Cyfarfodydd
Gwasanaethau dwyieithog
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 02/12/2015 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Adolygiad o Gofnod y Trafodion - Adroddiad Cynnydd ac Argymhellion
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
- Cyfyngedig 3
Cofnodion:
Roedd Comisiynwyr wedi gofyn am adolygiad i archwilio cyfleoedd newydd ar gyfer
dull y Comisiwn o ran adrodd am y trafodion. Roedd y Comisiwn wedi cael
trosolwg o’r camau a gymerwyd hyd yn hyn.
Holodd y Comisiynwyr am yr amserlen ddisgwyliedig ar gyfer newidiadau a
oedd yn cael eu hargymell, a pha mor fuan y byddai gwahanol agweddau yn cael eu
darparu. Roedd ffocws y cynigion ar wneud y mwyaf o werth y Cofnod (sef y
Cyfarfod Llawn a’r pwyllgorau) drwy ei wneud yn fwy hygyrch, yn
ail-ddefnyddiadwy ac yn chwiliadwy gan gynyddu’r defnydd ohono, a chan wneud
prosesau mor effeithlon â phosibl tra’n cynnal ymddiriedaeth o ran ansawdd.
Roedd gan y Comisiynwyr ddiddordeb arbennig mewn sut mae staff yn cael eu
defnyddio’n effeithiol i ateb y galw amrywiol.
Dangosodd y Comisiynwyr gefnogaeth
hefyd i’r syniad o edrych ar y datrysiadau TG mwyaf cost effeithiol, gan
gynnwys addasu systemau a ddefnyddir yn llwyddiannus eisoes mewn mannau eraill.
Mynegwyd hefyd bwysigrwydd bod yn glir ynghylch statws y gwahanol gyhoeddiadau,
er enghraifft fersiynau dros dro a fersiynau terfynol.
Cytunodd y Pwyllgor i:
• gyhoeddi
drafft Cofnod y Trafodion yn gynharach (a hynny’n weithredol o’r Pumed
Cynulliad);
• symud
cyhoeddi y fersiwn cwbl ddwyieithog
ymlaen, a hynny’n weithredol o’r Pumed Cynulliad, ac archwilio
opsiynau’r farchnad ar gyfer darparu hyn; ac
• archwilio
ateb TG newydd yn fwy manwl.
Cyfarfod: 17/11/2014 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Adolygiad o Gofnod y Trafodion – diweddariad
papur
4
Cofnodion:
Cafodd y Comisiwn y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a
wnaed yn yr adolygiad o'r ffordd yr ydym yn cofnodi ein trafodion.
Trafododd y Comisiynwyr y pwysigrwydd o wneud
cysylltiadau priodol rhwng prosiectau a'r buddion sy'n cael eu cyflawni drwy
ddefnyddio technoleg mewn ffyrdd gwahanol.
Yn ogystal, darparodd y Comisiynwyr wybodaeth am yr
enghreifftiau o arfer da y daethant ar eu traws yn ystod eu hymweliad diweddar
â Chanada.
Y bwriad yw mai'r camau nesaf fydd:
·
canolbwyntio ar anghenion defnyddwyr drwy weithdai,
grwpiau ffocws a sesiynau galw heibio;
·
asesu llwyddiant y profion a gynhaliwyd yn ystod tymor yr
hydref--profion nad ydynt eto wedi'u mesur; a
·
llunio proses fwy effeithlon, gyda'r nod o gyhoeddi
Cofnod y Trafodion yn gynt yn y ddwy iaith.
Cyfarfod: 17/11/2014 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Cyfieithu peirianyddol – casgliadau
papur
3
Cofnodion:
Trafododd y Comisiwn bapur a oedd yn cynnwys crynodeb o'r
hyn y mae'r prosiect cyfieithu peirianyddol wedi'i gyflawni. Trafododd y
Comisiynwyr sut i gynnal y buddion a gyflawnwyd y tu hwnt i oes y prosiect, a
sut i fodloni'r galw cynyddol am gyfieithu.
