd y cronfeydd strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru

 

FIN(4) 01-12 – Papur 1

 

Matthew Brown, Rheolwr y Gronfa Fuddsoddi Gymunedol, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

Phil Fiander, Cyfarwyddwr Rhaglenni, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

Richard Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid, Valleys Kids

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Estynnodd y Pwyllgor groeso i Matthew Brown, Rheolwr y Gronfa Fuddsoddi Gymunedol, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru; Phil Fiander, Cyfarwyddwr Rhaglenni, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru; a Richard Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid, Valleys Kids.

 

2.2 Holodd y Pwyllgor y tystion.

 

Cam i’w gymryd

 

Cytunodd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i ddarparu:

 

·         Rhagor o fanylion am yr amserlen ar gyfer sefydlu’r Gronfa Fuddsoddi Cymunedol.

 

 


Cyfarfod: 16/11/2011 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Effeithiolrwydd Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru

FIN(4)-09-11 (P3)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor ffyrdd o ymdrin â’i ymchwiliad i effeithiolrwydd Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru.


Cyfarfod: 20/10/2011 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

Ymchwiliad i effeithiolrwydd Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor ei alwad am dystiolaeth ar gyfer yr ymchwiliad i Effeithiolrwydd y Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd a’i gymeradwyo.


Cyfarfod: 28/09/2011 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

Ymchwiliad posibl i effeithiolrwydd Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru

(11.20-11.30)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor ei ymchwiliad posibl i effeithiolrwydd Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru.