Cyfarfodydd
Cyllideb Comisiwn y Cynulliad 2017-18
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 01/04/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Craffu ar Gyfrifon 2017-18
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
- Cyfyngedig 3
Cofnodion:
Cafodd y Comisiynwyr
wybod am waith craffu'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (PAC)
mewn perthynas â Chyfrifon 2017-18. Roedd
y Pwyllgor wedi cyflwyno adroddiad ar y broses flynyddol o graffu ar y cyfrifon
ac adroddiadau blynyddol amrywiaeth o sefydliadau sy’n cael eu hariannu o’r
pwrs cyhoeddus.
Mae'r adroddiad terfynol
yn cynnwys 40 o argymhellion, ac mae naw ohonynt yn ymwneud â'r Comisiwn. Nododd y Comisiynwyr yr
adroddiad, a chytunwyd y byddai'r Comisiynydd sydd â chyfrifoldeb dros y
Gyllideb a Llywodraethu yn drafftio ymateb i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.
Caiff y Comisiynwyr weld copi o’r ymateb cyn y caiff ei anfon at y Pwyllgor.
Cyfarfod: 04/12/2017 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Y gyllideb atodol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 6
- Cyfyngedig 7
- Cyfyngedig 8
Cyfarfod: 02/02/2017 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 5)
Gwariant 2017-18
Y wybodaeth ddiweddaraf i ddilyn ar lafar/mewn papur
Cofnodion:
Nododd Claire Clancy fod yr Adroddiad Rheoli Cyllid
ar gyfer mis Ionawr 2017 wedi cael ei gynhyrchu ar 1 Chwefror, a nododd ei bod
yn gwerthfawrogi hynny. Yna, gwnaeth Nia Morgan gyflwyniad i'r Bwrdd ynghylch y
manylion gwariant ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol ac ar gyfer 2017-18.
Amlinellodd Nia y pwysau sydd ar gyllidebau ar hyn
o bryd a'r camau gweithredu y gellir eu cymryd i liniaru'r risgiau ar ddiwedd y
flwyddyn, a'r pwysau ar gyllidebau'r dyfodol.
Mewn perthynas â chyllideb 2017-18, bydd y Bwrdd
Buddsoddi ac Adnoddau yn craffu ar nifer o gostau sylweddol ac amrywiol, gyda
golwg ar nodi meysydd lle gellir cyflawni arbedion cost a'u blaenoriaethu, ac
asesu effaith cynllunio capasiti. Roedd y Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau wedi
cytuno i beidio â chyflwyno cyllideb atodol eleni, a hynny er mwyn caniatáu
amser ar gyfer sicrhau bod y ffigurau a amcangyfrifir ar hyn o bryd yn fwy
cywir.
CAMAU GWEITHREDU: Gofynnwyd i'r Penaethiaid
Gwasanaeth gymryd y camau a ganlyn:
·
rhoi
gwybod i'r tîm cyllidebau am unrhyw newidiadau sy'n cael eu gwneud o ddydd i
ddydd o ran eu gwariant arfaethedig ar gyfer y flwyddyn gyfredol, a hynny er
mwyn sicrhau y gellid gwneud penderfyniadau deallus ynghylch gwariant ar
brosiectau a gynlluniwyd.
·
rhoi
gwybodaeth i Gyfarwyddwyr am eitemau y bwriedir eu cynnwys yng nghyllideb
2017-18, o ran amseru, blaenoriaethu a'r risgiau sy'n gysylltiedig â pheidio â
bwrw ymlaen.
Bydd y Comisiwn yn ystyried cyllideb 2017-18 mewn
cyfarfod yn y dyfodol.
Cyfarfod: 03/11/2016 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Cyllideb Comisiwn y Cynulliad 2017-18 - ymateb i waith craffu ac adroddiad y Pwyllgor Cyllid
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 13
- Cyfyngedig 14
- Cyfyngedig 15
- Cyfyngedig 16
- Cyfyngedig 17
Cofnodion:
Cafodd y
Comisiwn wybodaeth am hynt proses cyllideb y Comisiwn, gan gynnwys gwaith
craffu gan y Pwyllgor Cyllid. Croesawodd y Comisiynwyr ddull adeiladol y
Pwyllgor Cyllid a'r ffaith i'r Pwyllgor gydnabod yr ansicrwydd ynghylch lefelau
ariannu ar gyfer y blynyddoedd i ddod.
Cytunodd
y Comisiwn ar ei ymateb i argymhellion y Pwyllgor Cyllid a nododd y ffaith y
caiff dogfen y gyllideb derfynol ei gosod ar 9 Tachwedd 2016.
Cyfarfod: 19/09/2016 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Strategaeth Cyllideb y Comisiwn ar gyfer y Pumed Cynulliad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 20
- Cyfyngedig 21
Cofnodion:
Trafododd
y Comisiynwyr ddogfen strategaeth y gyllideb ddrafft a baratowyd yn unol â strategaeth
newydd y Comisiwn ac a oedd yn seiliedig ar benderfyniadau a wnaed gan y
Comisiwn yn ystod yr haf.
Roedd y
ddogfen yn amlinellu'r cynlluniau gwariant a fwriedir ar gyfer 2017-18 yn
ogystal â chynlluniau dangosol a gofynion ariannol hyd at ddiwedd y Pumed
Cynulliad. Trafododd y Comisiynwyr nifer o agweddau ar y gyllideb yn fanwl.
Wrth edrych tua'r dyfodol, mae'r Comisiynwyr yn credu bod angen newid mawr yn y
ffordd rydym yn cynhyrchu, rheoli ac yn defnyddio gwybodaeth am fusnes y
Cynulliad os yw’r Cynulliad yn mynd i gael ei ystyried yn senedd ddigidol o’r
radd flaenaf sy’n agored, yn gynhwysol ac yn hawdd ymwneud â hi, gan arwain at
well cyfreithiau a gwell craffu. Bydd y Comisiwn yn gweithio i wella'r ffordd y
mae pobl yn ymgysylltu â'r Cynulliad a sut y darperir gwasanaethau i'r Aelodau.
Bydd
angen strategaeth ar gyfer y gyllideb sy'n darparu cynnydd cymedrol yn lefelau
adnoddau cyffredinol y Comisiwn er mwyn i'r Comisiwn allu parhau i ddarparu
gwasanaethau ardderchog i Aelodau'r Cynulliad. Gallai'r cynlluniau ariannol
tymor hwy fod yn destun newid o ganlyniad i angen i ymateb i'r heriau sy'n dod
i'r amlwg dros y pedair blynedd nesaf, ond, ar sail asesiadau cyfredol, mae
Comisiynwyr yn ystyried bod y cynigion wedi'u gosod ar lefelau sy'n deg ac yn
ddarbodus.
Cytunodd
y Comisiwn y dylai'r gyllideb ddrafft gael ei gosod ar 30 Medi. Disgwylir i'r
Pwyllgor Cyllid graffu arni ar 5 Hydref. Mae'r ddadl yn y Cyfarfod Llawn
ynghylch Cynnig y Gyllideb wedi ei gynllunio ar gyfer 16 Tachwedd.