Gwnaeth y Comisiynwyr sylwadau am faterion capasiti a
ddaeth i'r amlwg, ac am bwysigrwydd blaenoriaethu cyfieithu yn y modd cywir er
mwyn darparu gwasanaeth sy'n galluogi Aelodau i wneud eu gwaith. Un sbardun
allweddol ar gyfer y prosiect oedd galluogi'r tîm cyfieithu (TRS) i gyfieithu
mwy o destun yn gynt.
Roedd profion a wnaed gan TRS yn gynharach eleni yn
awgrymu y gallai'r defnydd o gyfieithu peirianyddol, ynghyd â chof cyfieithu,
arwain at gynydd o 20% yng ngallu'r tîm i gyfieithu. Cafodd yr awgrym hwn ei
wireddu yn ymarferol. Mae'r cynnydd hwn mewn cynhyrchiant wedi cyd-daro â
chynnydd yn y galw am gyfieithu. Felly, mae'r sefyllfa hon wedi ein galluogi i
ddarparu dogfennau a negeseuon dwyieithog lle na fyddem, fel arall, wedi gallu
gwneud hynny, ac wedi galluogi'r tîm cyfieithu i ymateb i geisiadau o fewn
terfynau amser tynnach--er enghraifft, briffiau'r Aelodau ar gyfer pwyllgorau.
Cytunodd y Comisiwn i barhau i weithio gyda Microsoft a
sefydliadau allanol i gasglu data ar gyfer y system er mwyn gwella ei hansawdd
ac i ymgorffori defnydd pellach ohoni yn y sefydliad, ac i rannu ein profiadau
o ddefnyddio cyfieithu peirianyddol.
Cyfarfod: 20/10/2014 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 6)
Diweddariad ar Adolygiad y Cofnod; a Chasgliadau’r prosiect Cyfieithu Peirianyddol - Papur 3 ac atodiadau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 10
Cofnodion:
Cyflwynodd
Dave Tosh a Bedwyr Jones y Strategaeth TGCh i’r Bwrdd, i amlinellu’r hyn a
gyflawnwyd drwy droi at ddarpariaeth fewnol, y weledigaeth ar gyfer
gwasanaethau yn y dyfodol a’r amserlenni a ragwelir ar gyfer eu rhoi ar waith. Bu’r
pontio yn rhaglen newid busnes o bwys. Byddai’r datblygiadau arloesol a’r
gwelliannau yn newid y ffordd y mae staff ac Aelodau yn gweithio, gan ddarparu
gwasanaeth a fyddai’n cefnogi swyddfa symudol yn llawn, yn fwy cyfeillgar i’r
amgylchedd ac yn sicrhau bod data yn haws i ddod o hyd a’i ddefnyddio.
Nododd
Dave Tosh yn arbennig fod yr ymddiriedaeth a’r ddealltwriaeth rhwng y
gwasanaeth TGCh a gweddill y sefydliad wedi cynyddu yn ystod y cyfnod pontio.
Penodwyd Rheolwr TG newydd i gynorthwyo staff a’r Aelodau i ddefnyddio’r
caledwedd newydd, ac i ddarparu hyfforddiant pwrpasol. Byddai’r holl
hyfforddiant yn cael ei ddarparu yn ddwyieithog a byddai’n cynnwys ymweliadau â
swyddfeydd etholaethol.
Cafodd
aelodau’r Bwrdd sicrwydd am ddiogelwch y Cwmwl, y mae’r Cynulliad wedi dechrau
ei fabwysiadu, gan ddechrau gyda symud y wefan i Sharepoint.
Mynegodd
aelodau’r Bwrdd eu diolch i Dave Tosh a’r tîm TGCh.
Cyfarfod: 06/03/2014 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Cofnodi Trafodion y Cynulliad
papur
2
Cofnodion:
Bu'r Comisiwn
yn trafod papur a oedd yn nodi cefndir y gwaith o gofnodi trafodion y
Cynulliad. Roedd y prif bwyntiau a nodwyd gan y Comisiynwyr yn cynnwys:
·
Mae trafodion y Cynulliad yn cael
eu cofnodi mewn nifer o ffyrdd, ac mae hynny i'w ddisgwyl mewn democratiaeth
agored, hygyrch a thryloyw.
·
Yn unol â'r arfer ledled y
Gymanwlad ac yn San Steffan ers y 19eg ganrif, nid yw Cofnod Trafodion y
Cynulliad yn drawsgrifiad gair am air ond yn gofnod wedi'i olygu o'r hyn a
ddywedir yn y Cyfarfod Llawn a chyfarfodydd pwyllgor.
·
Mae bodolaeth Senedd.tv yn golygu
nad y Cofnod ysgrifenedig yw'r unig ffynhonnell i'r rhai sydd â diddordeb yn yr
hyn a ddywedir yn ystod ein trafodion.
Bu'r
Comisiynwyr yn trafod y dull presennol o gynhyrchu a chyhoeddi Cofnod y
Trafodion, a'r broses o adnewyddu Senedd.tv. Fe wnaethon nhw gytuno y gallai
fod cyfleoedd i fanteisio ar dechnolegau newydd yn y maes hwn.
Cytunodd y
Comisiynwyr bod cadw cofnod ysgrifenedig sy'n nodi trafodion y Cynulliad yn
ffurfiol yn bwysig iawn, yn enwedig ar gyfer trafodion y Cyfarfod Llawn. Mae'n
debygol y bydd hyn yn wir yn y dyfodol, hyd y gellir rhagweld. Fodd bynnag, dylid ymchwilio i unrhyw
gyfleoedd posibl i gofnodi pethau mewn modd gwahanol, yn enwedig os y gallai
hyn gynyddu ymgysylltiad â gwaith y Cynulliad a dealltwriaeth o'r gwaith
hwn.
Cytunodd y
Comisiynwyr i gynnal adolygiad, dros y 12 mis nesaf, i ystyried nifer o
agweddau, gan gynnwys:
·
ymchwilio i wahanol ffyrdd o
weithio a defnyddio technoleg i wella effeithlonrwydd a gwneud y defnydd gorau
o adnoddau yn y maes pwysig hwn o weithgarwch;
·
pa ffurf y dylai ein gwaith o
gofnodi'r trafodion ei chymryd er mwyn bodloni anghenion Aelodau a
rhanddeiliaid; ac
·
asesu'r cyfleoedd sydd ar gael i ddefnyddio'r cynhyrchion hyn
mewn gwahanol ffyrdd, gan wneud gweithgareddau'r Cynulliad yn fwy tryloyw ac
agored ac yn haws ymgysylltu â nhw yn y byd digidol.
Cyfarfod: 30/01/2014 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Cynnydd o ran Cyfieithu Peirianyddol
papur
3
Cofnodion:
Un ymrwymiad yng Nghynllun
Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad oedd gwneud y defnydd gorau o dechnoleg i
gynorthwyo Aelodau’r
Cynulliad a staff i gyflawni eu swyddogaethau’n effeithiol. Ym mis Tachwedd 2013, cytunodd y Comisiynwyr i barhau i
weithio gyda Microsoft i ddatblygu cyfleuster cyfieithu Microsoft o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg a fyddai ar gael i’r cyhoedd yn 2014.
Ers hynny,
gwnaethpwyd profion ansawdd ac mae swm sylweddol o ddata wedi’i fwydo i’r
system, gan gynnwys data a ddarparwyd gan nifer o sefydliadau dwyieithog. Mae
canllawiau’n cael eu datblygu ar gyfer staff Comisiwn y Cynulliad ac Aelodau’r
Cynulliad a’u staff, i gynorthwyo i hybu’r cyfleuster a chynyddu’r ddealltwriaeth
o’r ffordd gywir o’i ddefnyddio. Caiff y cynnyrch ei lansio yn y Cynulliad ar
21 Chwefror, i gyd-fynd â Diwrnod Rhyngwladol y Famiaith. O’r dyddiad hwnnw
ymlaen bydd y cyfleuster ar gael i bob Aelod Cynulliad, staff, ac yn fyd-eang
drwy Microsoft Office a chynnyrch eraill.
Llongyfarchwyd
y swyddogion am y cynnydd cyflym a wnaed ar y prosiect hwn, a oedd yn dangos
bod y Cynulliad ar flaen y gad yn y ffordd y mae’n defnyddio technoleg i
gefnogi dwyieithrwydd.
Cyfarfod: 21/11/2013 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Cyfieithu peirianyddol: gwella ein capasiti cyfieithu
papur 1
Cofnodion:
Roedd y Cynllun Ieithoedd Swyddogol, y cytunodd y Cynulliad arno ym mis
Gorffennaf 2013, yn cynnwys ymrwymiad y byddai Comisiwn y Cynulliad yn gwneud y
defnydd gorau o dechnoleg i gyfieithu dogfennau er mwyn ei gwneud yn bosibl i
fwy o ddogfennau, gan gynnwys Cofnod y Trafodion, gael eu darparu yn y ddwy
iaith ar yr un pryd.
Yn dilyn cytundeb yng nghyfarfod y Comisiwn ym mis Mehefin, bu’r Gwasanaeth
Cyfieithu a Chofnodi’n gwerthuso datrysiadau Google a Microsoft Translator at y
dibenion canlynol, er mwyn:
- galluogi’r Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi i gynyddu lefelau allbwn a
darparu ystod ehangach o wasanaethau drwy gyfieithu mwy o destun mor gyflym ac
mor gost effeithiol ag y bo modd;
- darparu cyfieithu peirianyddol nid yn unig i’r Gwasanaeth Cyfieithu a
Chofnodi ond hefyd i aelodau eraill o staff y Cynulliad, Aelodau’r Cynulliad a’u
staff hwy drwy ddarparu system hunan-wasanaeth ar gyfer cyfieithiadau ‘bras’ i
hwyluso cyfathrebu ac arferion gwaith yn yr iaith a ddewisir;
- rhannu’r gwasanaethau a’n profiadau â sefydliadau eraill yng Nghymru.
Mae gwaith wedi cael ei wneud i asesu ansawdd yr allbwn a ddarperir gan y
ddwy system.
Bydd swyddogion yn parhau i weithio gyda Microsoft i ddatblygu’r offeryn
cyfieithu gyda’r bwriad o’i sefydlu fel system newydd a fydd ar gael yn
gyhoeddus ar adeg briodol yn 2014. Bydd Google yn parhau i gael ei dreialu o
fewn y Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi fel y gellir profi effeithlonrwydd y
system hon yn llawn.
Roedd y Comisiynwyr yn falch o’r cynnydd sy’n cael ei wneud mewn
perthynas ag asesu gallu’r ddau offeryn cyfieithu peirianyddol. Rhoddwyd
pwyslais ar y ffaith y byddai manteision y mathau hyn o gyfleusterau nid yn
unig yn cyfranu’n sylweddol at allu pobl yn y Cynulliad i weithio yn eu dewis
iaith, ond mae ganddynt y potensial i fod o gymorth mawr i sefydliadau a
busnesau eraill yng Nghymru a thu hwnt. Dylai swyddogion ymgysylltu â phartïon
sydd â diddordeb ac arbenigwyr ym maes cyfieithu i drafod y manteision a’r
cyfleoedd a gynigir gan offerynnau o’r fath.
Teimlwyd y byddai angen canllawiau a hyfforddiant i’w gwneud yn haws i
bobl ddefnyddio’r offerynnau hynny yn y Cynulliad ac i sicrhau eu bod yn
ymwybodol o rai o’r risgiau o ran cywirdeb allbwn y system hon. Ni fyddai
unrhyw allbwn cyfieithu peirianyddol heb ei ôl-olygu yn briodol i’w ddefnyddio
ar gyfer dogfennau i’w cyhoeddi y tu allan i’r Comisiwn a byddai’n hanfodol bod
y safonau uchel sy’n ofynnol ar gyfer dogfennau a gyhoeddir yn cael eu cynnal.
Diolchwyd i’r swyddogion am wneud cynnydd sylweddol ar y prosiect hwn
dros gyfnod cymharol fyr o amser.
Cyfarfod: 27/06/2013 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Y Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi
Cyfarfod: 27/06/2013 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Cyfieithu peirianyddol
Cyfarfod: 27/06/2013 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Y wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun ieithoedd swyddogol
Cyfarfod: 27/06/2013 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Gwella ein gwasanaethau dwyieithog
Cofnodion:
Mae Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012 yn gosod dyletswydd ar y Comisiwn i fabwysiadu a chyhoeddi Cynllun Ieithoedd Swyddogol. Mae’r cynllun yn nodi camau y bydd y Comisiwn yn eu cymryd i gydymffurfio â’i ddyletswyddau fel y’u hamlinellir yn y Ddeddf, a’r camau a gaiff eu cymryd i gyflawni uchelgais y Comisiwn i ddod yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog. Mae nifer o feysydd blaenoriaeth a thargedau wedi’u nodi yn y Cynllun a gaiff eu darparu dros y tair blynedd nesaf a fydd yn ein gosod fel sefydliad enghreifftiol wrth ddarparu gwasanaethau dwyieithog. Mae’r Cynllun hefyd yn rhoi sylw i’r materion a godwyd gan Aelodau’r Cynulliad ac ymgyngoreion yn ystod y cyfnod y bu’r Cynulliad yn ystyried y Bil Ieithoedd Swyddogol.
Cymeradwywyd y Cynllun Ieithoedd Swyddogol drafft gan y Comisiwn. Caiff ei ystyried gan y Cynulliad yn ystod wythnos ola’r tymor.
Hefyd bu’r Comisiynwyr yn trafod ffyrdd y byddai modd gwella’r ddarpariaeth o wasanaethau dwyieithog, i sicrhau y gwneir y defnydd gorau o adnoddau. Yn benodol, teimlwyd bod cyfleoedd sylweddol i wneud defnydd arloesol o dechnolegau newydd.
Cytunwyd y byddai’r swyddogion yn parhau i ymchwilio i’r opsiynau ar gyfer cyfieithu peirianyddol, ac yn eu profi, ac y byddent yn cyflwyno’u cynigion i’r Comisiwn yn yr hydref.
Daeth y Comisiynwyr i’r casgliad y byddai’n briodol rhoi ystyriaeth i’r opsiynau ar gyfer Cofnod y Trafodion ar gyfer y dyfodol. Fodd bynnag, roeddent yn awyddus i edrych yn fanwl ar arferion a chynlluniau yn y seneddau eraill, a gwneud cynnydd o ran y cofnod clyweledol, cyn penderfynu ynghylch gwneud newidiadau i’r dull gweithredu.
Cytunwyd y dylai swyddogion ymchwilio i’r materion a’r opsiynau sydd ar gael ar gyfer Cofnod y Trafodion, ac y dylai’r Comisiwn ystyried y mater yn fwy manwl yn yr hydref.
Diolchodd y Comisiynwyr i Rhodri Glyn Thomas a’i swyddogion am eu gwaith ar y Cynllun drafft a’u hymdrechion parhaus yn y maes hwn.
Cytunwyd mai dim ond Agenda a Chofnodion y cyfarfod hwn fyddai’n cael eu cyhoeddi. Caiff y Cynllun i osod gerbron y Cynulliad ar 17 Gorffennaf 2013.
Camau i’w cymryd:
Y wybodaeth ddiweddaraf i gael ei rhoi i’r Comisiynwyr am nifer yr Aelodau Cynulliad sy’n gwneud eu cyfraniadau yn Gymraeg yn y Cyfarfod Llawn ac mewn cyfarfodydd pwyllgor.
Y swyddogion i edrych ar y ddarpariaeth o wiriwyr sillafu/geiriaduron yn Gymraeg a Saesneg.
Cyfarfod: 27/09/2012 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) a’r Cynllun Gwasanaethau Dwyieithog
Cofnodion:
Trafododd y Comisiwn drafodion
Cyfnod 3 a 4 y Bil, sydd i ddigwydd yn y Cyfarfod Llawn
ddydd Mercher 3 Hydref, a chlywed y wybodaeth ddiweddaraf ar faterion yn
ymwneud â'r Bil a'r Cynllun.
Diolchodd y Comisiynwyr i'r swyddogion am eu hymdrechion hyd yma yn cefnogi'r Bil wrth iddo gael ei ystyried gan y Cynulliad.
Cyfarfod: 28/06/2012 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) a’r Cynllun Gwasanaethau Dwyieithog
Papur 2
Cofnodion:
Trafododd
y Comisiynwyr hynt Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol), ar
ôl i ystyriaeth Cyfnod 2 o’r Bil ddod i
ben ar 21 Mehefin.
Cytunwyd
ar y saith gwelliant a gyflwynwyd gan y Comisiwn yng Nghyfnod 2, gan gynnwys
gwelliant yn egluro y cyfyngir y ddyletswydd i ddarparu cofnod cwbl ddwyieithog
i drafodion y Cyfarfod Llawn.
Yn ystod
trafodion y Pwyllgor, cyflwynodd nifer o Aelodau welliannau nad oeddent wedi
pwyso am bleidlais arnynt ond yr oeddent wedi gofyn i’r Comisiwn eu hystyried
ymhellach cyn i’r Bil ddychwelyd i’r Cynulliad llawn ar gyfer Cyfnod 3. Roedd y
Comisiwn yn cydnabod pe byddai’r Bil yn cael ei drafod ymhellach ar 18
Gorffennaf, fel y bwriadir ar hyn o bryd, na fyddai digon o amser i’r Comisiwn
a’r Aelodau perthnasol ystyried a thrafod y materion hyn yn drylwyr ac mewn
modd adeiladol.
Cytunodd
y Comisiwn i ofyn i ohirio’r ddadl Cyfnod 3 ar y Bil tan yn gynnar yn nhymor yr
Hydref.
Camau
i’w cymryd:
·
Rhodri
Glyn Thomas AC i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes yn gofyn i ohirio trafodion
Cyfnod 3.
·
Rhodri
Glyn Thomas AC i weithio gyda swyddogion ac Aelodau’r Cynulliad i drafod y
materion y mae angen eu hystyried ymhellach cyn Cyfnod 3.
Cyfarfod: 09/05/2012 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) a’r Cynllun Ieithoedd Swyddogol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 31
Cofnodion:
Gosododd
y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yr adroddiad ar
drafodaethau Cyfnod 1 ar egwyddorion cyffredinol Bil Cynulliad Cenedlaethol
Cymru (Ieithoedd Swyddogol) a’r Cynllun Gwasanaethau Dwyieithog gerbron y
Cynulliad ar 4 Mai.
Ystyriodd
y Comisiynwyr oblygiadau argymhellion y Bil a’r Cynllun a chytunwyd ar y modd y
byddai’r Comisiynydd sy’n gyfrifol yn cyfrannu at y ddadl Cyfnod 1 ar 16 Mai.
Wrth
benderfynu sut y dylai ymateb, ystyriodd y Comisiwn:
·
Ei
uchelgais i gael i gydnabod fel corff seneddol dwyieithog sy’n esiampl i eraill
a’i ymrwymiad i wella’i wasanaethau dwyieithog;
·
Yr
angen sicrhau hyblygrwydd er mwyn medru datblygu a gwella gwasanaethau dros
gyfnod;
·
Costau
unrhyw gyfrifoldebau newydd sydd wedi’u cynnwys yn argymhellion adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a
Llywodraeth Leol ac effaith ei
flaenoriaethau ar gyfer gwella gwasanaethau dwyieithog mewn gwahanol ffyrdd;
·
Y gwaith ymgynghori a wnaed yn 2011 cyn y broses
ddeddfu;
·
Yr
angen i sicrhau bod staff yn gwbl ymwybodol o oblygiadau’r Bil a’r Cynllun ar
wasanaethau;
·
Yr angen i sicrhau nad yw deddfwriaeth i geisio
sicrhau bod ieithoedd swyddogol yn cael eu trin yn gyfartal yng ngwaith y
Cynulliad yn cyfyngu’n anfwriadol ein gallu i newid y modd y caiff gwasanaethau
eu darparu.
Cyfarfod: 24/11/2011 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
2 Gwasanaethau Dwyieithog
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Yn ei gyfarfod ar 14 Gorffennaf 2011, cytunodd y Comisiwn i gynnal
ymgynghoriad ar Fil (Drafft) Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol)
ac ar y Cynllun Gwasanaethau Dwyieithog drafft ac i ddarparu Cofnod dwyieithog
o drafodion y Cyfarfod Llawn yn amodol ar y ffaith bod y trefniadau’n
gynaliadwy ac yn rhesymol o ran cost.
Yn dilyn yr ymgynghoriad
cyhoeddus cyn y broses ddeddfu ar y Bil a’r Cynllun drafft, bu swyddogion yn
dadansoddi’r ymatebion. Roedd y cyfranwyr wedi awgrymu nifer o ddiwygiadau i’r
Bil a’r Cynllun. Nodwyd yr ymdrech a wnaed i annog pobl i gyfrannu at y broses
ymgynghori ac roedd y Comisiwn yn croesawu’r ymatebion a ddaeth i law.
Penderfynodd y Comisiwn na fyddai’r ddyletswydd i ddarparu Cofnod cwbl
ddwyieithog o drafodion y Cyfarfod Llawn yn cael ei chynnwys ar wyneb y Bil.
Cytunwyd ar weddill y diwygiadau arfaethedig i’r Bil drafft. Bu’r Comisiwn yn
ystyried y diwygiadau posibl i’r Cynllun a gwnaeth nifer o awgrymiadau gan ofyn
i swyddogion eu hadlewyrchu yn y drafft arfaethedig.
Ystyriwyd y sylwadau a wnaed yn ystod y broses ymgynghori ynghylch y
Cofnod, a’r ymchwiliadau a wnaed i’r datblygiadau technolegol diweddaraf i
gynorthwyo’r gwasanaethau cyfieithu.
Penderfynodd y Comisiwn y bydd Cofnod ysgrifenedig o drafodion y Cyfarfod
Llawn yn cael ei gyhoeddi, o fewn pum niwrnod gwaith, o fis Ionawr 2012, gyda
chyfieithiad o gyfraniadau o’r naill iaith i’r llall. Bwriedir cyflawni hyn
drwy ddefnyddio cyfuniad o systemau cyfieithu peirianyddol a phrawfddarllenwyr,
ynghyd â system reoli a golygu fewnol er mwyn sicrhau bod y Cofnod yn cyrraedd
safonau presennol y Cynulliad o ran arddull, cysondeb ac ansawdd. Byddai’r
union gost yn dibynnu ar sawl ffactor, gan gynnwys pa mor gyflym y bydd
datblygiadau technolegol yn cynyddu cywirdeb y cyfieithiad peirianyddol ond,
mewn unrhyw achos, ni fydd y gost yn fwy na £95,000 y flwyddyn.
Bydd y Bil drafft diwygiedig, y Memorandwm Esboniadol ategol, a’r Cynllun
arfaethedig yn cael eu cyflwyno ym mis Ionawr 2012.
Cafodd Rhodri Glyn Thomas AC ei awdurdodi gan y Comisiwn i fod yn gyfrifol
am y Bil. Diolchodd y Comisiynwyr i Rhodri Glyn Thomas AC a’r swyddogion am y
gwaith a wnaed hyd yn hyn. Diolchodd Rhodri Glyn Thomas AC i Fwrdd yr Iaith am
y cymorth a roddodd.
Cam i’w gymryd: Rhodri Glyn Thomas AC i gyflwyno unrhyw welliannau terfynol i’r Bil a’r Cynllun cyn eu cyflwyno ar ôl ymgynghori ag Angela Burns AC, a fydd yn gyfrifol am sicrhau bod darpariaethau ariannol perthnasol wedi’u cynnwys yn y Memorandwm Esboniadol ategol.
Cyfarfod: 20/10/2011 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
2 Gwasanaethau dwyieithog
Dogfennau ategol:
- AC(4)2011(5) Papur 2 - Gwasanaethau Dwyieithog, Eitem 2 PDF 150 KB Gweld fel HTML (2/1) 63 KB
- AC(4)2011(5) Papur 2 Atodiad A, Eitem 2 PDF 368 KB
Cofnodion:
Daeth y cyfnod ymgynghori â’r cyhoedd cyn
deddfu i ben ar 14 Hydref a bydd yr
ymatebion yn cael eu dadansoddi
a’u cyflwyno i’r Comisiwn yn
ei gyfarfod nesaf.
Yn amodol ar gytundeb y Comisiwn,
disgwylir y bydd y Bil, gan gynnwys
unrhyw ddiwygiadau, yn cael ei
gyflwyno yn gynnar ym mis
Rhagfyr, a bydd y cynllun arfaethedig yn cael ei
osod gerbron y Cynulliad yr un pryd.
Yn ei gyfarfod ym
mis Gorffennaf, cytunodd y Comisiwn mewn egwyddor y dylid ailsefydlu Cofnod y Trafodion cwbl ddwyieithog cyhyd â bod y trefniant yn gynaliadwy yn
y tymor hir ac y gellid ei ddarparu
am gost resymol. Ers mis Gorffennaf,
bu’r cyfieithwyr yn profi’r systemau
meddalwedd cyfieithu ar-lein a ddarperir gan Google, ac mae
asesiad o’r gost o ddefnyddio system o’r fath yn
cael ei gynnal
ar hyn o bryd.
Croesawodd y Comisiynwyr y cynnydd a wnaed ar yr
ymgynghoriad cyhoeddus a’r gwaith ymchwilio
a wnaed mewn perthynas â darparu Cofnod y Trafodon cwbl ddwyieithog.
Bydd papur arall ar y mater (yn ogystal ag ar ffurf
derfynol y Bil a’r Cynllun) yn
cael ei drafod
yng nghyfarfod y Comisiwn ar 24 Tachwedd.
Cam i’w gymryd:
Swyddogion i gysylltu â
Google eto i ymchwilio a yw’n debygol o godi tâl am y pecyn cymorth ac i adrodd ar ganlyniad y trafodaethau yn ei gyfarfod ar
24 Tachwedd.
Cyfarfod: 14/07/2011 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
4 Gwasanaethau dwyieithog
Dogfennau ategol:
- AC(4)2011(3) Papur 4 - Gwasanaethau dwyieithog, Eitem 4 PDF 136 KB Gweld fel HTML (4/1) 34 KB
- AC(4)2011(3) Paper 4 Atodiad A
- AC(4)2011(3) Paper 4 Atodiad B
- AC(4)2011(3) Paper 4 Atodiad C
- AC(4)2011(3) Paper 4 Atodiad D
- AC(4)2011(3) Paper 4 Atodiad E
- AC(4)2011(3) Paper 4 Atodiad F
Cofnodion:
Cafodd y Cofnod o Drafodion y Cyfarfod
Llawn ei drafod, gan ystyried yr adroddiad gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg, sylwadau
a wnaed gan Aelodau a rhanddeiliaid, yr egwyddor o fynediad i drafodion y
Cynulliad drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg, a’r angen i sicrhau gwerth am
arian. Cytunodd y
Comisiwn y dylai ymchwiliadau i ddarparu cofnod dwyieithog barhau, a gofynnodd
am ragor o wybodaeth fanwl am gyfanswm y costau tebygol, gan gynnwys strwythur
tâl y gwasanaeth Google Translate o fis Rhagfyr 2011 ymlaen. Dywedodd y Comisiwn bod angen
i unrhyw drefniant fod yn gynaliadwy. Fodd bynnag, os gellid dod o hyd i ateb
hirdymor am bris rhesymol, mewn egwyddor, mae’r Comisiwn yn awyddus i ddarparu
Cofnod gwbl ddwyieithog. Yn
y cyfamser, bydd trefniadau presennol yn parhau. Bydd y Llywydd yn ysgrifennu at Fwrdd yr Iaith Gymraeg
ynglŷn â’r mater.
Yn amodol
ar ddiwygiadau i adlewyrchu’r penderfyniadau hyn, cytunwyd ar Fil drafft
Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghylch Ieithoedd Swyddogol, y Cynllun Ieithoedd
Swyddogol drafft a’r amserlen ymgynghori. Gofynnodd y Comisiynwyr bod yr ymgynghoriad cyhoeddus yn
cynnwys rhanddeiliaid o bob cwr o Gymru, gan gynnwys awdurdodau lleol.
Camau i’w cymryd: Swyddogion
i ddarparu rhagor o fanylion am gostau defnyddio Google Translate o fis Rhagfyr
2011 ymlaen.
Y Llywydd i
ymateb i Fwrdd yr Iaith Gymraeg ar ran Comisiwn y Cynulliad.